18/01/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Ionawr 2011 i’w hateb ar 18 Ionawr 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion i gyllido ysgol cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam dan Gyfran 3 y Grant Gwella Adeiladau Ysgolion. (WAQ56926)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa ddarpariaethau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i sicrhau bod bwyd heb glwten ar gael yn rhwydd ym mhob sefydliad addysgol. (WAQ56929)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r £175,598 o wariant refeniw sydd yn y gyllideb ar gyfer ‘Gwella a Chynnal Llwybrau Domestig Cefnffyrdd'. (WAQ56925)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ56882, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch sawl 'datganiad o ddiddordeb' yn y safle sy'n ymwneud â chynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Parc Awyrofod o'i gymharu â'r cyfleusterau presennol yn y safle. (WAQ56930)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid a roddir i'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy bob blwyddyn yn y 3 blynedd nesaf, ac o gyfanswm y cyllid hwnnw, faint fydd yn cael ei neilltuo i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ym mhob un o'r 3 blynedd nesaf. (WAQ56927)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiagnosio Clefyd Coeliac ac amseroedd rhestri aros i gael eich cyfeirio am endosgopi. (WAQ56928)