17/12/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Rhagfyr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Rhagfyr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r trefniadau ar gyfer rhannu ceir gweinidogol pan fydd Gweinidogion yn mynd i’r un digwyddiad? (WAQ52898)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau sy’n bodoli er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn rhannu ceir gweinidogol pan fo hynny’n bosibl ac yn briodol? (WAQ52899)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae’r holl Weinidogion yn rhannu Ceir Swyddogol lle y bo hynny’n ymarferol.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu busnesau bach yn yr argyfwng economaidd presennol? (WAQ52896)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Fe’ch cyfeiriaf at y datganiad llafar a wnaed gennyf ddydd Mawrth 9 Rhagfyr a’r ddogfen ategol a anfonwyd at holl Aelodau’r Cynulliad.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau, anafiadau difrifol a mân anafiadau ar yr A470 ym mhob blwyddyn er 2000, gan roi manylion ynghylch ble y digwyddodd y rhain? (WAQ52900)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rhwng 2000 a 2007 cafwyd 207 o wrthdrawiadau anaf personol bob blwyddyn ar gyfartaledd ar yr A470 gan arwain at 7 Marwolaeth, 35 o anafiadau difrifol a 165 o fân anafiadau ar gyfartaledd. Mae gwaith dilysu ystadegol wedi dangos tuedd ystadegol sydd ar i lawr ar y cyfan.

Digwyddodd y gwrthdrawiadau hyn ar hyd 279km y ffordd hon a chaiff eu lleoliadau eu harchwilion flynyddol i nodi clystyrau i’w dadansoddi.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau, anafiadau difrifol a mân anafiadau ar yr A483 ym mhob blwyddyn er 2000, gan roi manylion ynghylch ble y digwyddodd y rhain? (WAQ52901)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rhwng 2000 a 2007 cafwyd 139 o wrthdrawiadau anaf personol bob blwyddyn ar gyfartaledd ar yr A483 gan arwain at 5 Marwolaeth, 23 o anafiadau difrifol ac 111 o fân anafiadau ar gyfartaledd. Digwyddodd y gwrthdrawiadau hyn ar hyd 173km y ffordd hon a chaiff eu lleoliadau eu harchwilion flynyddol i nodi clystyrau i’w dadansoddi.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau, anafiadau difrifol a mân anafiadau ar yr A487 ym mhob blwyddyn er 2000, gan roi manylion ynghylch ble y digwyddodd y rhain? (WAQ52902)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rhwng 2000 a 2007 cafwyd 155 o wrthdrawiadau anaf personol bob blwyddyn ar gyfartaledd ar yr A487 gan arwain at 3 Marwolaeth, 26 o anafiadau difrifol ac 126 o fân anafiadau ar gyfartaledd.

Digwyddodd y gwrthdrawiadau hyn ar hyd 199km y ffordd hon a chaiff eu lleoliadau eu harchwilion flynyddol i nodi clystyrau i’w dadansoddi.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw sylwadau y mae wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch systemau cyllid i fusnesau bach? (WAQ52944)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi mynd i’r tair Uwchgynhadledd Economaidd ac fel aelod o’r Cyngor Economaidd Cenedlaethol mae wedi hysbysu Llywodraeth y DU yn uniongyrchol am bryderon busnesau yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o bobl sy’n disgwyl cymorth gan y Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref, a faint oedd yn disgwyl 12 mis yn ôl? (WAQ52904)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ym mis Rhagfyr 2007, roedd 1742 o gartrefi yn aros am arolygon o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. Cwblhawyd arolygon ym mhob un o’r cartrefi hyn ac mae camau wedi’u cymryd.

Ar hyn o bryd mae tua 3,350 o ddeiliaid cartrefi yn aros am arolygon. Mae Eaga, sy’n rheoli’r cynllun ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi rhoi sicrwydd i mi bod mwy o aseswyr yn cael eu recriwtio ar gyfer Cymru, a fydd yn ei gwneud yn bosibl cyflymu’r gwaith o gwblhau’r arolygon. Dylai hyn gael effaith ar y niferoedd sy’n aros erbyn diwedd mis Ionawr. Yn y cyfamser, mae Eaga yn rhoi blaenoriaeth i’r ymgeiswyr hynny sydd dros 80 oed a’r rhai y mae’n hysbys nad oes ganddynt wres.

Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y deiliaid cartrefi a wnaeth gais i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref ar ôl datganiad y Prif Weinidog ynghylch pecyn arbedion ynni’r cartref ym mis Medi. Cyn y cyhoeddiad roedd tua 1,040 o gartrefi’n aros am arolygon.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyhoeddusrwydd sy’n cael ei roi i’r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref, gan roi manylion am unrhyw gynlluniau hyrwyddo a hysbysebu, yn ogystal â chostau’r rhain? (WAQ52905)

Jane Davidson: Caiff y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref ei hyrwyddo’n bennaf drwy sefydliadau partner megis yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, sy’n rhoi cyngor diduedd am ddim ar leihau biliau ynni ac arbed ynni, sefydliadau elusennol megis Age Concern a Chyngor ar Bopeth. Mae gan y sefydliadau hyn systemau ar waith i atgyfeirio deiliaid cartrefi at ddarparwyr grant gwahanol a gallant sicrhau bod y rhai sy’n cysylltu â hwy’n cael gwybod am y cynllun grant mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion penodol.

Un o’r negeseuon allweddol yn ein hymgynghoriad ar y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni fydd yr angen i wella ymhellach gysylltiadau a systemau atgyfeirio rhwng asiantaethau sy’n rhoi cyngor a chymorth i ddeiliaid cartrefi sy’n debygol o fod yn agored i dlodi tanwydd, a’r ffordd orau y gallwn gyflawni hyn.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut mae’r Gweinidog yn asesu effeithiolrwydd unrhyw gynllun hyrwyddo neu hysbysebu ar gyfer y Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref?(WAQ52908)

Jane Davidson: Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref wedi bod yn eithriadol o boblogaidd gyda’r nifer uchaf erioed o gartrefi (18,647) yn cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni o dan y cynllun yn 2007-08.

Er bod llwyddiant y cynllun yn nodi ein bod yn cyrraedd cartrefi y mae angen cymorth arnynt, hoffwn edrych ar opsiynau o ran y ffordd orau o hyrwyddo’r cynllun yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn datblygu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni, y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus arno ym mis Chwefror. Fel rhan o’r cynllun hwn, byddwn yn adolygu pob agwedd ar y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref cyfredol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am unrhyw ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i’r cynllun achub morgeisi gan roi manylion am hysbysebu a dulliau eraill o hyrwyddo, yn ogystal â datgelu’r costau a pha mor llwyddiannus yw’r cynlluniau hyn? (WAQ52906)

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Mae’r trefniadau gweithredol ar gyfer cynllun Achub Morgeisi Llywodraeth y Cynulliad wedi’u trafod ag aelodau’r Grwp Gorchwyl Achub Morgeisi / Ailfeddiannu a sefydlwyd gennyf yn gynharach eleni mewn ymateb i’r dirywiad yn yr hinsawdd economaidd a chytunwyd arnynt. Mae’r Grwp Gorchwyl yn cynnwys cynrychiolwyr o randdeiliaid allweddol; Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, Cydgysylltydd y Rhwydwaith Digartrefedd Cenedlaethol a Chymdeithas Adeiladu’r Principality. Mae taflen ffeithiau am y cynllun wedi’i llunio ac ar gael i’w llwytho i lawr am ddim o wefan Llywodraeth y Cynulliad.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae’n mesur llwyddiant unrhyw gynllun hyrwyddo yn ymwneud â’r cynllun achub morgeisi? (WAQ52907)

Jocelyn Davies: Mae Cynllun Digartrefedd 10 mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, y cynhelir ymgynghoriad arno ar hyn o bryd, wedi ystyried yr angen i fynd i’r afael â’r mater o ailfeddiannu morgeisi.

Yn gynharach eleni cyhoeddais fod £5 miliwn yn cael ei ddyrannu i sefydlu cynllun achub morgeisi newydd yng Nghymru, ac yr wythnos diwethaf cynyddais yr arian hwn i £9.5 miliwn. Bydd yr arian ychwanegol yn golygu y gall mwy o deuluoedd elwa o’r cymorth hwn yn y dyfodol agos. Mae’n anodd rhagweld nifer y perchenogion a allai elwa o’r cynllun oherwydd eu hamgylchiadau amrywiol, ond amcangyfrifwn y gallai hyd at 100 o deuluoedd elwa o’r arian a ddyrannwyd gennyf i’r cynllun.

Ym mis Mai eleni sefydlais grwp gorchwyl i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r mater o ailfeddiannu morgeisi. Mae’r Grwp wedi cytuno ar nifer o flaenoriaethau allweddol, yr amlinellwyd camau gweithredu penodol oddi tanynt i helpu i fynd i’r afael â’r broblem.

Cyhoeddir y Cynllun Gweithredu Achub Morgeisi yn y Flwyddyn Newydd, a bydd y Grwp Gorchwyl yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd er mwyn goruchwylio’r broses o weithredu a monitro effeithiolrwydd y Cynllun Gweithredu.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael o ran hyrwyddo bwyd lleol yn ogystal â hyrwyddo bwyd o’r tu allan i Gymru pan fo cynnyrch tebyg ar gael yn lleol? (WAQ52894)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Mae fy swyddogion yn yr Is-Adran Datblygu Bwyd a Marchnad yn mynd i amrywiaeth o arddangosfeydd bwyd ‘Masnach’ a ‘Defnyddwyr’ sydd â’r nod o hyrwyddo bwyd a diod o safon o Gymru fel rhan o raglen Datblygu Masnach eang ynghyd â’u rheoli. Mae cynhyrchwyr bwyd yn arddangos ar y stondin Gwir Flas yn y digwyddiadau hyn yng Nghymru, ledled y DU a marchnadoedd rhyngwladol. Cynhelir y Gwobrau Bwyd a Diod ‘Gwir Flas’ yn flynyddol i hyrwyddo cynnyrch llwyddiannus drwy ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus cenedlaethol. Nid yw’r cynllun Gwobrau na’r rhaglen Datblygu Masnach yn eithrio cynnyrch o’r tu allan i Gymru yn sgîl rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE. Fodd bynnag, ni ellir rhoi’r un faint o gymhorthdal â chynhyrchwyr o Gymru.