Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Rhagfyr 2014 i'w hateb ar 17 Rhagfyr 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw amcanestyniadau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer cwblhau y rhan o ffordd gyswllt Bae Caerdydd rhwng cylchfan Rover Way/Ocean Way a'r A4232 ger Rhodfa'r Dwyrain? (WAQ68124)
Derbyniwyd ateb ar 15 Rhagfyr 2014
Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): This is a matter for Cardiff Council.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o gyfarfodydd y mae wedi'u cynnal gyda'i Weinidog cyfatebol yn Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd? (WAQ68122)
Derbyniwyd ateb ar 17 Rhagfyr 2014
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): None.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gleifion sy'n dewis i dderbyn hysbysiadau ynghylch apwyntiadau dros e-bost yn hytrach na drwy'r post? (WAQ68123)
Derbyniwyd ateb ar 17 Rhagfyr 2014
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): Use of email to notify patients of hospital appointments is being considered as part of the current refresh of the eHealth and care strategy.