Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 07 Chwefror 2011 i’w hateb ar 14 Chwefror 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Brian Gibbons (Aberafan): Ai'r bwriad yw y bydd y cynnydd mewn cyllid Dechrau'n Deg o 2012-14 yn arwain at gynnydd yn nifer y plant sy'n elwa o'r cynllun. (WAQ57117)
Brian Gibbons (Aberafan): Ai'r bwriad yw y bydd y cynnydd mewn cyllid Dechrau'n Deg o 2012-14 yn arwain at gynnydd yn nifer yr ardaloedd sy'n elwa o'r cynllun. (WAQ57118)
Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog restru'r pum ysgol yng Nghymru lle'r oedd perfformiad dysgwyr a oedd yn cael prydau ysgol am ddim yn well na pherfformiad eu cyfoedion nad oeddent yn cael prydau ysgol am ddim yn 2009 fel y nodwyd yn y Strategaeth Toli Plant Newydd ar gyfer Cymru – Chwefror 2011. (WAQ57119)
Brian Gibbons (Aberafan): Pa ofynion hyfforddi sy'n cael eu hymgorffori wrth osod contractau Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghymru. (WAQ57122)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ailagor gorsafoedd ar reilffordd y Cambrian. (WAQ57124)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa orsafoedd trenau newydd sydd wedi cael eu hagor yn ystod y tair blynedd diwethaf yng Nghymru a beth oedd cyfraniad ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru at bob prosiect. (WAQ57125)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa orsafoedd trenau sydd wedi cael eu hailagor yn ystod y tair blynedd diwethaf yng Nghymru a beth oedd cyfraniad ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru at bob prosiect. (WAQ57126)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno Arbed yn Ardal Adfywio Strategol Cymoedd y Gorllewin. (WAQ57123)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant ag anableddau dysgu. (WAQ57120)
Brian Gibbons (Aberafan): Pa ofynion hyfforddi sy'n cael eu hymgorffori wrth osod contractau mawr y GIG yng Nghymru. (WAQ57121)