16/11/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Tachwedd 2012
i’w hateb ar 16 Tachwedd 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa fesurau sydd ar waith er mwyn cynllunio’r gweithlu’n effeithiol ac yn gynaliadwy fel y gellir cael y nifer ddymunol o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru. (WAQ61563)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi eu cymryd i sicrhau bod y gweithlu meddygon teulu yn cael ei gynllunio’n effeithiol yng Nghymru. (WAQ61564)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod yr holl dai cymdeithasol yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru cyn gynted â phosibl. (WAQ61560)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog yn adolygu’r terfyn amser pan fydd yn rhaid i’r holl dai cymdeithasol fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. (WAQ61559)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa un o’r pedwar dewis seilwaith priffyrdd yn yr Ymgynghoriad ar Wella Coridor yr M4 (rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2012) yr oedd y cyhoedd yn ei ffafrio. (WAQ61561)

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pam na wnaethpwyd Asesiad Amgylcheddol Strategol cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Wella Coridor yr M4 (rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2012). (WAQ61562)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi datganiad am ymarferoldeb adeiladu gorsaf drenau newydd yng nghanol tref Glynebwy fel yr amlinellir yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. (WAQ61565)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i hybu ac i ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. (WAQ61566)