Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 15 Hydref 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
David Melding (Canol De Cymru): Pa gyfran, yn ôl gwerth ariannol ac yn ôl nifer y cwmnïau sy’n cymryd rhan, o’r grantiau ProAct sydd wedi cael eu dyfarnu i fusnesau bach a chanolig eu maint. (WAQ54973)
Rhoddwyd
ateb ar 19 Hydref 2009
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau (John Griffiths): Ar hyn o bryd mae 67 o Ficrogwmnïau wedi'u cymeradwyo i gael arian o dan ProAct sy'n gyfwerth â £2.4m. Mae 19 o gwmnïau eraill yn Fusnesau Bach a Chanolig ac mae hyn yn gyfystyr â £3.3m. Felly, mae cyfanswm o £5.7m wedi'i ymrwymo i gwmnïau yng Nghymru sydd â llai na 250 o gyflogeion. Mae hyn yn cyfateb i tua 63% o'r holl gwmnïau a gymeradwywyd o dan ProAct a 32% o’r arian.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y cynllun gwerth £20 miliwn i fynd i’r afael â diweithdra’r ifanc sydd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ54974)
Rhoddwyd
ateb ar 19 Hydref 2009
John Griffiths: Byddwn yn targedu cymorth i helpu'r bobl ifanc hynny y mae'r dirywiad economaidd wedi effeithio arnynt fwyaf: Bydd yr £20.5m ychwanegol yn ymestyn Llwybrau at Brentisiaethau, yn cynyddu'r ddarpariaeth Adeiladu Sgiliau ac yn cefnogi'r Warant Pobl Ifanc a Mesurau eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau.