16/12/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Rhagfyr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Rhagfyr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pryd mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi Datganiad Sefyllfa Strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ddwr? (WAQ52881)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Rwy’n bwriadu cyhoeddi Datganiad Sefyllfa Polisi Strategol drafft ar Ddwr yng Nghymru at ddiben ymgynghori arno ym mis Ionawr 2009.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu ysbyty newydd yn Aberteifi o ganlyniad i’r datblygiadau diweddar? (WAQ52888)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Rwyf wedi nodi bod argaeledd y llain o dir a allai ddarparu mynediad i safle’r Baddondy yn Aberteifi wedi newid yn ddiweddar. Rwy’n aros am eglurhad o’r effaith y gallai hyn ei chael ar y penderfyniad cynllunio blaenorol ar gyfer defnyddio’r safle i ddatblygu ysbyty newydd yn Aberteifi yn y dyfodol. Yn y cyfamser mae Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion yn parhau i weithio ar ddatblygu model gofal ac achos busnes priodol ar gyfer y cyfleusterau newydd hyn y mae angen dirfawr amdanynt yn cynnwys edrych ar opsiynau addas ar gyfer safle.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth oedd cyfanswm yr incwm o ffermio yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf i) mewn punnoedd sterling a ii) fel canran o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC)? (WAQ52876)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Cyfanswm yr Incwm o Ffermio (TIFF) oedd £142.2 miliwn yn 2005, £51.8 miliwn yn 2006 a £46.4 miliwn yn 2007 (dros dro). Cyfanswm yr Incwm o Ffermio fel cyfran o gyfanswm Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) Cymru oedd 0.3% yn 2005 a 0.1% yn 2006. Caiff data ar Werth Ychwanegol Crynswth Cymru yn 2007 ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Gwener 12fed Rhagfyr 2008.