16/05/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mai 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mai 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i’r Prif Weinidog gyfarfod â Phrif Weinidog y DU, ac a wnaiff roi manylion y cyfarfod? (WAQ51702)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cefais gyfarfod diwethaf gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod ei ymweliad ag Abertawe ddydd Gwener 25 Ebrill.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i’r Gweinidog gyfarfod â rheolwyr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, a beth oedd canlyniad y cyfarfod? (WAQ51694)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Cefais y cyfarfod diwethaf â rheolwyr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd pan oeddwn yn bresennol yn nigwyddiad pen-blwydd cyntaf y Gwasanaeth Awyr Oddi Mewn i Gymru ar 9 Mai. Byddaf yn cyfarfod yn ffurfiol â rheolwyr y Maes Awyr yn fuan.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y gwasanaethau bysiau a dynnwyd yn ôl ym mhob awdurdod lleol ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51695)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Ni ddelir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae manylion AM gofrestriadau bws ac achosion o dynnu yn ôl ar gael gan y Comisiynydd Traffig, Welsh Traffic Area Office, Hillcrest House, 386 Hareshill Lane, Leeds, LS9 6NF

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu rhagor o deithiau hedfan uniongyrchol i/o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd? (WAQ51703)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Sefydlwyd Cronfa Datblygu Llwybrau Awyr Cymru i gynorthwyo Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i ddenu llwybrau newydd. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi llwybrau i Baris a Barcelona ac yn ôl. Agorodd y Gronfa ym Mehefin 2006 a chafodd ei chau ar 31 Mai 2007. Nid ydym wedi parhau â'r cynllun o dan brotocol y Gronfa Datblygu Llwybrau Awyr a ddiwygiwyd oherwydd bod y canllawiau newydd yn cynnwys cyfyngiadau sy'n gwneud y cynllun yn annymunol i feysydd awyr a gweithredwyr oherwydd y gwaith anghymesur sydd ei angen i gael cyfraniad o 30%.

Mae fy swyddogion yn cysylltu'n rheolaidd â'r Maes Awyr a'r cwmnïau awyr o ran targedu llwybrau awyr allweddol a fydd yn creu buddiannau economaidd ychwanegol i Gymru drwy fewnfuddsoddiad a thwristiaeth. Byddaf yn cyfarfod yn ffurfiol â rheolwyr y Maes Awyr yn fuan.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o blant sydd wedi gadael yr ysgol yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau a gydnabyddir yn ffurfiol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ51735)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae nifer y plant a’r ganran o blant 15 oed sy'n gadael addysg llawn amser yng Nghymru heb gymhwyster cydnabyddedig yn lleihau'n raddol. Ceir y wybodaeth lawn a adroddir o ran nifer y disgyblion a chanran y disgyblion 15 oed yn Natganiad Ystadegol Cyntaf, SDR 204/2007.

http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/schools-2007/hdw200712202/?lang=cy

Mae'r ffigyrau hyn yn dangos bod y system addysg yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae cyflawni o leiaf un cymhwyster yn hanfodol er mwyn rhoi cyfle o fywyd gwell i bobl ifanc, swydd sy'n talu'n well a mwy o ddiogelwch ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn benderfynol o hyd - fel y nodir yn Y Wlad sy'n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith - na ddylai unrhyw ddisgybl adael y system addysg heb gymhwyster cymeradwy erbyn 2010.

Bwriad y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) yw llywio'r broses o weithredu Llwybrau Dysgu yng Nghymru, gan nodi'r dull gweithredu arbennig a ddefnyddir ar gyfer datblygu darpariaeth 14-19. Bydd yn sicrhau y gall yr holl ddysgwyr arfer eu hawl i chwe elfen allweddol fframwaith Llwybrau Dysgu.

Mae Rhwydweithiau 14-19, sy'n seiliedig ar bob ardal awdurdod lleol ac sy'n cynnwys partneriaid o bob sector gan gynnwys ysgolion, yn gweithio'n galed i weithredu Llwybrau Dysgu 14-19. Yn ystod 2008-09 mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi clustnodi £32.5m i ardaloedd Rhwydwaith 14-19 er mwyn parhau i ddatblygu Llwybrau Dysgu gan gynnwys ystod o weithgareddau cydweithredol a anelir at leihau nifer y disgyblion sy'n gadael yr ysgol heb gymwysterau.

Bydd Llwybrau Dysgu 14-19 yn rhoi'r cyfle i bob dysgwr gymryd opsiynau galwedigaethol ynghyd ag opsiynau academaidd, wrth ddewis o restr eang o opsiynau.

Mae rôl Hyfforddwr Dysgu yn ddatblygiad allweddol hefyd o ran helpu i gadw pobl ifanc i ddysgu. Mae rôl Hyfforddwr Dysgu yn allweddol er mwyn cefnogi'r dysgwr yn agweddau dysgu'r Llwybr Dysgu cyfan gan ganolbwyntio ar wneud y mwyaf o allu'r person ifanc a'i ysgogi i aros mewn addysg i ennill cymwysterau.

