16/06/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mehefin 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mehefin 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch cyflwr economi Cymru yn 2008, ac os felly a wnaiff roi manylion y cyfarfodydd hyn? (WAQ51833)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Changhellor y Trysorlys ynghylch cyflwr economi Cymru yn 2008, ac os felly a wnaiff roi manylion y cyfarfodydd hyn? (WAQ51834)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch newidiadau i’r gyfradd treth 10c a’u heffaith yng Nghymru, ac os felly a wnaiff roi manylion y trafodaethau hyn? (WAQ51835)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Changhellor y Trysorlys ynghylch newidiadau i’r gyfradd treth 10c a’u heffaith yng Nghymru, ac os felly a wnaiff roi manylion y cyfarfodydd hyn? (WAQ51836)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch cost tanwydd yng Nghymru, ac os felly a wnaiff roi manylion y trafodaethau hyn? (WAQ51837)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch pris ynni yng Nghymru, ac os felly a wnaiff roi manylion y trafodaethau hyn? (WAQ51838)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Changhellor y Trysorlys ynghylch cost tanwydd yng Nghymru, ac os felly a wnaiff roi manylion y trafodaethau hyn? (WAQ51839)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda Changhellor y Trysorlys ynghylch pris ynni yng Nghymru, ac os felly a wnaiff roi manylion y trafodaethau hyn? (WAQ51840)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae gennyf fi a’m cabinet berthynas waith ardderchog â Llywodraeth y DU o ran amrywiaeth o bynciau sydd o ddiddordeb i bobl Cymru a/neu sy’n peri pryder iddynt gan gynnwys rhai o’r pynciau y cyfeirir atynt yn eich cwestiynau. Mae’n amlwg mai’r Canghellor sy’n gyfrifol am bolisi ariannol; ein blaenoriaeth yw defnyddio ein pwerau datganoledig ym maes datblygu economaidd, y mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn gyfrifol amdanynt, ac mewn meysydd eraill i sicrhau bod economi Cymru yn tyfu mewn modd cynaliadwy gan ymateb i heriau byd-eang heddiw a’r rhai a ragwelir yn y dyfodol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog restru, mewn metrau sgwâr, beth oedd y lle gwag cyfartalog a chyfanswm yr arwynebedd a gofnodwyd ar gronfa ddata Gwasanaeth Mapio Gwybodaeth Eiddo Electronig (e-PIMS) ar gyfer Adrannau’r Llywodraeth ac asiantaethau gweithredol y cadwyd gwybodaeth ar eu cyfer, ym mhob blwyddyn ers creu’r gronfa ddata? (WAQ51846) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Datblygwyd cronfa ddata e-PIMS gan Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC) i ddarparu cronfa ddata ganolog o holl ddaliadau eiddo’r Llywodraeth a hwyluso gwell rheolaeth ar asedau ar draws yr ystad sifil. Mae’r system yn cysylltu â Chofrestr Tir Dros Ben sy’n cofnodi tir ac adeiladau sifil y tybir nad oes eu hangen mwyach.

Dechreuodd Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio e-PIMS i gofnodi a rheoli ei hystad weinyddol yn 2005. Ers hynny, mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda’r OGC i ddatblygu’r system ymhellach i fodloni ein gofynion penodol.

Nodwyd bod ystad weinyddol Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys 1,984 o fetrau sgwâr o le gwag. Mae hyn yn cyfateb i tua 1.9% o’r portffolio ac yn effeithio ar bedwar eiddo, gan gynnwys Ty’r Afon, Bedwas lle mae 1,224 o fetrau sgwâr yn wag ar hyn o bryd. Mae sylw yn cael ei roi i faterion amgylcheddol yn yr adeilad er mwyn hwyluso ei feddiannu’n llawn.

Er bod y data a ddelir ynglyn ag ystad weinyddol Llywodraeth y Cynulliad yn gynhwysfawr, diogelir gwybodaeth hanesyddol ynglyn â’r ystad sifil ehangach yng Nghymru gan gyfyngiadau ar fynediad.

Mae’r OGC wedi cadarnhau ei bod yn gyfrifol am y data hanesyddol y cyfeirir ato yn eich cwestiwn ac y bydd angen gwneud cais ffurfiol iddi am y wybodaeth hon er mwyn iddi gael ei rhyddhau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr anghysondebau o ran presgripsiynu a chyllido Sutent mewn byrddau iechyd lleol gwahanol yng Nghymruŷ (WAQ51848)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Nid oes unrhyw anghysondebau rhwng gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) yng Nghymru. Mae Sunitinib (Sutent) wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Cymru) ar gyfer trin cleifion y mae eu cyflwr yn bodloni meini prawf clinigol penodol. Mae’r cyfrifoldeb dros benderfyniadau ynghylch ariannu triniaethau megis sunitinib yn nwylo’r BILlau yng Nghymru.

Mae Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi penderfynu na ddylid argymell sunitinib o fewn GIG Cymru i drin canser carsinoma celloedd arennol oherwydd diffyg data cadarn ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn ac rwyf yn cymeradwyo’r argymhelliad hwn. Megis dechrau y mae NICE ar ei arfarniad o sunitinib i drin canser carsinoma celloedd arennol a disgwylir ei ganllawiau yn 2009. Nid yw’r canllawiau cyfredol ar AWMSG yn bwysicach na chyfrifoldeb unigol clinigwyr i wneud penderfyniadau priodol o dan amgylchiadau unigol ac, o bryd i’w gilydd, rhagnodir ac ariennir y cyffur hwn i’w gymryd gan gleifion yn seiliedig ar eu cyflwr clinigol penodol. Nid ar chwarae bach y gwneir y penderfyniadau hyn ac yn yr achosion hyn bydd y BILl cyfrifol yn clywed ac yn asesu’r holl dystiolaeth berthnasol, gan gynnwys y canllawiau sy’n bodoli eisoes.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y gwarged neu’r diffyg yn y gyllideb sy’n cael eu hadrodd gan fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn ystod y flwyddyn ariannol honŵ (WAQ51851)

Edwina Hart: Disgwylir i’r adroddiadau monitro cyntaf ar gyfer 2008-09 gael eu cyflwyno i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yr wythnos hon. Bydd fy swyddogion yn craffu ar yr adroddiadau hyn.

Mae’n bosibl bod y manylion yr ydych yn eu ceisio eisoes yn eiddo i’r cyhoedd am ei bod yn ofynnol i gyrff GIG roi gwybod am eu sefyllfa ariannol pan fydd eu cyrff yn cyfarfod yn gyhoeddus.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella glanweithdra mewn ysbytai er mis Mehefin 2007? (WAQ51852)

Edwina Hart: Rwyf yn benderfynol o wella’r sefyllfa ac wedi gosod safonau uchel o ran glendid yn ein hysbytai a byddaf yn sicrhau y caiff y safonau hynny eu gweithredu gan Ymddiriedolaethau GIG unigol.

Ym mis Hydref anfonais Dimau Archwilio Hylendid i ddau ysbyty, Nevill Hall a Threforys, a bydd y rhaglen o archwiliadau dirybudd yn parhau drwy gydol 2008.

Rwyf wedi sefydlu grwp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar ailrymuso prif nyrsys wardiau yn y GIG yng Nghymru ac ystyried cyfrifoldeb ac atebolrwydd dros lanhau wardiau. Cyhoeddir adroddiad y grwp yn ddiweddarach y mis hwn.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o gleifion sydd wedi cael llawdriniaethau pen-glin adolygol yn dilyn eu prif lawdriniaeth fel rhan o gontract Weston-Super-Mare, a faint o gleifion eraill sydd naill ai dan adolygiad parhaus neu sydd wedi’u rhestru ar gyfer llawdriniaeth adolyguŵ (WAQ51853)

Edwina Hart: Mae 22 o gleifion wedi cael llawdriniaeth adolygol ar y pen-glin yn dilyn eu llawdriniaeth gyntaf yn Weston. Adolygwyd 27 o gleifion eraill o dan raglen adolygu barhaus. Mae un claf yn aros i gael llawdriniaeth adolygol ar hyn o bryd.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drefniadau diogelu a roddwyd ar waith i atal ailadrodd y problemau gyda’r contract Weston fel rhan o’r cynllun ail gynnig pan roddodd cleifion o Gymru wybod am broblemau gyda’u pen-gliniau newydd? (WAQ51854)

Edwina Hart: Terfynwyd y contract gyda Weston ym mis Medi 2006. Nid anfonwyd unrhyw gleifion pellach i Weston i gael llawdriniaeth ar y pen-glin ar ôl mis Mehefin 2006 pan ddaeth yn amlwg bod nifer y cymhlethdodau a oedd yn cael eu cofnodi yn achosi pryder.

Fel rhan o Weithdrefnau Cytundeb Fframwaith yr Ail Gynnig, o dan brosesau caffael Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) ym mis Hydref 2006, mae gofyniad cytundebol bod Darparwyr Ail Gynnig yn cyflwyno data perfformiad misol sy’n cynnwys data ar gymhlethdodau clinigol sy’n deillio o lawdriniaeth. Mae’r Tîm Ail Gynnig yn gwneud gwaith dilynol ar bob achos o’r fath, ac yn cyflwyno adroddiad arnynt i’r Pwyllgor Llywodraethu Clinigol Ail Gynnig, lle y rhoddir sylw priodol i bob achos. Ceir mewnbwn clinigol i’r Pwyllgor hwn i sicrhau llywodraethu priodol.

Ni roddwyd gwybod am unrhyw achosion lle’r oedd angen i gleifion gael llawdriniaeth adolygol o ganlyniad i gymhlethdodau yn deillio o’u llawdriniaeth gyntaf ers mis Medi 2006. Mae’r Pwyllgor Llywodraethu Clinigol Ail Gynnig wedi’i hysbysu o ganlyniadau’r adolygiadau clinigol a wnaed gan Ymddiriedolaethau Caerdydd a’r Fro a Gwent o ganlyniad i’r penderfyniad i adalw cleifion a gafodd eu trin yn Weston.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth oedd y gost i GIG Cymru o ganlyniad i ddatrys y problemau a achoswyd gan y contract Weston pan roddodd cleifion o Gymru wybod am broblemau gyda’u pen-gliniau newydd? (WAQ51855)

Edwina Hart: Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog.