14/07/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 14 Gorffennaf 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 14 Gorffennaf 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ56166, beth oedd cyfanswm yr arian a neilltuwyd i gyfrannu at gostau hepgor ffioedd myfyrwyr sy’n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn 2009/10. (WAQ56199)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ56166, a ragwelir y bydd yr £1.2 miliwn yn talu'r holl gostau hepgor ffioedd dysgu, neu rywfaint yn unig o’r costau hynny, ac felly ar yr un pryd yn gorfodi myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i dalu rhywfaint o ffioedd dysgu yn 2010/11. (WAQ56200)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Cyfanswm yr arian a roddwyd gan CCAUC i gefnogi costau hepgor ffioedd i fyfyrwyr sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn 2009/10 oedd £1,221,700. Roedd hyn yn ddigon i gwmpasu'r costau hepgor ffioedd llawn ar gyfer 2009/10.

Fel y dywedais eisoes, mae CCAUC wedi rhoi'r un swm eto i gefnogi costau hepgor ffioedd i fyfyrwyr sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn 2010/11. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ymwybodol o'r costau llawn sy'n gysylltiedig â bodloni cofrestriadau Erasmus yn 2010/11 tan fis Ionawr 2011 pan gaiff y niferoedd eu cadarnhau.

Roedd llythyr CCAUC, dyddiedig 22ain Ebrill, yn nodi'r sefyllfa pe na byddai'r swm hwn yn ddigon i gwmpasu costau llawn y cynllun hepgor ffioedd.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad sydd wedi’i wneud o broffil y rheini a gaiff y 5000 o dalebau dan y Cynllun Sgrapio Boeleri yng Nghymru i sicrhau bod y sawl sydd fwyaf mewn angen yn elwa o’r cynllun. (WAQ56193)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Cafodd y cynllun sgrapio boeleri ei dargedu at berchenogion tai yng Nghymru sy'n hŷn na 60 oed, ac mae pob taleb oedd ar gael wedi'i dosbarthu bellach.

Hyd yma mae 2,619 o'r talebau a roddwyd wedi'u defnyddio a cheir proffil o'r perchenogion tai hyn isod, fesul Awdurdod Lleol ac oedran. Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru wrth i fwy o dalebau gael eu defnyddio.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 14 Gorffennaf 2010

AWDURDOD LLEOL

60-69

70-79

80-89

90+

Ynys Môn

17

12

5

 

Blaenau Gwent

38

15

12

 

Caerffili

97

58

16

2

Caerdydd

107

80

41

3

Sir Gaerfyrddin

72

40

25

 

Ceredigion

16

11

2

1

Conwy

59

47

22

1

Sir Ddinbych

35

26

11

1

Sir y Fflint

78

29

8

2

Gwynedd

36

20

12

2

Merthyr Tudful

47

24

12

 

Sir Fynwy

49

25

16

1

Castell-nedd Port Talbot

67

60

19

2

Casnewydd

70

44

18

 

Sir Benfro

46

26

8

1

Powys

42

24

5

1

Rhondda Cynon Taf  

148

82

25

 

Abertawe

115

74

39

3

Bro Morgannwg

66

47

23

3

Torfaen

65

30

20

 

Y Cymoedd i'r Arfordir

59

51

16

1

Wrecsam

43

33

9

1

       

 

Cyfanswm

1372

858

364

25

 

 

 

 

 

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pam na ddefnyddiwyd profion modd ar gyfer y Cynllun Sgrapio Boeleri yng Nghymru i sicrhau bod y 5000 o dalebau’n mynd i’r sawl sydd fwyaf mewn angen. (WAQ56194)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Roedd Cynllun Sgrapio Boeleri Cymru yn gweithredu yn unol â'r Rheoliadau sy'n llywodraethu grant rhannol y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. Nid yw'r grant rhannol yn seiliedig ar brawf modd ac mae ar gael i berchenogion tai dros 60 oed. Felly, cafodd yr un meini prawf eu defnyddio ar gyfer y Cynllun Sgrapio Boeleri.

