13/08/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Awst 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Awst 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaethau a roddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r cais am siop Lidl ar yr A483 yn Y Drenewydd? (WAQ52377)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mynegodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bryderon ynghylch traffig wrth yr awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Sir Powys, pan dderbyniwyd cais cynllunio'r datblygiad yn y lle cyntaf.  Drwy ei Awdurdod Asiant, comisiynodd y Cynulliad ymgynghorwyr i greu model traffig Paramics i alluogi'r gwaith o ddadansoddi ac asesu sefyllfa'r traffig.  Nododd hyn yr angen i addasu'r goleuadau traffig ar y gyffordd A483/A489 er mwyn ymdopi â thwf traffig yn y dyfodol.  Mae'r gwaith hwn heb ei benderfynu ar hyn o bryd, tra bod datblygiadau eraill yn y Drenewydd yn yr arfaeth.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar adeiladau newydd ysgolion ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ52280)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi grant 'wedi'i glustnodi' i awdurdodau lleol ar gyfer gwella adeiladau ysgolion. Yn ogystal, mae ganddynt eu cyllid cyfalaf eu hunain, ynghyd â derbyniadau cyfalaf a benthyca darbodus. Mae penderfyniadau am welliannau ysgolion yn fater i awdurdodau unigol. Rhoddir grant i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir hefyd.

Yn ystod cyfnod diwethaf y Cynulliad rhwng 2004-05 a 2007-08 bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi £667m tuag at adeiladau ysgolion yng Nghymru. Cyfanswm gwariant cyfalaf awdurdodau lleol ar addysg rhwng 1999-2000 a 2006-07 gan gynnwys pob grant sy'n benodol i'r Cynulliad yw £934.439 miliwn. Y gwariant cyfalaf ar addysg a ragwelir ar gyfer 2007-08 yw £188.453 miliwn a £199/149 miliwn ar gyfer 2008-09.

Gellir dod o hyd i wariant cyfalaf addysg unigol fesul awdurdod ar y wefan ganlynol.

http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ysgolion newydd sydd wedi cael eu hadeiladu er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob awdurdod addysg lleol yng Nghymru ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52281)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Ni chesglir y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ganolog, fodd bynnag, mae gwybodaeth o ffurflenni cynnig Grant Gwella Adeiladau Ysgolion a gyflwynir gan AALlau, ers 2002-03 hyd at 2007-08 yn nodi bod dros 107 o brosiectau i ddarparu ysgolion newydd, estyniadau sylweddol neu waith adnewyddu sylweddol.

Nid yw hyn yn cynnwys prosiectau a ariannir gan raglen gyfalaf yr awdurdod lleol ei hun, nac achosion lle y sefydlwyd ysgolion mewn adeiladau sy'n bodoli eisoes.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ysgolion cynradd ac uwchradd sydd wedi cael eu hailadeiladu er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog gyflwyno’r ffigurau hyn fel cyfran o’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru? (WAQ52282)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Fe'ch cyfeiriwn at fy ateb blaenorol WAQ 52281.

Ni fyddai'n realistig cyflwyno ffigurau fel cyfran o'r holl ysgolion yng Nghymru gan na fyddai'n ystyried materion fel cau ysgolion, uno ysgolion babanod ac ysgolion iau, nac ysgolion sydd wedi'u sefydlu mewn adeiladau sy'n bodoli eisoes.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar atgyweirio adeiladau presennol ysgolion ym mhob awdurdod addysg lleol ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog gyflwyno’r ffigurau fel canran o’r holl ysgolion yn yr awdurdod addysg lleol penodol hwnnw? (WAQ52283)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Fe'ch cyfeiriwn at fy ateb blaenorol WAQ52280.

