15/07/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 08 Gorffennaf 2010 i’w hateb ar 15 Gorffennaf 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ56145, a wnaiff y Gweinidog ddatgelu sawl swyddog a deithiodd o Swindon i Heathrow, a beth oedd cyfanswm cost y ffioedd tacsi. (WAQ56221)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16. (WAQ56216)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau cylch gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16. (WAQ56217)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa bryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cael adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16. (WAQ56218)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi unrhyw ddatganiadau llafar pellach ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16. (WAQ56219)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau ei fwriad i wneud yr A465 rhwng Gilwern a Brynmawr yn ffordd ddeuol, ac a wnaiff ddarparu manylion ynghylch pa bryd y bydd disgwyl i’r gwaith ddechrau. (WAQ56222)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad sydd wedi’i wneud o bont troed Gilwern fel yr unig le y gall pobl anabl a'r henoed groesi yn rhan ddeheuol yr A465 (ardal Heol yr Orsaf). (WAQ56223)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w dyletswyddau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd wrth benderfynu peidio ag ailosod nac addasu pont droed Gilwern hyd nes bo’r ffordd ddeuol wedi’i chwblhau. (WAQ56224)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu enwau a chyllidebau’r sefydliadau a gyllidwyd gan ei hadran yn y tair blynedd diwethaf i ddarparu cyngor, gwybodaeth neu ymchwil yn ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, a hefyd y sefydliadau hynny a gyllidwyd i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r newid yn yr hinsawdd. (WAQ56220)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi ei chyfrifoldebau dros faterion iechyd yr amgylchedd yng Nghymru. (WAQ56225)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau swyddogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran craffu ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru. (WAQ56226)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ymgyrch 'Scores on the Doors’. (WAQ56227)