Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 08 Hydref 2010 i’w hateb ar 15 Hydref 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau’r dyddiad y bu iddo gomisiynu'r Asiantaeth Safonau Bwyd i archwilio sut y caiff diogelwch bwyd ei reoli yng Nghymru, a chadarnhau pa bryd y disgwylir iddynt gyhoeddi adroddiad. (WAQ56595)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pwy sy’n gyfrifol am gydlynu ac asesu cydymffurfiaeth â’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes ledled Cymru. (WAQ56593)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran penodi arweinydd clinigol newydd ar gyfer Diabetes. (WAQ56594)