13/05/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 06 Mai 2009 i’w hateb ar 13 Mai 20009

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl milltir o ffyrdd sydd wedi cael wyneb newydd ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru er 1999 a beth oedd y gost gyfartalog fesul milltir ar gyfer pob blwyddyn. (WAQ54081)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yng nghyswllt yr angen i osod seilwaith carthffosiaeth tro cyntaf ar gyfer trigolion Goginan, Ceredigion o dan Adran 101a o Ddeddf y Diwydiant Dwr 1991, (a) pa arolygon sydd wedi'u cynnal gan asiantwyr neu ymgynghorwyr yn gweithio i Dŵr Cymu, (b) pa arfarniadau economaidd ac amgylcheddol sydd wedi cael eu gwneud mewn perthynas ag arolygon o'r fath, ac (c) a yw’r rhain wedi cael eu rhoi i Asiantaeth yr Amgylchedd (WAQ54093)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o nyrsys sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant statudol ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54082)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cydymffurfiaeth â hyfforddiant statudol yn y GIG. (WAQ54083)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â heintiadau a gafwyd yn yr ysbyty. (WAQ54084)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint sydd wedi cael ei wario ar gostau teithio ar gyfer staff yn ystod (a) 2008/09 ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, a (b) 2007/08, 2006/07, 2005/06 a 2004/05 ar gyfer yr Ymddiriedolaethau unigol ar yr adeg honno ar gyfer Sir Benfro a Derwen, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. (WAQ54088)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gyswllt a gaiff Llywodraeth Cynulliad Cymru â Bwrdd y Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Chyfiawnder Troseddol a sefydlir gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i adolygiad Bradley. (WAQ54089)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes diwylliant. (WAQ54085)

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 27ain Mehefin. (WAQ54086)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o (a) blant, (b) oedolion yng Nghymru sydd wedi mynychu dau neu ragor o ddigwyddiadau diwylliannol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54090)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y (a) plant, a (b) oedolion sy’n mynychu digwyddiadau diwylliannol. (WAQ54091)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o (a) blant, a (b) oedolion yng Nghymru sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon gweithredol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54094)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y (a) plant, a (b) oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon gweithredol. (WAQ54095)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl darn o waith celf sydd wedi cael ei gadw mewn storfeydd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ54096)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o (a) blant, a (b) oedolion yng Nghymru sydd wedi mynychu amgueddfeydd neu orielau ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54098)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y (a) plant, a (b) oedolion sy’n mynychu amgueddfeydd neu orielau. (WAQ54099)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. (WAQ54087)