17/07/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ddewisiadau sydd yn awr yn cael eu hystyried fel llwybrau amgen ar gyfer gwella’r A458 rhwng Buttington Cross a Woollaston Cross o ganlyniad i fethiant yr Asiantaeth Priffyrdd i ariannu rhan o’r llwybrau a ffafriwyd yn flaenorol? (WAQ52243)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Fel nodais yn fy ymateb i’ch cwestiwn ar yr un pwnc ar 28 Mai 2008, mae nifer o faterion i’w datrys o hyd o ran cyllid ar gyfer cynllun yr A458 Buttington Cross i Wollaston Cross. Bwriadaf drafod hyn gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth pan fyddaf yn cyfarfod â hi nesaf.

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cael yr astudiaeth modelu amserlennu newydd gan Network Rail, ac a wnaiff ei darparu ar gyfer Aelodau? (WAQ52244)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Deallaf eich bod yn cyfeirio at yr astudiaeth o reilffordd Glynebwy-Casnewydd. Mae fy swyddogion yn disgwyl cael yr astudiaeth hon erbyn diwedd y mis. Unwaith y caf gyfle i ystyried canlyniad yr astudiaeth, byddaf yn trefnu bod copi’n cael ei roi yn llyfrgell y Cynulliad.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn sir Benfro bob blwyddyn ar gyfer y pum mlynedd diwethaf gan ddadansoddi’r wybodaeth yn ôl plant rhwng chwech a 10 oed, rhwng 10 a 14 oed a rhwng 14 a 18 oed? (WAQ52203)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Dim ond ers 2003 y casglwyd data ar waharddiadau o ysgolion fesul grŵp blwyddyn. Mae’r wybodaeth o 2003 i’r flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael, 2006, yn y tabl isod.

Gwaharddiadau yn ôl math, sir Benfro, 2003-2006(a)

Nifer y gwaharddiadau

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008
 

Gwaharddiadau parhaol

Gwaharddiadau cyfnod penodol

           
 

Blynyddoedd 1-5

Blynyddoedd 6-9

Blynyddoedd 10-13

Cyfanswm

Blynyddoedd 1-5

Blynyddoedd 6-9

Blynyddoedd 10-13

Cyfanswm

2003

0

1

0

1

62

412

202

676

2004

0

0

1

1

96

290

153

539

2005

0

0

0

0

122

624

308

1,054

2006

0

1

0

1

37

492

256

785

Ffynhonnell: Ffurflen Monitro Gwaharddiadau

(a) Dangosir data ar gyfer disgyblion yn ôl blwyddyn ysgol academaidd; nid oes data yn ôl oedran ar gael. Casglwyd data am waharddiadau yn ôl blwyddyn ysgol am y tro cyntaf yn 2002-03.

Mae’r data yn dangos nifer yr achosion o wahardd ac nid nifer y disgyblion. Bydd disgybl a gaiff ei wahardd fwy nag unwaith yn cael ei gyfrif fwy nag unwaith.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn sir Gaerfyrddin bob blwyddyn ar gyfer y pum mlynedd diwethaf gan ddadansoddi’r wybodaeth yn ôl plant rhwng chwech a 10 oed, rhwng 10 a 14 oed a rhwng 14 a 18 oed? (WAQ52204)

Jane Hutt: Dim ond ers 2003 y casglwyd data ar waharddiadau o ysgolion fesul grŵp blwyddyn. Mae’r wybodaeth o 2003 i’r flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael, 2006, yn y tabl isod.

Gwaharddiadau yn ôl math, sir Gaerfyrddin, 2003-2006(a)

Nifer y gwaharddiadau

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008
 

Gwaharddiadau parhaol

Gwaharddiadau cyfnod penodol

           
 

Blynyddoedd 1-5

Blynyddoedd 6-9

Blynyddoedd 10-13

Cyfanswm

Blynyddoedd 1-5

Blynyddoedd 6-9

Blynyddoedd 10-13

Cyfanswm

2003

6

14

7

27

25

180

118

323

2004

0

8

1

9

2

166

167

335

2005

0

15

11

26

11

168

141

320

2006

0

17

5

22

9

152

138

299

Ffynhonnell: Ffurflen Monitro Gwaharddiadau

(a) Dangosir data ar gyfer disgyblion yn ôl blwyddyn ysgol academaidd; nid oes data yn ôl oedran ar gael. Casglwyd data am waharddiadau yn ôl blwyddyn ysgol am y tro cyntaf yn 2002-03.