Mae angen gwell cymorth personol ar lawer o bobl ifanc hefyd i'w helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu, aros mewn addysg a manteisio ar gyfleoedd i ennill cymwysterau. Mae cael gafael ar gymorth personol yn elfen allweddol arall o Lwybrau Dysgu a gaiff ei chyflwyno i bob person ifanc yng Nghymru.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o athrawon sydd newydd gymhwyso yng Nghymru sy’n cael swydd dysgu yng Nghymru cyn pen a) 12 mis, b) 24 mis, ac c) 36 mis ar ôl graddio? (WAQ51736)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o athrawon sydd newydd gymhwyso yng Nghymru sy’n cael swydd y tu allan i Gymru cyn pen a) 12 mis, b) 24 mis, ac c) 36 mis ar ôl graddio? (WAQ51737)

Jane Hutt: Caiff gwybodaeth am weithgaredd addysgu graddedigion Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon o Sefydliadau Addysg Uwch y DU tua 6 mis ar ôl graddio ei chasglu gan arolwg Cyrchfan Pobl sy'n Gadael Addysg Uwch yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Nid yw'r arolwg dilynol a gynhelir dair blynedd a hanner ar ôl graddio yn cynnwys gwybodaeth am weithgaredd addysgu. Mae'r tabl canlynol yn rhoi gwybodaeth am weithgaredd addysgu ar gyfer y tair blynedd academaidd ddiwethaf.

Gweithgaredd addysgu a lleoliad myfyrwyr sy'n cwblhau cyrsiau HCA yng Nghymru

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mai 2008
 

2003/04

2004/05

2005/06

Canran y myfyrwyr sy'n cwblhau HCA, gyda chyrchfan hysbys, mewn swydd addysgu:

     

Yng Nghymru

52%

60%

57%

Y tu allan i Gymru

28%

27%

27%

Cyfradd ymateb i'r arolwg ar gyfer myfyrwyr sy'n cwblhau HCA

76%

74%

80%

Nifer y myfyrwyr sy'n cwblhau HCA (a)

2,065

2,045

2,030

Ffynhonnell: Cofnod Myfyrwyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch a Chyrchfan Pobl sy'n Gadael Addysg Uwch

(a) Talgrynwyd i'r 5 agosaf

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o athrawon gydag arbenigedd iaith mewn Tsieinëeg Mandarin a gymhwysodd yng Nghymru yn y cyfnod 12 mis diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer? (WAQ51740)

Jane Hutt: Yn ôl Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, nid oedd unrhyw fyfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon cymwysedig yn 2006/07 y cofnodwyd bod eu cwrs yn cynnwys arbenigedd iaith mewn Tsieinëeg Mandarin.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o nyrsys sydd newydd gymhwyso yng Nghymru sy’n cael swydd nyrsio yn GIG Cymru cyn pen a) 12 mis, b) 24 mis, ac c) 36 mis ar ôl graddio? (WAQ51745)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o nyrsys sydd newydd gymhwyso yng Nghymru sy’n cael swydd nyrsio y tu allan i Gymru cyn pen a) 12 mis, b) 24 mis, ac c) 36 mis ar ôl graddio? (WAQ51746)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Nid yw'r wybodaeth benodol hon ar gael yn ganolog.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer yr achosion o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty ym mhob Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51751)

Edwina Hart: Ers cychwyn y cynlluniau arolygu gorfodol yn 2001, cyhoeddwyd adroddiadau Cymru Gyfan ac adroddiadau Ymddiriedolaeth ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau am nifer y practisau deintyddol GIG yn Nhor-faen? (WAQ51771)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod faint o bractisau GIG yn Nhor-faen sy’n derbyn cleifion newydd ar hyn o bryd? (WAQ51772)

Edwina Hart: Rwy'n deall bod 15 o bractisau deintyddol yn Nhor-faen sydd wedi'u contractio i ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG. Ar hyn o bryd mae tri o'r practisau hyn yn derbyn cleifion y GIG newydd.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau am nifer y practisau deintyddol GIG yn sir Fynwy? (WAQ51773)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod faint o bractisau GIG yn sir Fynwy sy’n derbyn cleifion newydd ar hyn o bryd? (WAQ51774)

Edwina Hart: Rwy'n deall bod 18 o bractisau deintyddol yn Sir Fynwy sydd wedi'u contractio i ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG. Ar hyn o bryd mae tri o'r practisau hyn yn derbyn cleifion y GIG newydd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Changhellor y Trysorlys ynghylch dileu’r gyfradd treth incwm 10c a goblygiadau hynny ar gyfer mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru? (WAQ51732)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Ni chefais unrhyw drafodaethau. Cyfrifoldeb Canghellor y Trysorlys yw'r system drethiant, fel mater a gedwir yn ôl. Rydym wedi mynegi ein pryder am effeithiau diddymu'r gyfradd dreth incwm 10c ar deuluoedd yng Nghymru sydd ar incwm isel a chroesawn gyhoeddiad diweddar y Canghellor y bydd yn cynyddu lwfans treth person unigol £600 i £6035 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.