Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2013 i’w hateb ar 16 Hydref 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gamau gweithredu y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol i gynorthwyo i gyflwyno cynllun Cyflymu Cymru? (WAQ65637)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dderbyn a rhyddhau cleifion gydag ambiwlansys yn Ysbyty'r Tywysog Philip? (WAQ65634)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o'r broses arfarnu ar gyfer meddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn? (WAQ65635)
Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog nodi pa wybodaeth sydd wedi'i chasglu am bractisau meddygon teulu yn y Rhondda o ffurflenni'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau? (WAQ65636)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu enwau aelodau a chylch gwaith y grwp arbenigol i ystyried llawdriniaeth gosmetig a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2013 ac yr oedd disgwyl iddo gyflwyno adroddiad ym mis Gorffennaf? (WAQ65639)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i annog awdurdodau lleol i ddynodi mwy o ardaloedd fel ‘Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad’ŵ (WAQ65638)