Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Ebrill 2008 i’w hateb ar 15 Ebrill 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ddefnyddio’r tocyn bws am ddim, ar gyfer y rheini sy’n gymwys, i deithio’n helaeth yn Lloegr. (WAQ51584)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu teithio am ddim ar fysiau. (WAQ51585)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu teithio am ddim ar fysiau yng Nghymru. (WAQ51586)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o blant a phobl ifanc ag awtistiaeth yng Nghymru sydd â mynediad at weithiwr allweddol. (WAQ51587)
Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gweithredu Cynlluniau Gweithio Allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc ar hyn o bryd a sut y maent yn gweithredu’r rhain. (WAQ51588)
Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys plant ag awtistiaeth, yn cael mynediad at weithiwr allweddol - fel yr amlinellwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaethau Mamolaeth. (WAQ51589)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd y cynllun gweithredu Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig arfaethedig yn rhoi sylw i’r anawsterau y mae oedolion ag awtistiaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd wrth gael gafael ar wasanaethau a chefnogaeth. (WAQ51590)