13/05/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Mai 2013 i’w hateb ar 13 Mai 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau’r manteision economaidd gorau posibl o gael wyth gêm Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm cyn hir? (WAQ64648)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ymdrechion a wneir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cymaint â phosibl o ymwybyddiaeth ynghylch rôl Cymru yn cynnal gemau allweddol yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn y dyfodol agos? (WAQ64649)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o fanteision posibl Cwpan Slalom Canw y Byd a gynhelir yng Nghaerdydd cyn hir? (WAQ64650)

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi unrhyw arian i hyrwyddo’r nifer a fydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon y gaeaf ar ôl adeiladu canolfan chwaraeon y gaeaf ym Mae Caerdydd? (WAQ64651)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r manteision posibl i bêl-droed yng Nghymru yn sgîl dyrchafiad Dinas Caerdydd i Uwchgynghrair Lloegr, yn economaidd ac o ran cyfranogi?  (WAQ64653)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y gêm ar lawr gwlad yn elwa yn dilyn llwyddiant diweddar timau pêl-droed proffesiynol Cymru? (WAQ64654)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gyfleusterau chwaraeon cyhoeddus a fforddiadwyedd y cyfleusterau hynny? (WAQ64655)

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu cyfrifoldeb Comisiynydd Plant Cymru dros faterion nad ydynt wedi’u datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru? (WAQ64661)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa wersi a ddysgwyd yn dilyn dyrchafiad Dinas Abertawe i Uwchgynghrair Lloegr a allai helpu i sicrhau bod y manteision mwyaf posibl yn cael eu gwireddu i economi De Cymru yn dilyn dyrchafiad Dinas Caerdydd? (WAQ64652)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wario ar raglen Sêr Cymru ers ei lansio’n swyddogol fis Medi diwethaf? (WAQ64656)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn yr ateb i WAQ64600, a wnaiff y Gweinidog nodi’r holl feini prawf ar gyfer cyllido ysgolion o dan y Grant Cynnal Refeniw? (WAQ64657)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn yr ateb i WAQ64600, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad, yn ôl Awdurdod Lleol, o wariant alldro refeniw dirprwyedig ysgolion yn 2011-12 yn ôl sector ac yn ôl Cyfrwng Cymraeg a Saesneg? (WAQ64658)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn yr ateb i WAQ64600, a wnaiff y Gweinidog nodi’r rheswm dros y gwariant ychwanegol ar bob disgybl Cyfrwng Cymraeg ar lefel Cyngor lleol? (WAQ64659)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi arweiniad Llywodraeth Cymru, a’i disgwyliadau, ynghylch darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg seiliedig ar ffydd ar lefel uwchradd? (WAQ64660)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod gan blant ddewis o opsiynau bwyta’n iach yn yr ysgol, gan ddefnyddio pwerau o dan Fesur Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion (Cymru) 2009? (WAQ64665)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amserlen gweithredu ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg erbyn 2014? (WAQ64666)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i sicrhau bod Estyn yn adrodd ar ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion? (WAQ64668)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y trafodaethau diweddar â Chomisiynydd Pobl Hyn Cymru ar ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru (Cam 3)? (WAQ64662)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ddulliau sydd ar waith i fonitro urddas a gofal i bobl hyn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’ŷ (WAQ64663)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i weithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’? (WAQ64664)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer adolygu Hanfodion Gofal 2003? (WAQ64667)