Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 17 Medi 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Lynne Neagle (Torfaen): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i hybu datblygiad gwasanaeth Bwcabus yng Nghymoedd y De. (WAQ56486)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog nodi sawl aelod staff a gyflogir i weinyddu'r canolfannau Technium, gan gynnwys ffigurau ar gyfer y rheini yng Nghaerdydd, yn swyddfeydd rhanbarthol y Cynulliad ac yn y canolfannau Technium eu hunain. (WAQ56487)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bractisau meddygon teulu fydd yn cynnig y gwasanaeth Fy Iechyd ar-lein erbyn diwedd 2010 a faint y disgwylir fydd yn ei gyflwyno erbyn diwedd 2011 ac a wnaiff y Gweinidog fynegi’r ffigurau hyn fel canran o’r cyfanswm o bractisau meddygon teulu yng Nghymru. (WAQ56440)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng nghyswllt cael mynediad at Feddygon Teulu, a yw’r Gweinidog wedi edrych ar y cynllun gwirfoddol sydd ar waith yn Seland Newydd sy’n gwobrwyo graddedigion meddygol sy’n adleoli i ardaloedd gwledig sy’n anodd eu staffio. (WAQ56478)
Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch sawl cais a gafwyd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru i gyllido’r cyffur Lapatinib, ynghyd â sawl cais am gyllid sydd wedi’i gymeradwyo. (WAQ56479)
Lynne Neagle (Torfaen): Sut mae’r Gweinidog yn mynd ati i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn prosesu ceisiadau am gyllid ar gyfer cyffuriau dan drefniadau cyllido arbennig mewn modd cyflym a thryloyw. (WAQ56480)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl cardiolegydd ymgynghorol sy’n gwasanaethu Ysbyty Bronglais ar hyn o bryd o fewn adran gardioleg yr ysbyty ei hun a pha bryd y cafodd y cardiolegyddion hyn eu penodi. (WAQ56481)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl gwely sydd yn (a) Uned Cardioleg Bronglais, (b) Uned Cardioleg Ysbyty Tywysog Phillip, (c) Uned Cardioleg Ysbyty Gorllewin Cymru a (d) Uned Cardioleg Llwynhelyg. (WAQ56482)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl cardiolegydd sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn (a) Ysbyty Tywysog Phillip, (b) Ysbyty Gorllewin Cymru, (c) Ysbyty Llwynhelyg a pha bryd y cawsant eu penodi. (WAQ56483
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa bryd y caiff ail gardiolegydd ei benodi i wasanaethu yn Ysbyty Bronglais a pha sicrwydd a roddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai mwy nag un cardiolegydd yn cael ei benodi yn 2005-06. (WAQ56484)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau Adroddiad McKinsey i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. (WAQ56485)