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi grant penodol ar gyfer gwariant ar atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau ysgolion yn unig. Mae'r awdurdodau'n cael grant wedi'i glustnodi ar ffurf Grant Gwella Adeiladau Ysgolion, yn ogystal â'u cyllid cyfalaf cyffredinol eu hunain, mae'n fater i bob awdurdod lleol unigol bennu gwariant ar gyfer ei ysgolion o ran materion atgyweirio a chynnal a chadw. Mae ysgolion yn cael cyllid refeniw ar gyfer atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw drwy gyllideb ddirprwyedig eu hysgolion.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y gall yr amgylcheddau dysgu diweddaraf eu cael ar lefelau cyrhaeddiad addysgol? (WAQ52284)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Yn 2006-07, comisiynwyd Arolygiaeth Ei Mawrhydi, ‘Estyn’, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi gwerthusiad o berfformiad ysgolion cyn symud i adeiladau newydd neu eiddo a adnewyddwyd yn sylweddol ac ar ôl hynny.

Prif ganfyddiadau ei adroddiad yw:

Ym mhob ysgol, mae gwell adeiladau yn cyfrannu at wella un neu fwy o feysydd perfformiad a ddiffinnir yn yr adroddiad. Mae hyn yn cytuno'n gyffredinol â chanlyniadau astudiaethau ymchwil eraill.

Canfu Estyn fod arweinyddiaeth a rheolaeth yn brif ddylanwadau ar wella perfformiad yn yr ysgolion hynny sydd ag adeiladau newydd neu adeiladau wedi'u hatgyweirio.

Ni all hen adeiladau ysgolion sydd mewn cyflwr gwael ddiwallu anghenion addysgu a dysgu modern. Mae adeiladau anaddas yn ei gwneud hi'n fwy heriol cyflawni gwelliannau o ran safonau cyflawniad.

Bron ym mhob un o'r ysgolion ag adeiladau newydd neu adeiladau wedi'u hatgyweirio, roedd cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion wedi gwella. Mewn rhai achosion, roedd y gwelliant o ran cyrhaeddiad wedi bod yn sylweddol, yn arbennig mewn ychydig o ysgolion mewn cymunedau gyda lefelu uchel o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd.

Mae canfyddiadau adroddiad arolygu Estyn yn dangos i safon yr addysgu yn yr ysgolion hynny sydd wedi symud i adeiladau newydd neu adeiladau wedi'u hatgyweirio wella. Mae'r gwelliannau yn ansawdd yr adeiladau wedi bod o fudd mawr i ansawdd yr addysgu a morâl y staff, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar berfformiad y disgyblion.

Mae presenoldeb disgyblion yn eu hysgolion newydd yn debyg i'r hyn ydoedd yn eu hen ysgolion. Mae ymddygiad disgyblion yn gwella'n gyffredinol yn eu hysgolion newydd, mae llai o achosion o wahardd parhaol a gwaharddiadau am gyfnod penodol.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn rhoi mwy o ddewis i'w disgyblion nac yn eu hadeiladau blaenorol gan fod ganddynt fwy o le a gwell cyfleusterau. Mae'r ddarpariaeth o weithgareddau cyn-ysgol ac ar ôl-ysgol yn gwella'n sylweddol.

Gwelwyd bod awdurdodau addysg lleol yn yr arolwg yn gwneud llawer i wella ansawdd adeiladau ysgolion. Mae'r rhan fwyaf o AALlau yn yr arolwg yn defnyddio grantiau ac arian cyfalaf yn ddoeth. Maent yn gwario eu harian er mwyn rheoli'r her gynyddol o leoedd sy'n weddill. Mae'r AALlau gorau yn yr arolwg yn datblygu eu cynlluniau rheoli asedau  ysgol ynghyd â'u polisïau ar gyfer gwella perfformiad disgyblion.

Yn yr AALlau yr ymwelwyd â hwy, ychydig iawn a gyflwynodd adroddiadau am y gwahaniaeth y gall gwella adeiladau ysgolion ei gael ar ansawdd addysg disgyblion. O ganlyniad, nid oes gan aelodau etholedig farn ddigon clir am y mater.