Mae’r data yn dangos nifer yr achosion o wahardd ac nid nifer y disgyblion. Bydd disgybl a gaiff ei wahardd fwy nag unwaith yn cael ei gyfrif fwy nag unwaith.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y gwaharddiadau o ysgolion ar draws Cymru gyfan bob blwyddyn ar gyfer y pum mlynedd diwethaf gan ddadansoddi’r wybodaeth yn ôl plant rhwng chwech a 10 oed, rhwng 10 a 14 oed a rhwng 14 a 18 oed? (WAQ52205)

Jane Hutt: Dim ond ers 2003 y casglwyd data ar waharddiadau o ysgolion fesul grŵp blwyddyn. Mae’r wybodaeth o 2003 i’r flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael, 2006, yn y tabl isod.

Gwaharddiadau yn ôl math, Cymru, 2003-2006 (a)

Nifer y gwaharddiadau

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008
 

Gwaharddiadau parhaol

Gwaharddiadau cyfnod penodol

           
 

Blynyddoedd1-5

Blynyddoedd

6-9

Blynyddoedd

10-13

Cyfanswm

Blynyddoedd

1-5

Blynyddoedd

6-9

Blynyddoedd

10-13

Cyfan-swm

2003

41

225

173

439

1027

8274

5356

14657

2004

32

212

176

420

1098

8937

6452

16487

2005

32

255

177

464

1393

10919

7897

20209

2006

25

205

207

437

1142

10728

8229

20099

Ffynhonnell: Ffurflen Monitro Gwaharddiadau

(a) Dangosir data ar gyfer disgyblion yn ôl blwyddyn ysgol academaidd; nid oes data yn ôl oedran ar gael. Casglwyd data am waharddiadau yn ôl blwyddyn ysgol am y tro cyntaf yn 2002-03.

Mae’r data yn dangos nifer yr achosion o wahardd ac nid nifer y disgyblion. Bydd disgybl a gaiff ei wahardd fwy nag unwaith yn cael ei gyfrif fwy nag unwaith.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ar atgyweirio eiddo ysgol oherwydd llosgi bwriadol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ52206)

Jane Hutt: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ar atgyweirio eiddo ysgol oherwydd fandaliaeth ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ52207)

Jane Hutt: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ52110, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer nifer y plant sy’n cael brecwast am ddim mewn ysgolion a chanran y plant ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ers dechrau’r cynllun? (WAQ52208)

Jane Hutt: Fel y nodwyd yn fy ymateb i gwestiwn WAQ52110, mae’r wybodaeth hon wedi’i chyhoeddi ar y wefan frecwast yn:

http://new.wales.gov.uk/topics/educationandskills/policy_strategy_and_planning/schools/breakfast_initiative/?lang=cy

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o leoedd ysgol gwag sydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu’r gwahaniaeth rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd? (WAQ52209)

Jane Hutt: Lluniwyd y tabl canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar sail gwybodaeth a gyflwynwyd gan bob awdurdod lleol. Mae’n dangos cyfanswm y lleoedd heb eu llenwi mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, a chyfanswm net y lleoedd heb eu llenwi (gweddill yn gyffredinol (1)). Mae gan bob awdurdod rai ysgolion sy’n orlawn. Nid yw pob lle heb ei lenwi yn lle gwag, gan fod angen cadw rhai lleoedd dros ben ar gyfer amrywiadau yn y boblogaeth, ac ni ellir gwaredu pob lle gwag yn effeithiol.

(1) Cyfrifir y lleoedd sy’n weddill drwy dynnu nifer y disgyblion sy’n ormod mewn ysgolion gorlawn o gyfanswm nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion.

Pob ysgol

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008

 

Cynradd

 

Uwchradd

 

Awdurdod addysg lleol

Nifer y lleoedd heb eu llenwi

Nifer net y lleoedd heb eu llenwi

(gweddill)

Nifer y lleoedd heb eu llenwi

Nifer net y lleoedd heb eu llenwi (gweddill)

Ynys Môn

1,489

1,357

1,149

1,076

Blaenau Gwent

1,414

1,320

1,026

1,026

Pen-y-bont ar Ogwr

777

426

1,822

1,801

Caerffili

2,324

2,169

2,073

1,936

Caerdydd

4,850

4,576

4,420

4,248

Sir Gaerfyrddin

5,608

5,411

1,966

1,872

Ceredigion

1,777

1,725

1,267

1,191

Conwy

2,069

1,846

1,751

1,751

Sir Ddinbych

1,521

1,339

506

336

Sir y Fflint

2,328

2,214

1,313

1,313

Gwynedd

2,693

2,447

1,204

780

Merthyr Tudful

712

635

1,104

1,101

Sir Fynwy

1,211

1,172

344

159

Castell-nedd Port Talbot

2,190

1,964

1,726

1,690

Casnewydd

1,700

1,484

329

-164

Sir Benfro

1,052

934

757

729

Powys

2,900

2,891

1,811

1,452

Rhondda Cynon Taf

4,929

4,668

5,334

5,203

Abertawe

3,467

3,240

2,697

2,697

Torfaen

1,472

1,373

730

583

Bro Morgannwg

1,386

1,201

711

466

Wrecsam

2,896

2,788

2,006

1,888

Cymru

50,765

47,180

36,046

33,134

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i’r effaith y gallai’r gyfradd geni yng Nghymru ei chael ar leoedd ysgol gwag? (WAQ52210)

Jane Hutt: O bwynt isel diweddar yn 2002 pan fu 30,205 o enedigaethau byw i drigolion yng Nghymru, bu cynnydd blynyddol bach ond cyson. Y mis hwn, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y cafwyd 34,414 o enedigaethau byw i drigolion yng Nghymru yn 2007.

Mae angen gosod hyn yn erbyn y gostyngiad a fu hyd at 2002. Bu bron i 39,000 o enedigaethau ym 1990, a bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion hynny yn gadael y system addysg erbyn hyn. Yn dilyn hyn bu gostyngiad cyson am fwy na degawd, gan arwain at ostyngiad yn y niferoedd llawn amser ar y gofrestr mewn ysgolion cynradd. Rhwng Ionawr 2001 ac Ionawr 2007 bu gostyngiad o ymhell dros 20,000 yn nifer y disgyblion llawn amser mewn ysgolion cynradd. Mae dros 50,000 o leoedd gwag mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, a thros 47,000 o leoedd gwag net (mae gan bob awdurdod hefyd rai ysgolion sy’n orlawn). Er y bydd y cynnydd diweddar mewn genedigaethau yn effeithio ar hynny yn ei dro, ni fydd yn gwaredu’r nifer sy'n weddill (1).

Nid yw’r cynnydd yn nifer y genedigaethau yn wastad ledled Cymru, ac mae angen i awdurdodau archwilio tueddiadau yn eu hardal. Mae dal i fod angen i awdurdodau sydd â nifer sylweddol o leoedd gwag mewn nifer fawr o ysgolion fynd i’r afael â’r sefyllfa a threfnu eu hysgolion yn fwy effeithlon. Mewn ardaloedd lle mae nifer y lleoedd sy’n weddill yn isel, mae angen i awdurdodau fonitro’r sefyllfa a sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol.

(1) Cyfrifir y lleoedd sy’n weddill drwy dynnu nifer y disgyblion sy’n ormod mewn ysgolion gorlawn o gyfanswm nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu ar gyfer Brecwast Am Ddim Mewn Ysgolion ar gyfer pob blwyddyn ers dechrau’r cynllun? (WAQ52211)

Jane Hutt:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008

2004-05

£1.5 m

2005-06

£3.5 m

2006-07

£5.5 m

2007-08

£10 m

2008-09

£6.5 m

Mae’n bwysig nodi bod y ffigurau hyn yn adlewyrchu’r ddarpariaeth ac nid y gwariant. Adolygwyd ac addaswyd y ddarpariaeth ar gyfer 2008-09 yn ystod 2007-08 gan ystyried y gost amcangyfrifedig bryd hynny o weithredu’r fenter ar gyfer y flwyddyn ariannol honno a’r gweithgarwch a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol a oedd i ddod, hynny yw 2008-09. Byddwn yn parhau i ailedrych ar ein rhagolwg ar gyfer 2008-09 a’i adolygu, ac yn sgîl y wybodaeth hon byddwn yn ystyried unrhyw addasiadau yn ystod y flwyddyn y gallai fod angen eu gwneud i ddarpariaeth y flwyddyn bresennol a’r dyfodol.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r dyddiad pan ymatebodd pob awdurdod lleol yng Nghymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyfnod sylfaen? (WAQ52212)