Un o ymrwymiadau Cymru'n Un yw darparu elfen nad yw'n seiliedig ar brawf modd ar gyfer grantiau effeithlonrwydd ynni i berchenogion tai yng Nghymru.

Brian Gibbons (Aberafan): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ56095, a wnaiff egluro beth yw’r safon (lefel) ofynnol y mae’n rhaid i adeiladwyr tai ei chyflawni dan y cod tai cynaliadwy fel y nodir yn TAN 22 wrth adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru. (WAQ56201)

Rhoddwyd ateb ar 19 Gorffennaf 2010

Nid yw Nodyn Cyngor Technegol 22 yn nodi'r safon ofynnol a ddisgwylir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hon wedi'i chynnwys yn Adran 4.11- Cynllunio ar gyfer Adeiladu Cynaliadwy, Polisi Cynllunio Cymru. Cyhoeddwyd y polisi ym mis Mai 2009 yn Natganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog ac ers hynny mae wedi'i ymgorffori yn fersiwn cyfunol Polisi Cynllunio Cymru.

Mae hwn yn nodi bod disgwyl i geisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl o bum annedd neu fwy a gyflwynwyd ar ôl 1af Medi 2009 fodloni Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy a chyflawni chwe chredyd o dan Ene1 - Cyfradd Allyriadau Anheddau.

O 1af Medi 2010 ymlaen, bydd hyn yn gymwys i bob cais ar gyfer un annedd neu fwy.

Mae TAN22 yn rhoi canllawiau gweithdrefnol i awdurdodau cynllunio lleol ar weithredu'r polisi cynllunio cenedlaethol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi faint o arian a wariwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ofal yn gynnar ar ôl geni yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 2005. (WAQ56197)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Mae'r wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd ar wefan StatsCymru yn: http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=6109

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gofal yn gynnar ar ôl geni yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol ac a wnaiff nodi pa ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i’r lefelau yn y dyfodol. (WAQ56198)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Ar hyn o bryd rwy'n ystyried yr adroddiad Newyddenedigol a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol a byddaf yn cyflwyno fy ymateb i'r adroddiad hwnnw ganol Awst.  

Brian Gibbons (Aberafan): Sawl cyfleuster gofal sylfaenol y GIG newydd sy’n cynnwys model practis cyffredinol sydd wedi agor yn y tair blynedd diwethaf. (WAQ56202)

Brian Gibbons (Aberafan): Sawl cyfleuster gofal sylfaenol y GIG yn cynnwys practis meddygol cyffredinol a agorwyd yn y tair blynedd diwethaf sydd wedi’u darparu gan ddatblygwyr sector preifat. (WAQ56203)

Brian Gibbons (Aberafan): Sawl cyfleuster gofal sylfaenol y GIG yn cynnwys practis meddygol cyffredinol a agorwyd yn y tair blynedd diwethaf sydd wedi’u darparu'n uniongyrchol gan y GIG. (WAQ56204)

Brian Gibbons (Aberafan): Sawl cyfleuster gofal sylfaenol y GIG yn cynnwys practis meddygol cyffredinol a agorwyd yn y tair blynedd diwethaf sydd wedi’u seilio ar y model canolfan adnoddau. (WAQ56205)

Rhoddwyd ateb ar 19 Gorffennaf 2010

Mae pob cyfleuster gofal sylfaenol yn wahanol. Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) sy'n bwrw ymlaen â chynlluniau datblygu gofal sylfaenol. Yn seiliedig ar eu blaenoriaethau ystâd a thrwy drafodaethau â rhanddeiliaid allweddol maent yn penderfynu pwy, yn ogystal â phractisau meddygon teulu, a ddylai gael lle yn yr adeilad a chaiff yr adeilad newydd ei gynllunio'n briodol i roi'r gwasanaeth gorau i'r gymuned leol.  

