Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Mehefin 2015 i'w hateb ar 16 Mehefin 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba drafodaethau y mae wedi'u cael a pha gynnydd sydd wedi'u wneud o ran trydaneiddio'r rheilffordd gogledd Cymru? (WAQ68766)
Derbyniwyd ateb ar 15 Mehefin 2015
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): I am fully committed to rail modernisation and have had a number of discussions in regard to the case for electrification of the North Wales rail line. I have commissioned Dr Elizabeth Haywood to engage with local authorities, businesses and others to elicit support for the business case.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwaith ymchwil a datblygu ym mhob rhanbarth yng Nghymru ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf? (WAQ68767)
Derbyniwyd ateb ar 11 Mehefin 2015
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): We do not collect data on research and development for individual regions of Wales.