Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Mawrth 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o benderfyniad Remploy i gau tri o’i ffatrïoedd yng Nghymru, ac effaith hynny ar yr economi? (WAQ51493)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ganlyniadau penderfyniad Remploy i gau tri o’i ffatrïoedd yng Nghymru i weithwyr ag anableddau? (WAQ51495)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Cymeradwywyd y cynllun i gau ffatrïoedd Remploy ym Mrynaman, Trefforest ac Ystradgynlais gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, er gwaethaf sylwadau cryf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn erbyn y cynigion hyn.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yr ydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Remploy i edrych ar gynlluniau amgen i sicrhau rhyw fath o gynhyrchu neu hyfforddi ar y safleoedd, ac yr ydym yn parhau i ymchwilio i lawer o opsiynau. Yr ydym hefyd yn cydweithredu yn y gwaith o ddatblygu strategaeth cyflogaeth leol ar gyfer ardal y Cymoedd uchaf.
Mae Remploy yn cynnig ystod o opsiynau i gyflogeion gan gynnwys trosglwyddiad i safleoedd gwahanol ac yr ydym yn gweithio gyda ffatrïoedd Remploy eraill i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i weithwyr a fyddai’n dymuno adleoli. Bydd pecyn cymorth cyflogaeth ar gael hefyd a gellir ychwanegu at y cymorth hwn drwy ein rhaglen ReAct.
Er bod y bwriad i gau’r tair ffatri yn anffodus, ni ddylai’r effaith economaidd ehangach fod yn rhy andwyol. Yn gyntaf, cynigir cyflogaeth yn y ffatri yng Nghastell-nedd i gyflogeion anabl ym Mrynaman ac Ystradgynlais. Yn ail, mae’r cyfanswm o tua 80 o swyddi yn ffatri Trefforest yn cynrychioli cyfran fach iawn (0.1 y cant) o’r 77,600 o swyddi yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf. Yn drydydd, o ran yr effaith ar enillion, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi cadarnhau na chaiff unrhyw gyflogeion anabl eu diswyddo’n orfodol, ac y byddant yn gallu cadw telerau ac amodau Remploy hyd yn oed os cânt gyflogaeth amgen. Yn olaf, nod cynllun moderneiddio Remploy yw pedryblu nifer y bobl anabl sy’n cael cymorth i gael gwaith erbyn 2012, fel ei fod yn y pendraw yn rhoi cymorth i tua 20,000 o bobl ledled Prydain Fawr i ddod o hyd i gyflogaeth brif ffrwd bob blwyddyn, a gaiff effaith gadarnhaol ar gyfradd cyflogaeth pobl anabl.
Mae data o’r Arolwg o’r Llafurlu a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra i bobl anabl yng Nghymru yn 8.0 y cant yn 2006. Er bod y bwlch rhwng cyfraddau diweithdra i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru wedi cynyddu ychydig ers 2004, mae’r gwahaniaeth yn llai na’r hyn a gofnodwyd yn 2001.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth cyngor gyrfa ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? (WAQ51497)
Jane Hutt: Mae gan bob person ifanc rhwng 11-18 oed hawl fel rhan o’r cwricwlwm i fanteisio ar raglenni Addysg Gyrfaoedd a Chanllawiau ac Addysg sy’n Gysylltiedig â Gwaith i’w helpu i ddatblygu dysgu a sgiliau rheoli a chynllunio gyrfa.
Mae fframweithiau’r cwricwlwm ar gyfer Addysg Gyrfaoedd a Chanllawiau ac Addysg sy’n Gysylltiedig â Gwaith wedi’u cyfuno i greu un fframwaith a fydd ar waith o fis Medi 2008—Gyrfaoedd a Byd Gwaith. Bydd hyn yn rhoi mwy o ffocws i ddarparwyr dysgu a dysgwyr ac yn ategu negeseuon am faterion megis yr angen i brofi dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, i fabwysiadau sgiliau ac agweddau entrepreneuriaeth ac i feithrin sgiliau dysgu a sgiliau hunan-reoli gyrfaoedd.
Yn ogystal â chyflwyno’r cwricwlwm mewn ysgolion a cholegau, mae Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol a diduedd i bob oedran ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.