15/12/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Rhagfyr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Rhagfyr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw ddatblygiadau diweddar yng nghyswllt Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru? (WAQ52871)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones):Mae Grwp Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru wedi ffurfioli ei Gylch Gorchwyl ac yn creu is-grwpiau arbenigol i roi cyngor ar y broses o gyflawni’r strategaeth. Ymhlith y gwaith y dechreuir arno dros y misoedd nesaf mae; Meysydd Gorffwys Lorïau – Nodi Angen a Phellter a’r posibilrwydd o gyd-leoli â Chanolfannau Cyfuno Llwythi. Dewisiadau Trosglwyddo Rhyngfoddol, gan ymgorffori trosglwyddiadau o’r ffordd i’r dwr/rheilffyrdd.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ac yng Ngweithrediaeth yr Alban ynghylch harmoneiddio cynlluniau teithio rhatach ar fysiau Cymru, Lloegr a’r Alban ar draws y Deyrnas Unedig? (WAQ52872)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Fodd bynnag, yn ddiweddar aeth fy swyddogion i gyfarfod o’r fath er nad oes ymrwymiad wedi’i wneud i gynllun ar gyfer y DU gyfan.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i gymeradwyo datblygiad Croes Mwyndy ger Llantrisant? (WAQ52866)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Cyhoeddwyd y penderfyniad ar yr apêl gynllunio hon ar 23 Hydref 2008. Yn yr achos hwn gwnaed y penderfyniad gan y Prif Weinidog oherwydd bod safle’r apêl o fewn fy etholaeth. Ar ôl ei gyhoeddi mae’r penderfyniad yn derfynol ac ni chaiff Gweinidogion Cymru unrhyw awdurdodaeth bellach o ran y mater oni bai bod y penderfyniad yn cael ei herio’n llwyddiannus, ar bwyntiau cyfreithiol yn unig, yn yr Uchel Lys ac yn yr achos hynny byddai’n cael ei ddychwelyd at Weinidogion Cymru i’w ystyried eto. Daeth y cyfnod ar gyfer her gyfreithiol i ben ar 4 Rhagfyr 2008 ac nid yw’r Llys wedi ein hysbysu o unrhyw her. Ni allaf roi sylw ar rinweddau’r penderfyniad na’r rhesymeg sy’n sail iddo.