Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Gorffennaf 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffreinol ac Arweinydd y Tŷ
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyddiad cyhoeddi arfaethedig canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Mynediad i addysg a chymorth i ddisgyblion ag anghenion meddygol’, ac am y trefniadau arfaethedig ar gyfer sicrhau y cânt eu rhoi ar waith? (WAQ54537)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Bydd y canllaw 'Mynediad i Addysg a Chymorth i Ddisgyblion ag Anghenion Meddygol’ yn rhoi cyngor i ysgolion ac awdurdodau lleol ar fodloni gofynion addysgol disgyblion ag anghenion meddygol. Mae’r canllaw’n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru, a bydd yn pwysleisio’r angen am barhad ym myd addysg a’r effaith y gall cyflyrau meddygol ei chael ar addysg, iechyd a lles cymdeithasol disgybl. Bydd y canllaw hefyd yn gyson â’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaethau Mamolaeth.
Caiff y canllaw ei gyhoeddi yn ystod Tymor yr Hydref 2009, ac mae fy swyddogion yn trafod ag Asthma UK a Diabetes Cymru ynghylch y ffordd fwyaf priodol o sicrhau y caiff y canllaw yr effaith fwyaf posibl a’i weithredu’n llawn ym mhob sector.
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystyriaeth y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i rhoi i effaith diddymu’r senedd ar ddarparu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ54528)
Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ (Carwyn Jones): Yn fy rôl benodol fel Cwnsler Cyffredinol, ni roddais unrhyw ystyriaeth i hyn.