15/06/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mehefin 2009 i’w hateb ar 15 Mehefin 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch (a) pryd caiff y Cynlluniau 14 - 19 Drafft a gyflwynwyd ym mis Ebrill i’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (ar gyfer eu rhoi ar waith ym mis Mehefin) eu cymeradwyo a’u rhoi ar waith yn awr, a (b) beth a achosodd yr oedi. (WAQ54322)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl ysbyty gydag adrannau damweiniau ac achosion brys sy’n darparu data dienw i’w (a) heddlu lleol a (b) eu partneriaeth lleihau troseddu ac anrhefn lleol i’w cynorthwyo i adnabod mannau problemus o ran trais. (WAQ54319)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effeithiolrwydd Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn o ran atal pobl rhag torri esgyrn brau yr eilwaith. (WAQ54320)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG sy’n sicrhau bod nyrs cyswllt torri esgyrn neu berson penodol tebyg yn cydlynu’r gwaith o asesu a rheoli cleifion sydd wedi torri esgyrn.  (WAQ54321)