Jane Hutt: Cwblhawyd yr ymgynghoriad ffurfiol diweddaraf ar y cyfnod sylfaen—pan geisiwyd sylwadau ar y fframwaith ar gyfer dysgu plant—ar 30 Mawrth 2007. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae fy swyddogion wedi gofyn i awdurdodau lleol am wybodaeth mewn ymateb i amodau grant y cyfnod sylfaen. Cyflwynwyd y rhain i awdurdodau lleol ar 22 Mai 2008 ac mae fy swyddogion wedi cael ffurflenni derbyn grant wedi’u llofnodi gan bob awdurdod lleol. Atodir rhestr lawn sy’n nodi pa bryd y llofnodwyd y ffurflenni hyn.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008

Awdurdod lleol

Dyddiad y llofnodwyd ffurflen derbyn grant y cyfnod sylfaen

Ynys Môn

2 Mehefin 2008

Blaenau Gwent

23 Mai 2008

Pen-y-bont ar Ogwr

2 Mehefin 2008

Caerffili

2 Mehefin 2008

Caerdydd

24 Mehefin 2008

Sir Gaerfyrddin

28 Mai 2008

Ceredigion

19 Mehefin 2008

Conwy

23 Mai 2008

Sir Ddinbych

27 Mai 2008

Sir y Fflint

3 Mehefin 2008

Gwynedd

19 Mehefin 2008

Merthyr Tudful

29 Mai 2008

Sir Fynwy

23 Mai 2008

Castell-nedd Port Talbot

19 Mehefin 2008

Casnewydd

30 Mai 2008

Sir Benfro

2 Mai 2008

Powys

27 Mai 2008

Rhondda Cynon Taf

29 Mai 2008

Abertawe

23 Mehefin 2008

Torfaen

2 Mehefin 2008

Bro Morgannwg

29 Mai 2008

Wrecsam

16 Mehefin 2008

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu gwersi coginio yn ysgolion uwchradd Cymru? (WAQ52213)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o ysgolion uwchradd sydd â chyfleusterau cegin i addysgu gwersi coginio ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru? (WAQ52217)

Jane Hutt: Fel rhan o’r Gorchymyn dylunio a thechnoleg diwygiedig yn y cwricwlwm ysgol newydd sydd i’w weithredu o fis Medi 2008, bydd bwyd yn ddeunydd gorfodol yn y rhaglenni astudio ar gyfer cyfnod allweddol 2 (7-11 oed) a chyfnod allweddol 3 (11-14 oed). Caiff disgyblion gyfleoedd i ymarfer amrywiaeth eang o dasgau paratoi a choginio bwyd ymarferol, yn ddiogel ac yn hylan, ac ystyried negeseuon presennol am fwyta’n iach ac anghenion o ran maeth. Anfonwyd y wybodaeth hon at ysgolion yng Nghymru ym mis Ionawr.

Mae canllawiau yn cael eu paratoi ar 'Bwyd a Ffitrwydd’, i’w cyhoeddi yn yr hydref, i helpu ysgolion yng Nghymru i gynllunio a darparu’r agwedd hon yn fwy effeithiol.

Nid yw’r wybodaeth a geisir ynghylch nifer yr ysgolion sydd â chyfleusterau cegin yn cael ei chadw na’i chasglu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyfrannu unrhyw gyllid at adeiladu campws newydd ar gyfer Prifysgol Cymru Casnewydd? (WAQ52214)

Jane Hutt: Yr wyf yn ymwybodol o fwriad Prifysgol Cymru Casnewydd i adeiladu campws newydd yng nghanol y ddinas ar lannau afon Wysg, ac yr ystyriwyd hyn yn elfen hanfodol yn y broses o adfywio’r ddinas.

Deallaf yr amcangyfrifir bod cyllideb gyffredinol y prosiect tua £35 miliwn, gyda’r cyfraniadau hysbys fel a ganlyn:

• £5 miliwn gan Gyngor Dinas Casnewydd;

• £5 miliwn gan Newport Unlimited; a

• £10 miliwn (disgwyliedig) o werthu campws presennol y Brifysgol yn Allt-yr-yn.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi grant o £5 miliwn i’r prosiect hwn, drwy Newport Unlimited, a gaiff ei dalu ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau, a disgwylir i hynny fod yn 2010.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sut y mae sefydliadau addysg uwch Cymru’n annog entrepreneuriaeth? (WAQ52215)

Jane Hutt: Mae pwysigrwydd creu a datblygu cysylltiadau rhwng entrepreneuriaeth ac addysg wedi’i nodi’n glir yn ein hagenda Cymru’n Un. Mae rhwydwaith o hyrwyddwyr entrepreneuriaeth mewn sefydliadau addysg uwch ledled Cymru yn hwyluso’r broses o ddatblygu strategaethau sefydliadol ar gyfer entrepreneuriaeth ac yn cynorthwyo newid diwylliant o fewn prifysgolion. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y graddedigion sy’n dechrau busnes yng Nghymru. Noda’r arolwg Rhyngweithio Addysg Uwch—Busnes a’r Gymuned diweddaraf (ar gyfer y flwyddyn academaidd 2006-07) bod addysg uwch yng Nghymru ond yn cyfrif am ryw 5 y cant o gyfanswm y DU, ond iddo gynhyrchu 10.7 y cant o’r holl raddedigion sy’n dechrau busnes yn y DU. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i annog prifysgolion i hyrwyddo entrepreneuriaeth o fewn eu sefydliadau.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch a busnesau yng Nghymru? (WAQ52216)

Jane Hutt: Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn parhau i gryfhau eu cydberthnasau â busnesau yng Nghymru. Mae SAUau yng Nghymru eisoes wedi sefydlu cysylltiadau gyda phob un o’r 25 cyngor sgiliau sector a arweinir gan gyflogwyr er mwyn mynd i’r afael ag anghenion sgiliau lefel uwch cyflogwyr yng Nghymru. Hefyd, mae prosiect newydd gwerth £50 miliwn a ariennir gan yr UE, Academia 4 Business, yn ymgorffori amrywiaeth o raglenni a’u nod yw gwneud y mwyaf o effaith economaidd academia drwy gryfhau swyddfeydd masnachol a chydweithio â busnes. Drwy’r rhaglen Cyfleoedd i Raddedigion Cymru, a weithredir gan SAUau yng Nghymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae miloedd o fyfyrwyr mewn addysg uwch yng Nghymru wedi cael profiad gwaith gyda busnesau bach a chanolig.

Mae addysg uwch yng Nghymru yn cyfrif am 5 y cant o gyfanswm y DU ond yn ôl arolwg Rhyngweithio Addysg Uwch—Busnes a’r Gymuned diweddaraf, yr oedd yn cyfrif am 7.3 y cant o incwm y DU o gontractau ymgynghori gyda busnesau bach a chanolig a 6.3 y cant o holl gontractau’r DU. Ers 2007/8 mae arian y trydedd genhadaeth a sicrhawyd drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cynyddu i £6.1 miliwn a fydd yn cefnogi SAUau ymhellach wrth iddynt gydweithio’n agos â busnesau ledled Cymru.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o benaethiaid ysgolion uwchradd Cymru a fydd yn cyrraedd oed ymddeol cyn pen y deng mlynedd nesaf ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru? (WAQ52220)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o benaethiaid ysgolion cynradd Cymru a fydd yn cyrraedd oed ymddeol cyn pen y deng mlynedd nesaf ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru? (WAQ52221)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broffil oed penaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru? (WAQ52222)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broffil oed penaethiaid ysgolion uwchradd yng Nghymru? (WAQ52223)

Jane Hutt: Ni chaiff y wybodaeth a geisiwch ei chadw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o’r arian sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gweithredu’r cyfnod sylfaen fydd yn cael ei wario ar hyfforddiant staff, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob awdurdod addysg lleol yng Nghymru? (WAQ52224)

Jane Hutt: Mae fy swyddogion bellach wedi derbyn cynlluniau gwariant/cyflawni’r cyfnod sylfaen gan bob awdurdod lleol sy’n nodi sut maent yn bwriadu defnyddio eu cyfran o’r grant £25 miliwn sydd ar gael yn 2008-09. Yr awdurdodau lleol sydd i benderfynu ar lefel yr arian a neilltuir ar gyfer hyfforddiant gan ystyried angen lleol a’r hyfforddiant a ddarperir eisoes i ymarferwyr yn eu hysgolion a’u lleoliadau. Mae’r tabl isod yn nodi cyfran pob awdurdod lleol o’r £25 miliwn a lefel yr arian a neilltuir ar gyfer hyfforddiant.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008

Awdurdod lleol

Cyfanswm a neilltuir* £

Hyfforddiant £

Ynys Môn

597,500

40,000

Blaenau Gwent

587,500

80,000

Pen-y-bont ar Ogwr

1,162,500

65,000

Caerffili

1,572,500

127,900

Caerdydd

2,455,000

553,000

Sir Gaerfyrddin

1,557,500

227,413

Ceredigion

565,000

76,000

Conwy

860,000

74,300

Sir Ddinbych

792,500

77,880

Sir y Fflint

1,270,000

151,000

Gwynedd

1,037,500

163,650

Merthyr Tudful

497,500

40,000

Sir Fynwy

700,000

60,000

Castell-nedd Port Talbot

1,147,500

85,305

Casnewydd

1,230,000

111,000

Sir Benfro

1,045,000

150,000

Powys

1,140,000

203,000

Rhondda Cynon Taf

2,040,000

150,000

Abertawe

1,855,000

360,000

Torfaen

762,500

80,000

Bro Morgannwg

1,065,000

71,140

Wrecsam

1,060,000

79,200

Cymru

25,000,000

3,025,788

* Heb gynnwys £5 miliwn ar gyfer ysgolion peilot a dechrau’n gynnar

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o bobl a gyflogir yng Ngholegau’r Rhyl a Llandrillo? (WAQ52231)

Jane Hutt: Cyflogwyd 970 o aelodau o staff yn uniongyrchol gan Goleg Llandrillo yn 2005/06 (ffynhonnell: cofnod staff unigol (CSU)). Ail-lansiwyd Coleg y Rhyl fel rhan o Goleg Llandrillo ym mis Tachwedd 2007. Ni ellir defnyddio’r CSU i nodi niferoedd y staff sy’n gweithio yn y lleoliadau penodol sy’n rhan o Goleg Llandrillo.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sawl digwyddiad o fandaliaeth ar eiddo ysgol a fu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ52232)

Jane Hutt: Ni chaiff y wybodaeth hon ei chasglu’n ganolog a bydd yn fater i bob awdurdod lleol unigol.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o safonau addysgu ar sail arolygiadau Estyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52238)

Jane Hutt: Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y wybodaeth hon am bob blwyddyn er 1999.

Mae Adroddiadau Blynyddol Estyn ar gyfer 2006-07 a 2005-06 yn cyflwyno graddau’r ysgolion unigol a arolygwyd yn y cyfnodau hyn. Rhoddir dadansoddiad o’r graddau hyn yn y tabl atodedig.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o safonau addysgu ar sail arolygiadau Estyn mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52239)

Jane Hutt: Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y wybodaeth hon am bob blwyddyn er 1999.

Mae adroddiadau blynyddol Estyn ar gyfer 2006-07 a 2005-06 yn cyflwyno graddau’r ysgolion unigol a arolygwyd yn y cyfnodau hyn. Rhoddir dadansoddiad o’r graddau hyn yn y tabl atodedig.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o lefelau triwantiaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52240)

Jane Hutt: Nodir y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y tabl isod.

Absenoldeb heb ganiatâd gan ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol, 1999-2007 (a)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008
 

Canran y sesiynau a gollwyd yn sgîl absenoldeb heb ganiatâd

               
 

1999

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

Ysgolion cyfrwng Saesneg

1.6

1.7

1.8

1.9

1.2

1.3

1.4

1.4

1.5

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

0.7

0.7

0.8

0.8

0.5

0.6

0.6

0.7

0.7

(a) Ysgolion uwchradd yn unig cyn 2003

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o lefelau triwantiaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ52242)

Jane Hutt: Yn 2003 y casglwyd data ar absenoldeb mewn ysgolion cynradd am y tro cyntaf. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn y ddau dabl isod.