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar wefan Estyn.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o gyllid sydd wedi’i ddyrannu i Gyngor Sir Powys ar gyfer Ysgolion Bro? (WAQ52288)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Cyflwynwyd Ysgolion Bro am y tro cyntaf yn 2005/06. Fel rhan o'r grant mae cyllid ar gyfer Ysgolion Bach ac Ysgolion Gwledig hefyd. Cyflwynwyd yr elfen gofal plant o'r cyllid, sydd wedi'i glustnodi, ar gyfer 2008/09 ymlaen. Mae'r arian ar gyfer 2009/10 a 2010/11 yn ddangosol. Hyd yma, mae AALl Powys wedi cael £585.193 drwy'r cynllun. Mae dadansoddiad mwy manwl o'r arian a roddwyd i Gyngor Sir Powys wedi'i nodi yn y tabl isod.

2005/06

2006/07

2007/08

2008/09

2009/10

2010/11

Ysgolion Bro

£70,933

£72,853

£74,201

£73,039

£73,039

£73,039

Ysgolion Bach ac Ysgolion Gwledig

£85,395

£139,972

£141,839

£139,112

£139,112

£139,112

Gofal plant

-

-

-

£13,636

£47,474

£83,994

Mike German (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad a wnaeth y Gweinidog o fuddion tebygol Mesur arfaethedig Aelod ynghylch Cau Ysgolion (Ymgynghori a Chategorïau)? (WAQ52306)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Rhoddais fy marn ar y Mesur arfaethedig pan gafodd ei drafod ar 7 Tachwedd 2007. Gwelais rinweddau mewn dau o'r amcanion polisi a nodwyd ar gyfer y mesur arfaethedig. Atgoffais aelodau y gellid cyflawni'r amcanion hynny, a oedd yn ymwneud â gwell proses ymgynghori a gwell ystyriaeth o fuddiannau cymunedol, drwy ganllawiau y mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y pwer i'w rhoi eisoes.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ymhellach i WAQ52218 a WAQ52219, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer bob blwyddyn er 1999ŵ (WAQ52365)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Mae niferoedd yr athrawon cymwysedig a'r rhai cyfwerth ag amser llawn (FTE) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir, fesul rhyw, ar gyfer 1999-2007 i'w gweld yn y tablau canlynol:

Ysgolion Cynradd

Gwryw

Benyw

Cyfanswm

   

Nifer

FTE

Nifer

FTE

Nifer

FTE

1999

2,276

2,246

11,272

10,346

13,548

12,591

2000

2.266

2.236

11.364

10.441

13.630

12.677

2001

2,274

2,239

11,488

10,517

13,762

12,756

2002

2,264

2,224

11,685

10,680

13,949

12,904

2003

2,296

2,281

11,736

10,686

14,032

12,967

h13672004

2,209

2,179

11,302

10,279

13,511

12,458

2005

2,209

2,168

11,470

10,360

13,679

12,529

2006

2,257

2,186

12,025

10,676

14,282

12,862

2007

2,237

2,174

11,827

10,474

14,064

12,648

Secondary Schools

Gwryw

Benyw

Cyfanswm

   

Nifer

FTE

Nifer

FTE

Nifer

FTE

1999

5,707

5,601

7,199

6,783

12,906

12,384

2000

5,673

5,569

7,317

6,902

12,990

12,471

2001

5,651

5,551

7,568

7,142

13,219

12,692

2002

5,708

5,600

7,789

7,355

13,497

12,955

2003

5,608

5,484

7,946

7,489

13,554

12,973

2004

5,543

5,440

7,991

7,536

13,534

12,976

2005

5,461

5,352

7,973

7,492

13,534

12,843

2006

5,381

5,289

8,055

7,518

13,436

12,806

2007

5,225

5,112

8,156

7,551

13,381

12,663

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o athrawon cymwys nad ydynt wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu statudol yn y pum mlynedd diwethaf, a faint o'r rhain y gofynnir iddynt ad-dalu grantiau? (WAQ52378)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Mae'n rhaid i athrawon newydd gymhwyso sydd â Statws Athro Cymwysedig gwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus os ydynt am addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.  

