15/03/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 08 Mawrth 2010 i’w hateb ar 15 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw dargedau ar gyfer nifer y bobl (sy'n hanu o Gymru neu fel arall) sy'n mynychu prifysgol ac os felly, beth ydynt. (WAQ55850)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r rheini sy'n rhannu'n un cyfrifoldebau â hi yn rhanbarthau eraill y DU ynghylch casglu'r ardoll cig coch yn y dyfodol. (WAQ55849)