Tabl 1 Absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion cynradd a gynhelir, 2003-2007 (a)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008
 

Canran y sesiynau a gollwyd yn sgîl absenoldeb heb ganiatâd

       
 

2003

2004

2005

2006

2007

Ynys Môn

0.5

0.6

0.5

0.6

0.6

Gwynedd

0.3

0.4

0.3

0.5

0.4

Conwy

0.5

0.5

0.5

0.6

0.7

Sir Ddinbych

0.7

0.6

0.7

0.7

0.8

Sir y Fflint

0.5

0.4

0.4

0.5

0.4

Wrecsam

0.6

0.6

0.6

0.8

0.9

Powys

0.3

0.3

0.3

0.2

0.2

Ceredigion

0.0

0.1

0.2

0.2

0.3

Sir Benfro

0.1

0.3

0.2

0.3

0.3

Sir Gaerfyrddin

0.3

0.4

0.4

0.5

0.5

Abertawe

0.6

0.7

0.8

1.0

0.8

Castell-nedd Port Talbot

0.4

0.3

0.4

0.4

0.3

Pen-y-bont ar Ogwr

0.6

0.7

0.9

1.0

0.8

Bro Morgannwg

1.0

1.0

1.2

1.5

1.6

Rhondda Cynon Taf

1.0

1.1

1.6

1.6

1.7

Merthyr Tudful

0.7

0.5

0.7

0.9

1.0

Caerffili

0.7

1.1

1.3

1.5

1.5

Blaenau Gwent

0.5

0.8

0.7

0.6

0.5

Torfaen

0.8

0.7

0.7

1.0

1.2

Sir Fynwy

..

0.4

0.3

0.3

0.3

Casnewydd

1.0

1.0

1.2

1.1

1.3

Caerdydd

1.3

1.4

1.6

2.0

1.9

Cymru (b)

0.6

0.7

0.8

1.0

0.9

(a) Disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn unig

(b) Yn cynnwys ysgolion annibynnol ac arbennig

'..’ = Nid yw’r data ar gael

Tabl 2 Absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion uwchradd a gynhelir, 2003-2007 (a)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Gorffennaf 2008
 

Canran y sesiynau a gollwyd yn sgîl absenoldeb heb ganiatâd

               
 

1999

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

Ynys Môn

1.3

1.6

1.4

1.4

1.4

1.8

1.9

1.6

1.3

Gwynedd

1.0

1.0

1.0

0.8

0.8

0.9

0.8

1.2

1.1

Conwy

0.9

0.7

1.1

1.2

1.0

1.3

2.3

2.0

2.2

Sir Ddinbych

1.2

1.2

1.3

1.6

1.6

1.9

2.1

1.6

2.2

Sir y Fflint

0.8

0.8

0.7

0.7

0.7

0.7

0.6

0.4

0.7

Wrecsam

0.9

1.0

1.1

1.1

0.9

1.7

1.6

1.4

1.9

Powys

1.0

0.8

0.7

0.8

0.7

1.0

0.9

0.8

1.0

Ceredigion

0.7

0.7

0.7

0.9

0.8

0.8

1.3

1.7

1.2

Sir Benfro

0.9

1.1

2.5

2.1

1.3

1.7

1.8

1.7

1.3

Sir Gaerfyrddin

0.5

0.7

0.8

0.8

0.9

0.8

0.8

0.8

0.7

Abertawe

2.3

1.9

2.5

2.7

3.1

2.4

2.2

2.4

2.3

Castell-nedd Port Talbot

1.2

1.1

1.0

0.9

0.6

0.7

0.7

0.7

0.8

Pen-y-bont ar Ogwr

1.3

1.5

1.6

1.6

1.5

1.5

1.4

1.9

1.9

Bro Morgannwg

1.0

1.2

1.4

1.3

1.0

1.1

1.2

1.3

1.0

Rhondda Cynon Taf

1.9

1.9

2.0

2.3

2.2

2.4

2.7

2.5

2.5

Merthyr Tudful

0.8

0.4

0.3

0.7

0.7

0.5

0.7

0.7

1.5

Caerffili

1.7

1.8

2.0

1.7

1.9

2.1

2.2

2.3

2.4

Blaenau Gwent

2.5

2.7

1.9

1.9

1.0

2.3

1.5

1.8

1.8

Torfaen

1.1

1.1

1.2

1.5

1.4

2.1

1.8

1.8

2.5

Sir Fynwy

0.8

0.5

0.4

1.3

0.8

0.8

0.7

0.6

0.9

Casnewydd

2.3

1.8

1.5

2.5

2.0

2.2

2.1

1.9

2.3

Caerdydd

3.0

3.6

3.8

3.7

3.4

3.3

3.3

3.4

3.7

Cymru (b)

1.5

1.5

1.6

1.7

1.6

1.7

1.7

1.7

1.8

(a) Disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn unig

(b) Yn cynnwys ysgolion annibynnol