14/10/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Hydref 2011 i’w hateb ar 14 Hydref 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gostau gwasanaethau ymgynghori wrth ddatblygu a gweithredu cynllun amaeth-amgylchedd Glastir. (WAQ58106)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gyfanswm costau datblygu’r cynllun amaeth-amgylchedd Glastir. (WAQ58107)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y staff yn Llywodraeth Cymru ac mewn Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod ynghlwm wrth weithredu a gweinyddu Glastir, ym mhob blwyddyn ers ei greu. (WAQ58108)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r effaith i Glastir yn sgil y cynigion i hyrwyddo materion gwyrdd yng Ngholofn 1 y Polisi Amaethyddol Cyffredin. (WAQ58109)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i weithredu’r cynigion i hyrwyddo materion gwyrdd yng Ngholofn 1 y Polisi Amaethyddol Cyffredin. (WAQ58110)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw’n bwriadu cyflwyno rhaglen o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig. (WAQ58111)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd yn rhaid i gwmnïau sy’n dymuno sefydlu mewn parth menter weithredu o fewn y sector economaidd dynodedig hwnnw’n unig. (WAQ58112)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi'r Dreth Gyngor yn Lloegr, ac yng ngoleuni'r hawl i Lywodraeth Cymru gael symiau canlyniadol, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Cyllid ynghylch y posibilrwydd o weithredu polisi tebyg yma yng Nghymru. (WAQ58113)