Mae 22 o gyfleusterau gofal sylfaenol newydd wedi agor ers 2007. Darparwyd 20 o'r rhain gan ddatblygwyr yn y sector preifat. Darparwyd un yn uniongyrchol gan y GIG ac mae'r llall yn bractis mewn prifysgol.  

Mae'r cyfuniad o wasanaethau yn amrywio ym mhob cyfleuster. Yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol gall gynnwys ymwelwyr iechyd, nyrsys ardal, deintyddion, optegwyr, fferyllfa a gwasanaethau cymunedol eraill.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi un Cynllun Demensia Cenedlaethol ar gyfer Cymru. (WAQ56206)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyfathrebu’r Cynlluniau Gweithredu Demensia i’r Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol, y sectorau preifat a gwirfoddol, ac eraill sydd ynghlwm wrth gyflenwi gwasanaethau ar gyfer pobl â demensia a’u gofalwyr.  (WAQ56207)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y caiff y Cynlluniau Gweithredu Demensia eu cyfathrebu i bobl â demensia a’u gofalwyr fel eu bod yn gwybod yn glir beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl ei weld o ran gwell gwasanaethau gofal demensia. (WAQ56208)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes arian ychwanegol wedi’i neilltuo i gyfrannu at roi’r Cynlluniau Gweithredu Demensia ar waith ac a fydd yr arian hwn wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau demensia. (WAQ56209)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro gweithrediad y Cynlluniau Gweithredu Demensia. (WAQ56210)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau p’un ai a oes unrhyw gynlluniau i gynnal archwiliad o wasanaethau demensia yng Nghymru. (WAQ56211)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o demensia. (WAQ56212)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Fe'ch cyfeiriaf at fy natganiad ar 11 Mai 2010 a'm llythyr at ACau dyddiedig 12 Gorffennaf 2010 ar sut mae gwasanaethau demensia'n cael eu gwella ledled Cymru.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw fwriad i ddiweddaru’r canllawiau ar arferion gweithio ar y cyd yn y GIG. (WAQ56213)

Rhoddwyd ateb ar 19 Gorffennaf 2010

Bydd y sefydliadau integredig newydd a sefydlwyd ar ôl diwygio'r GIG yn trawsnewid prosesau cydweithio yn y GIG.  Mae'r ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar Delivering a Five-Year Service, Workforce and Financial Strategic Framework for NHS Wales yn rhoi canllawiau ar sut y dylid manteisio ar y cyfle hwn:

http://www.wales.nhs.uk/page.cfm?orgid=1&pid=7452

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i annog gweithio ar y cyd mewn ffordd gydweithredol rhwng y GIG yng Nghymru a chwmnïau fferyllol. (WAQ56214)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Mae Grŵp Defnyddwyr Arfarnu Datblygiad Therapiwtig Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI Cymru) yn cyfarfod yn rheolaidd (bob deufis fel arfer) gydag Ysgrifenyddiaeth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (Partneriaeth Meddyginiaethau Cymru) yn anffurfiol i hwyluso cydberthnasau gwaith. Mae'r sianel gyfathrebu ddwyffordd hon rhwng y diwydiant a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn llywio gwelliannau i brosesau a methodoleg yn ymwneud ag arfarnu technolegau therapiwtig newydd yng Nghymru. Mae Cyfarwyddwr ABPI Cymru (Cadeirydd Dros Dro Fforwm Diwydiant y GIG ar hyn o bryd) yn mynychu cyfarfodydd misol Pwyllgor Llywio AWMSG.  Mae aelodau AWMSG yn cynnwys cynrychiolwyr o ABPI ac, yn fwy diweddar, mae tri chynrychiolydd o ABPI Cymru wedi mynychu cyfarfodydd Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (is-grŵp o AWMSG).

At hynny, mae Partneriaeth Meddyginiaethau Cymru yn cyfathrebu â chydweithwyr yn y diwydiant yn ddyddiol, yn cyfarfod yn flynyddol â'r Grŵp ABPI ehangach ac yn ceisio adborth ysgrifenedig ar y broses arfarnu yng Nghymru. Hefyd, mae gan Fforwm Diwydiant y GIG sedd ar Bwyllgor Fferyllol Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad sydd wedi’i wneud o’r manteision y gallai Deddf Cymunedau Cynaliadwy 2007 eu dwyn i Gymru. (WAQ56195)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Nid wyf wedi asesu'r manteision y gallai'r Ddeddf eu cyflwyno i Gymru. Mae polisïau eraill Llywodraeth y Cynulliad yn cwmpasu'r rhan fwyaf o ddarpariaethau Deddf 2007.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ceisio sicrhau y caiff gwasanaethau lleol eu darparu mewn ffyrdd sy'n cynnal cymunedau lleol ac sy'n rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i'r cyhoedd gyfrannu. Caiff hyn ei wella ymhellach gan ddarpariaethau Mesur Strwythurau Gwleidyddol Llywodraeth Leol a gyflwynwyd ar 12fed Gorffennaf 2010.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i weithredu deddf yng Nghymru sy’n debyg i Ddeddf Cymunedau Cynaliadwy 2007 Llywodraeth y DU. (WAQ56196)

Rhoddwyd ateb ar 23 Awst 2010

Nid wyf yn credu bod angen rhoi deddf debyg ar waith yng Nghymru. Er bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi camau hyfyw i gynnal cymunedau lleol yn llawn, nid ydym yn credu bod angen darpariaethau Deddf 2007 arnom i sicrhau'r nod hwn yma.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ceisio sicrhau y caiff gwasanaethau lleol eu darparu mewn ffyrdd sy'n cynnal cymunedau lleol ac sy'n rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i'r cyhoedd gyfrannu. Caiff hyn ei wella ymhellach gan ddarpariaethau Mesur Strwythurau Gwleidyddol Llywodraeth Leol a gyflwynwyd ar 12fed Gorffennaf 2010.

Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i rhoi i greu cynllun gwobrwyo 'Ein Pobl’ ar gyfer ei holl weithwyr. (WAQ56215)

Rhoddwyd ateb ar 14 Gorffennaf 2010

William Graham AC, Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad:

Roedd llwyddiant diweddar y Cynulliad i fod yn un o ddim ond tri sefydliad yng Nghymru, a’r unig ddeddfwrfa yn y Deyrnas Unedig i gael cydnabyddiaeth safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn brawf o’n gallu ni i ddangos yn glir ein bod yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod holl gyfraniadau ein staff.

Fel rhan o’r asesiad annibynnol ar gyfer gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl, a oedd yn cynnwys paratoi portffolio o dystiolaeth yn ogystal â chyfweliadau wyneb yn wyneb gyda thros 40 aelod o staff a ddewiswyd ar hap, roedd gofyn i ni allu dangos y canlynol:

• bod rheolwyr ar y lefel uchaf yn gallu disgrifio sut y maent wedi creu awyrgylch lle mae derbyn a rhoi adborth adeiladol yn cael ei werthfawrogi;

• bod pobl yn gallu disgrifio sut mae eu cyfraniadau at waith y sefydliad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi; a

• bod pobl yn gallu disgrifio strategaeth gwobrwyo a chydnabod y sefydliad a beth sydd angen iddynt ei wneud i gael eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a’u gwobrwyo.

Mae’r asesiad allanol hwn, yn erbyn safonau a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn rhoi’r hyder angenrheidiol i ni fod yn siŵr bod y ffyrdd yr ydym yn cydnabod cyfraniadau staff yn effeithiol. Mae cynlluniau sy’n cydnabod ymdrechion staff unigol wedi bod yn amhoblogaidd ymysg y staff yn y gorffennol. Ar y sail hon, nid ydym yn bwriadu cyflwyno cynlluniau eraill ar hyn o bryd, ond os hoffai’r Aelod drafod ei hawgrym ymhellach gyda’r Prif Weithredwr, byddem yn croesawu hyn.