Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Hydref 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa ymchwil y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi ar hyn o bryd ar gyfer y siwrneiau byr i’r Fenni, i Gwmbrân ac i Gasnewydd? (WAQ52592)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid yw’r wybodaeth am nifer y teithiau ar wasanaethau presennol Caerdydd Caergybi, i’r Fenni, Cwmbrân a Chasnewydd ar gael. Mae nifer o newidiadau i’r amserlen ar y llwybr hwnnw o fis Rhagfyr 2008, gan gynnwys gwasanaeth cyflymach newydd o’r gogledd i’r de a fydd yn cynyddu’r capasiti. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion fonitro’r trefniadau newydd hyn ar ôl y newid i’r amserlen ym mis Rhagfyr.
Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd digon o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i’r gorsafoedd hynny sydd wedi’u cynnwys ar y gwasanaeth cyflym newydd rhwng Caergybi a Chaerdydd? (WAQ52593)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Rwy’n fodlon bod cysylltiadau digonol yn bodoli eisoes ar gyfer gwasanaethau trên yn y gorsafoedd a wasanaethir gan y gwasanaeth cyflym newydd.
Hefyd, anogir y consortia trafnidiaeth rhanbarthol i weithio gyda gweithredwyr bysiau lleol i annog gwasanaethau trên i integreiddio ag amserlenni bysiau.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ52419, pa ganran o fyfyrwyr o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru y gellid eu disgrifio fel 'symudol’ ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52588)
Y
Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae ystadegau ar symudedd cyn-fyfyrwyr Erasmus o SAU yng Nghymru ar gael o 2003/04 i 2006/07.
Nid yw myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen ac felly cawsant eu heithrio
o ddau o’r pedwar mesuriad isod.
Mae’r
tabl isod yn rhoi manylion myfyrwyr Erasmus fel canran o fyfyrwyr o’r UE a’r DU, fel a ganlyn:
1. Myfyrwyr Erasmus fel canran o fyfyrwyr o’r UE a’r DU mewn
Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
2. Myfyrwyr Erasmus fel canran o fyfyrwyr amser llawn o’r UE a’r DU mewn
Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
3. Myfyrwyr Erasmus fel canran o fyfyrwyr o’r UE a’r DU nad ydynt yn fyfyrwyr
blwyddyn gyntaf mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
4. Myfyrwyr Erasmus fel canran o fyfyrwyr amser llawn o’r UE a’r DU nad
ydynt yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
Nifer
y Myfyrwyr Erasmus fel canran o:
1 Myfyrwyr yr UE/DU mewn SAU yng Nghymru (a) |
2 Myfyrwyr amser llawn yr UE/DU mewn SAU yng Nghymru (a)(b) |
3 Myfyrwyr yr UE/DU nad ydynt yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf mewn SAU (a) |
4 Myfyrwyr yr UE/DU amser llawn nad ydynt yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf mewn SAU (a) (b) |
|
% |
% |
% |
% |
|
2003/04 |
0.39 |
0.66 |
0.76 |
1.16 |
2004/05 |
0.40 |
0.70 |
0.77 |
1.19 |
2005/06 |
0.38 |
0.66 |
0.73 |
1.13 |
2006/07 |
0.37 |
0.63 |
0.71 |
1.08 |
Ffynhonnell: Y Cyngor Prydeinig a’r Cofnod Myfyrwyr HESA
(a) Nid yw’n cynnwys myfyrwyr sy’n 'ysgrifennu’, ar gyfnod sabothol neu segur
(b) Mae myfyrwyr llawn amser yn cynnwys y rhai ar gyrsiau rhyngosod
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o Ddirprwy Benaethiaid neu Benaethiaid Cynorthwyol sydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52591)
Jane
Hutt:
Ni chesglir gwybodaeth am nifer y Penaethiaid cynorthwyol yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol. Dangosir nifer y dirprwy Benaethiaid (cyfwerth ag amser llawn) mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn yn y tabl canlynol:
Ysgolion cynradd |
Ysgolion uwchradd |
||
1999 |
1,265.0 |
407.1 |
|
2000 |
1,243.4 |
387.5 |
|
2001 |
1,208.6 |
376.8 |
|
2002 |
1,190.2 |
392.5 |
|
2003 |
1,171.0 |
401.3 |
|
2004 |
1,152.9 |
388.0 |
|
2005 |
1,115.3 |
390.0 |
|
2006 |
1,105.0 |
378.5 |
|
2007 |
1,105.5 |
362.2 |
|
2008 |
1,111.3 |
359.0 |
Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Iaith Gymraeg? (WAQ52590)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Rydym yn cael trafodaethau adeiladol gyda Swyddfa Cymru, sef yr adran arweiniol yn Whitehall, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol maes o law.