Mae cofnodion Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC) yn dangos bod 5,715 o athrawon a enillodd Statws Athro Cymwysedig ar ôl mis Medi 2003, wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu a bod 1,111 wedi cychwyn ar eu cyfnod sefydlu ond heb ei gwblhau eto.  Mae'r data hwn yn adlewyrchu'r sefyllfa hyd at 11 Awst ond mae'n annhebygol y bydd yn newid yn sylweddol yn yr wythnosau nesaf wrth i ganlyniadau'r cyfnod sefydlu ar gyfer diwedd y tymor diwethaf gael eu prosesu.

Nid yw'n bosibl dweud faint o athrawon sydd heb gychwyn neu gwblhau'r cyfnod sefydlu eto.  Nid yw data CACC yn gofnod cyflawn gan fod llif o athrawon newydd gymhwyso i mewn ac allan o Gymru.  Efallai y bydd rhai yn hyfforddi yng Nghymru ac yn cwblhau eu cyfnod sefydlu yn rhywle arall neu'n hyfforddi'n rhywle arall ac yn symud i Gymru i gwblhau'r cyfnod sefydlu.  Efallai y bydd eraill yn hyfforddi fel athrawon ond nid yn gweithio fel athrawon.  

Mae grantiau addysgu ar gael i athrawon cymwys sy'n ennill Statws Athro Cymwysedig drwy gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon uwchradd ôl-raddedig mewn pwnc blaenoriaeth, ac sy'n mynd ymlaen i addysgu'r pwnc hwnnw.  Dim ond i athrawon sydd wedi cwblhau eu cyfnod Sefydlu yn llwyddiannus y cânt eu talu, felly ni fyddai unrhyw un sydd heb gwblhau'r cyfnod Sefydlu eto wedi derbyn grant addysgu.

Telir grantiau hyfforddiant i fyfyrwyr cymwys ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-raddedig.  Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd.  Mae ganddynt ddisgresiwn ynghylch defnyddio'r pwerau hynny ai peidio a chaiff pob achos ei ystyried ar ei deilyngdod ei hun.  Gellid defnyddio'r pwerau hyn mewn achosion lle nad yw'r derbynnydd yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwysedd; lle mae'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n sylweddol gamarweiniol; neu lle mae tystiolaeth gadarn nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r cwrs neu, o'i gwblhau, erioed wedi bwriadu mynd i fod yn athro.  Oni bai bod amgylchiadau ychwanegol, nid yw methiant i gwblhau cyfnod sefydlu gan unigolyn sydd wedi mynd i fod yn athro yn debygol, ynddo'i hun, o fod yn rheswm sy'n gofyn am ad-dalu grant hyfforddi.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd y farn newydd ynghylch Diwygio’r GIG yn effeithio ar gomisiynu a darparu gwasanaethau yn ardal BILl Powys, a pha rôl fydd gan BILl Powys yn awr? (WAQ52366)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Yn fy natganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16eg Gorffennaf, cadarnheais y byddaf yn cyhoeddi Papur Ymgynghori pellach yn yr hydref, fel rhan o raglen ailstrwythuro'r GIG.

Ni allaf wneud sylwadau pellach ar wasanaethau ym Mhowys hyd nes i'r ymgynghoriadau gael eu cwblhau.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer rôl hyrwyddwyr diogelwch cleifion er mwyn iddynt ymgymryd â'u rolau, treuliau ar gyfer defnyddio'r ffôn a’r defnydd o betrol? (WAQ52367)

Edwina Hart: Er y caiff y gwaith hwn ei ariannu yn anuniongyrchol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Adran Iechyd, caiff ei reoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol  Diogelwch Cleifion mewn partneriaeth â'r elusen annibynnol Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol. Deallaf fod rôl yr hyrwyddwyr diogelwch cleifion yn wirfoddol ond caiff costau eu had-dalu am y gwaith a wneir ganddynt.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed, y bu oedi yn ei gylch? (WAQ52372)

Edwina Hart: Rwyf wedi cymeradwyo buddsoddiad cychwynnol y cynllun gweithredu drafft a gaiff ei ddefnyddio i ddatblygu gwaith datblygiadol. Caiff y cynllun gweithredu drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Medi.

Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer canolfan gofal critigol newydd yng Ngwent, ar ba gam y mae’r cynlluniau, a pha ymgynghoriadau sydd wedi’u cynnal? (WAQ52373)

Edwina Hart: Mae fy swyddogion wedi derbyn Amlinelliad o Achos Busnes ar gyfer y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol arfaethedig gan Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent. Mae fy swyddogion yn ystyried y ddogfen ar hyn o bryd.  

Ni chynhelir ymgynghoriadau allanol yn ymwneud â'r Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol arfaethedig yn unig. Fodd bynnag, gofynnais i Dr Christopher Jones, Cadeirydd BILl Rhondda Cynon Taf, i gynnal adolygiad o'r cynlluniau presennol ar gyfer Gofal Sylfaenol a gwasanaethau Cymunedol sy'n sail i'r Rhaglen Dyfodol Clinigol.

Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella profiad cleifion yn GIG Cymru. (WAQ52381)

Edwina Hart: Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y Cynulliad yn canolbwyntio ar nifer o fentrau a luniwyd i wella profiad cleifion yn y GIG, gan gynnwys gwella'r broses o gael gafael ar wasanaethau, diogelwch, bwyd, glendid a chanlyniadau o ansawdd. Rwyf eisiau sicrhau bod cleifion yn derbyn y gwasanaeth a'r profiad gorau posibl pryd bynnag y dônt i gysylltiad â'r GIG yng Nghymru.

Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl i roi gwaed? (WAQ52382)

Edwina Hart: Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn un o is-adrannau Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi'r Gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl Cymru o fanteision rhoi gwaed a chynhyrchion gwaed. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru'n cynnal sesiynau rhoi gwaed rheolaidd mewn nifer fawr o safleoedd ledled Cymru ac yn cynhyrchu a chyhoeddi ymgyrchoedd gwybodaeth i'r cyhoedd i gynyddu nifer y rhoddwyr gwaed.

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella Gwasanaethau Orthopedig yn Ne-ddwyrain Cymru? (WAQ52383)

Edwina Hart: Adolygwyd llwybrau cleifion orthopedig yn fanwl o'r atgyfeiriad i'r diagnosis ac yna ymlaen i'r driniaeth.  Mae sefydliadau megis yr Uned Cyflenwi a Chymorth a'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi cydweithio'n agos â phob darparwr yn y Rhanbarth i wella llwybrau cleifion. Mae Byrddau Iechyd Lleol hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn i hyrwyddo mwy o ofal a gofal dilynol wedi'i arwain yn y gymuned; maent hefyd wedi cydweithio'n agos â meddygfeydd i wella'r broses atgyfeirio.

Mae'r Swyddfa Ranbarthol a'r Uned Cyflenwi a Chymorth yn cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro i lunio cynllun gweithredu i leihau nifer yr achosion sy'n mynd yn groes i'r amseroedd aros i ddim. Bydd hyn yn cymryd rhai misoedd, a bydd yn golygu cynnig triniaeth i nifer sylweddol o gleifion gan ddarparwyr eraill yn ogystal â gwella effeithlonrwydd o fewn yr Ymddiriedolaeth ac amrywiaeth o fesurau eraill.

Datblygwyd fforwm Orthopedig ar draws De-ddwyrain Cymru i adolygu gwasanaethau a chynllunio ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ffactorau sy’n cyfrannu at y rhestrau aros hwy ar gyfer cleifion o Gymru sy'n aros triniaeth yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt o’u cymharu â chleifion o Loegr? (WAQ52386)

Edwina Hart: Caiff holl drigolion Cymru eu gweld yn nhrefn eu hanghenion clinigol ac yn unol â pholisi amseroedd aros Cymru, p'un a ydynt yn cael eu gweld yng Nghymru neu yn Lloegr.  

Sandy Mewies (Delyn): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar faterion yn ymwneud ag iechyd yn sir y Fflint yn y flwyddyn ariannol diwethaf? (WAQ52391)

Edwina Hart: Mae’r wybodaeth hon ar gael yng nghyfrifon cyhoeddedig Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint.