16/09/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 September 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 16 Medi 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu Cynlluniau Busnes ar gyfer pob Adran yn nodi manylion eu gwaith, fel a amlinellwyd yng Nghynllun Cyflenwi Cymru’n Un 2007-2011 (WAQ54790)

Rhoddwyd ateb ar 27 Hydref 2009

Dywedais y byddwn yn ysgrifennu atoch gyda chopi o Gynllun Busnes pob Adran, yn esbonio manylion eu gwaith yn unol â Chynllun Cyflenwi Cymru’n Un 2007-2011. Mae’n ddrwg gennyf am yr oedi pellach. Anfonwyd y wybodaeth atoch yn electronig a rhoddwyd copi o’r dogfennau perthnasol yn y Llyfrgell.

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint o grantiau addysg sydd ar gael i Awdurdodau Lleol yng Nghymru (WAQ54782)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Mae fy Adran i yn rhoi 41 o grantiau addysg ar gyfer awdurdodau lleol yn 2009-2010. Mae hyn yn cynnwys grantiau cyfalaf a refeniw o ran ysgolion a gwasanaethau ysgolion, gwasanaeth ieuenctid a dysgu yn y gymuned. Mae grantiau ar gyfer rhai gwasanaethau sy'n ymwneud ag addysg hefyd ar gael i awdurdodau lleol o ffynonellau eraill gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Chwaraeon Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint sy’n cael ei wario ar weinyddu grantiau addysg yn flynyddol yng Nghymru. (WAQ54783)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog a gellid ond ei rhoi ar gost anghymesur.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gwelliannau i gyflymder band eang mewn ardaloedd gwledig (WAQ54763)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw welliannau i gyflymder band eang sydd yn yr arfaeth yn y Canolbarth (WAQ54764)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymrwymiad i isafswm cyflymder ar gyfer band eang yng Nghymru wledig (WAQ54765)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi 2009

Croesawaf adroddiad Prydain Ddigidol Llywodraeth y DU gyda'i ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth band eang 2Mbps cyffredinol (USC) ledled y DU. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda BT i werthuso'r 60 o ardaloedd heb fand eang ledled Cymru i benderfynu a yw'n ymarferol darparu ateb copr 2Mbps neu ateb ffibr i'r ardaloedd hyn.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod pobl yng Nghymru wledig yn cael budd o'r ymrwymiad hwn erbyn 2012. Rydym hefyd yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i'w hannog i uwchraddio'r seilwaith i wella cyflymderau band eang.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pryd fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol ar gyfer pennu cyfyngiadau cyflymder (WAQ54768)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi 2009

Gobeithiwn allu cyhoeddi canllawiau newydd ar derfyn cyflymder ar gyfer Cymru yn ystod hydref eleni.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r newyddion diweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno rheoliadau i chwalu rhai o’r rhwystrau rhag microgynhyrchu (WAQ54769)

Rhoddwyd ateb ar 30 Medi 2009

Daeth Diwygiadau i reoliadau datblygu a ganiateir i rym ar 1af Medi 2009 sydd yn galluogi cartrefi i osod cyfarpar meicrogynhyrchu domestig heb orfod cael caniatâd cynllunio i ddechrau. Mae'r diwygiadau yn berthnasol i systemau solar ffotofoltäig, paneli solar thermal, pympiau gwres o'r ddaear a dŵr a ffliwiau sy'n gysylltiedig â bio-màs a systemau gwres a phŵer cyfunedig ar ffin tai a fflatiau neu oddi fewn iddynt, yn amodol ar feini prawf penodol.

Rwyf yn arbennig o falch ein bod wedi mynd gam ymhellach na Lloegr drwy ganiatáu paneli solar annibynnol hyd at ffiniau eiddo, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf uchder a phriffyrdd penodol.

Ar gyfer adeiladau masnachol, rydym wedi comisiynu arolwg ar y cyd â'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a fydd yn sail i unrhyw gynigion a wneir yn y dyfodol.  

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran datblygu cartrefi nyrsio newydd, di-elw ers cyflwyno’r cytundeb Cymru’n Un (WAQ54778)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi 2009

Rwyf wedi cwrdd ag Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i ddatblygu'r ymrwymiad Cymru'n Un hwn.  Mae ein swyddogion wedi bod yn cydweithio ar ystod o fodelau i ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer cyflawni agenda Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol yr ymrwymiad hwn. Rwy'n cwrdd â'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y mis hwn i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y DU neu’r UE sydd ar gael fel arian cyfatebol ar gyfer yr arian a roddir gan ddatblygwyr ffermydd gwynt i ariannu prosiectau er budd cymunedau yng Nghymru (WAQ54779)

Rhoddwyd ateb ar 23 Medi

Yn dechrau eleni, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cefnogi cynlluniau gwynt, biomas a thrydan dŵr yn y gymuned gan roi cyngor a grantiau drwy Fframwaith Newid yn yr Hinsawdd y rhaglen Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Bydd ein prosiectau 'Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy Cymunedol' - 'Cydgyfeirio' a 'Cystadleurwydd' yn sefydlu neu'n datblygu 22 o fentrau cymdeithasol cynaliadwy yn seiliedig ar osodiadau ynni adnewyddadwy newydd yn y gymuned.

Bydd y prosiectau’n darparu gwasanaeth datblygu technegol i gefnogi mentrau cymdeithasol a rhoi cyngor lleol ar ynni adnewyddadwy ynghyd â rhywfaint o gymorth ar gyfer costau rhagarweiniol a grantiau cyfalaf tuag at gost gosodiadau ynni adnewyddadwy.  Caiff y prosiect ei gyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Mae disgwyl i'r prosiectau gael eu lansio yn ystod yr hydref hwn.  

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gleifion a gafodd eu trin yn ysbytai’r GIG ar wardiau cymysg ym mhob blwyddyn er 1999 (WAQ54773)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd mae’r Gweinidog yn bwriadu gwneud penderfyniad ar y cynigion i leihau ffioedd Hospedia ar gyfer galwadau ffôn mewn ysbytai (WAQ54774)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Mae fy swyddogion yn craffu ar ganfyddiadau'r arolwg i gostau taliadau galwadau ffôn ysbytai a'r opsiynau o ran sut i ddatblygu'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd. Disgwyliaf gael briffiad maes o law a byddaf yn ei ystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa amcangyfrif mae’r Gweinidog wedi’i wneud o gyfanswm cost trin cleifion yn breifat er mwyn cyrraedd targedau amseroedd aros Mynediad 09 (WAQ54775)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gleifion ym mhob un ardal ymddiriedolaeth GIG sydd wedi cael eu trin y tu allan i’r GIG ym mhob blwyddyn er 1999 (WAQ54776)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes gan Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru y gallu i gyrraedd targedau amseroedd aros Mynediad 09 o 26 wythnos neu a fydd angen trin rhai cleifion y tu allan i'r GIG er mwyn bodloni’r targed hwn (WAQ54777)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Er bod y mwyafrif helaeth o gleifion yn cael eu gweld o fewn y GIG yng Nghymru, bydd nifer weddol fach yn parhau i gael eu trin yn y sector annibynnol tan fis Rhagfyr eleni, i sicrhau y caiff targedau Mynediad 09 eu cyflawni.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut mae’r Gweinidog yn sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cyflawni ei chyfrifoldebau’n effeithiol (WAQ54780) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies):  Mae AGGCC yn briodol annibynnol ar Weinidogion yng ngweithrediad proffesiynol ei swyddogaethau fel arolygiaeth.  Mae ganddi ei systemau ei hun ar gyfer sicrhau ansawdd ac effeithiolrwydd o ran hyn, gan gynnwys ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid.  Mae gan weinidogion y cyfle i wneud sylwadau ar y rhaglen arolygu ac adolygu flynyddol a chael Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd.  

O ran ei pherfformiad cyffredinol, mae'n rhan o Gyfarwyddiaeth Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn atebol drwy'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, o fewn y trefniadau atebolrwydd arferol ar gyfer swyddogion Llywodraeth y Cynulliad. Rwy'n cwrdd â'r Prif Arolygydd yn rheolaidd a gallaf godi unrhyw faterion penodol ag ef.  

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog nodi ei hunion rôl a chyfrifoldebau o ran gwaith, swyddogaethau a gweithgareddau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (WAQ54781)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Gweinidogion Cynulliad Cymru yw'r awdurdod cofrestru ar gyfer y swyddogaethau a'r gweithgareddau a gynhelir gan AGGCC.  Mae AGGCC yn rhan o Gyfarwyddiaeth Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae AGGCC yn cyflawni swyddogaethau rheoleiddio ac arolygu gweithredol ar ran Gweinidogion Cymru.  Mae ei gweithredoedd a'i phenderfyniadau rheoliadol ac arolygu yn weithredol annibynnol.  

O ystyried ei chyfrifoldeb arbennig am wasanaethau cymdeithasol, caiff y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol gynllun busnes blynyddol gan AGGCC, fe'i cyflwynir â chanfyddiadau ei gwaith a chaiff friffiau rheolaidd. Caiff Adroddiad Blynyddol AGGCC, sy'n cynnwys adroddiad am ei pherfformiad, ei drafod yn y Cyfarfod Llawn.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r gwariant a gynlluniwyd yng Ngwariant y Cynllun Datblygu Gwledig - llinell Wariant Cyllideb yr UE a’r DU ar gyfer 2009/10, sy’n dangos bod dyraniad o £60,606,000 yn y Gyllideb Derfynol ym mis Rhagfyr 2008 (WAQ54766)

Rhoddwyd ateb ar 23 Medi 2009

Mae'r swm o £60,606,000 yn ymwneud â gwariant net (h.y. cyllideb gros llai y symiau a ariennir gan arian Ewropeaidd) ar Refeniw. Yn ogystal, mae gwariant wedi'i gynllunio ar gyfalaf ar y Cynllun Datblygu Gwledig - Gwariant yr UE a'r DU, sef £16,179,000 (net), gan roi'r gwriant net wedi'i gynllunio ar y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer 2009/10 sef £76,785,000. Nodir dadansoddiad fesul Cynllun isod, gan ddangos ffigurau ar gyfer gwariant gros, symiau a ariennir gan arian Ewropeaidd, a'r ffigurau gwariant net fel y'u nodir uchod.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 September 2009

Y Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) fesul Cynllun

Gwariant

Gros

£’000

Llai:

Cyllid

yr UE

£’000

Gwariant Net

£’000

Echel 1 RDP - Cyswllt Ffermio

4,026

2,647

1,379

Echel 1 RDP - Grant Prosesu a Marchnata

10,548

6,390

4,158

Echel 1 RDP - Effeithlonrwydd Cadwyn Cyflenwi

6,255

3,332

2,923

Echel 1 RDP - Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr

1,495

810

685

       

Echel 2 RDP - Tir Gofal

29,660

11,460

18,200

Echel 2 RDP - Tir Cynnal

8,102

2,106

5,996

Echel 2 RDP - Tir Mynydd

25,690

3,986

21,704

Echel 2 RDP - Ffermio Organig

8,000

2,080

5,920

Echel 2 RDP - Cynlluniau Amaethyddol Amgylcheddol Eraill

1,276

333

943

Echel 2 RDP - Cynllun Coetir Ffermydd/Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd

610

159

451

Echel 2 RDP - Coetiroedd Gwell i Gymru

3,306

859

2,447

Echel 2 RDP - Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon

200

126

74

       

Echel 3 RDP - Arallgyfeirio i faes Anamaethyddol

55

39

16

Echel 3 RDP - Cymorth i Greu Busnesau

2,068

1,134

934

Echel 3 RDP - Hyrwyddo Gweithgareddau Twristiaeth

2,532

1,294

1,238

Echel 3 RDP - Gwasanaethau Sylfaenol i'r Economi

2,148

1,195

953

Echel 3 RDP - Adnewyddu a Datblygu Pentrefi

814

383

431

Echel 3 RDP - Cadwraeth ac Uwchraddio'r Dreftadaeth Wledig

1,705

756

949

Echel 3 RDP - Darparu Hyfforddiant a Gwybodaeth

1,090

568

522

Echel 3 RDP - Meithrin Sgiliau

2,376

1,090

1,286

       

Echel 4 RDP - Strategaeth

4,024

2,213

1,811

Echel 4 RDP - Costau Rhedeg

1,335

734

601

Echel 4 RDP - Cydweithredu

669

368

301

       

Cymorth Technegol RDP

788

394

394

Gwariant Arall RDP, gan gynnwys gwerthusiad

2,469

0

2,469

Cyfanswm

121,241

44,456

76,785

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Ar gyfartaledd, faint mae paratoi contract a chynllun rheoli ar gyfer grant 'Coetiroedd Gwell i Gymru’ yn ei gostio i Lywodraeth Cynulliad Cymru (WAQ54770)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi 2009

Ar gyfartaledd, y gost a delir i baratoi contract Coetiroedd Gwell i Gymru a chynllun rheoli hyd at 31 Awst 2009 yw £1309.84.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Ar gyfartaledd, faint mae paratoi contract a chynllun rheoli ar gyfer grant 'Coetiroedd Gwell i Gymru’ yn ei gostio i ymgeisydd (WAQ54771)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi 2009

Ni chedwir y wybodaeth yn ganolog gan ei fod yn fater o gontract rhwng yr ymgeisydd a'r cynllunydd rheoli.  

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o amser mae’n cymryd i baratoi contract a chynllun rheoli ar gyfer grant 'Coetiroedd Gwell i Gymru’ (WAQ54772)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi 2009

Mae'r amser a gymerir i baratoi contract a chynllun rheoli ar gyfer Coetiroedd Gwell i Gymru yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor awyddus yw perchennog i sicrhau y caiff y cynllun ei gymeradwyo.

Ar hyn o bryd, mae'r cyfnod o'r cam gwneud cais cychwynnol hyd at sicrhau contract cytûn Coetiroedd Gwell i Gymru a chynllun rheoli yn 127 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): O ran y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol bresennol, (a) pa symiau oedd wedi’u neilltuo, (b) beth oedd y rheswm dros neilltuo ac (c) at ba ddiben y neilltuwyd yr arian (WAQ54767)

Rhoddwyd ateb ar 25 Medi

Nid yw'r Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol wedi'i neilltuo ac mae gan awdurdodau lleol rwydd hynt i benderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei wario i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt. Yn ogystal â'r Grant Cynnal Refeniw, caiff awdurdodau lleol grantiau penodol i hyrwyddo a chynnal mentrau polisi penodol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r grantiau hyn o fewn portffolios unigol Gweinidogion.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig (WAQ54784)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Rwyf yn trefnu ymgyrch ymwybyddiaeth o gam-drin domestig i'w chynnal dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd. Trafodwyd yr opsiynau ar gyfer yr ymgyrch yng Ngweithgor Cam-drin Domestig Cymru Gyfan ar 15 Gorffennaf ac maent wrthi'n cael eu terfynu.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O ran y £4m a gyhoeddwyd fel rhan o ymrwymiad Cymru’n Un i helpu pensiynwyr gyda’r Dreth Gyngor, pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch sut y bydd profion modd ar gyfer y cynllun yn cael eu rhoi ar waith  (WAQ54785)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O’r £4m a gyhoeddwyd fel rhan o ymrwymiad Cymru’n Un i helpu pensiynwyr gyda’r Dreth Gyngor, faint o arian sydd wedi cael ei ddosbarthu ar hyn o bryd i awdurdodau lleol (WAQ54786)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O ran y £4m a gyhoeddwyd fel rhan o ymrwymiad Cymru’n Un i helpu pensiynwyr gyda’r Dreth Gyngor, pa ddyddiadau cau a bennwyd i Awdurdodau Lleol gael y grantiau ac a yw hyn wedi newid yn ddiweddar (WAQ54787)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O ran y £4m a gyhoeddwyd fel rhan o ymrwymiad Cymru’n Un i helpu pensiynwyr gyda’r Dreth Gyngor, pa adnoddau sydd wedi’u darparu i Awdurdodau Lleol i dalu am weinyddu’r arian (WAQ54788)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O ran y £4m a gyhoeddwyd fel rhan o ymrwymiad Cymru’n Un i helpu pensiynwyr gyda’r Dreth Gyngor, sawl Awdurdod Lleol sydd wedi cael yr arian hyd yn hyn (WAQ54789)

Rhoddwyd ateb ar 22 Medi 2009

Ar ôl ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflawni ymrwymiad 'Cymru'n Un' i helpu pensiynwyr gyda'u treth gyngor, rwyf wedi penderfynu y câi'r canlyniadau gorau eu sicrhau drwy ddyrannu grantiau yn uniongyrchol i awudurdodau lleol a chaniatáu iddynt benderfynu sut y maent am ddefnyddio'r arian i helpu pensiynwyr gyda'r dreth gyngor.

Bydd cynghorau lleol yn gallu mabwysiadu polisïau a fydd yn eu barn hwy yn diwallu anghenion y boblogaeth leol orau ac sy'n cyd-fynd â'u strategaeth gymunedol, yn hytrach na gorfod gweithredu un dull cyffredinol. Bydd yn bosibl gweithredu cynlluniau gwahanol i gyd-fynd â'r gwahaniaethau demograffig ac economaidd sy'n bodoli rhwng ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru.

Roedd y fformiwla ar gyfer dosbarthu arian i awdurdodau lleol yn seiliedig ar ystadegau dosbarthu pobl hŷn a ddefnyddiwyd yn yr Asesiad Gwario Safonol ar gyfer dosbarthu'r Grant Cynnal Refeniw. Mae hyn yn sicrhau bod pob awdurdod yn cael grant sy'n gymesur i nifer y pensiynwyr sy'n byw yn ei ardal.

Hysbyswyd Awdurdodau Lleol o'r trefniadau grant ym mis Awst a gofynnwyd iddynt ddweud yn ffurfiol eu bod yn derbyn y cynnig grant erbyn 31 Hydref 2009. Bryd hynny cânt hanner eu dyraniad grant a byddant yn gallu hawlio gweddill y grant, ynghyd â swm ar gyfer costau gweinyddol, ym mis Chwefror 2010. Ar yr un adeg, gofynnir iddynt gyflwyno adroddiad terfynol sy'n dangos sut y dyrannwyd yr arian a faint o bensiynwyr a gafodd gymorth gyda'u treth gyngor.

Neilltuwyd cyfanswm o £2.11 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer 2009-10, sy'n cynnwys £5,000 i bob awdurdod ei roi at gostau gweinyddol.