18/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael naill ai gydag Adran Drafnidiaeth y DU neu Severn River Crossings, ccc, ynghylch effaith economaidd tollau croesi Afon Hafren ar Gymru? (WAQ51257)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid wyf wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU na Severn River Crossings plc o ran yr effaith economaidd ar Gymru o dollau Pontydd Hafren. Fodd bynnag, pan fyddaf yn cyfarfod Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth nesaf, rwyf yn gobeithio trafod y materion sy’n ymwneud â Phontydd Hafren.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y dwyrain a’r gorllewin? (WAQ51271)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Ieuan Wyn Jones: Nodir y cynlluniau ar gyfer cysylltiadau ffordd o’r Dwyrain i’r Gorllewin ym Mlaenraglen Cefnffyrdd 2002 ac fe’u diweddarwyd yn 2004. Gellir gweld y rhain fel codau lliw: Melyn, Dwyrain-Gorllewin (De); Pinc, Dwyrain-Gorllewin (Canolbarth); Gwyrdd, Dwyrain-Gorllewin (Gogledd) yn y cynllun atodedig.

O ran y rheilffordd, rwy’n cyfrannu hyd at £8 miliwn i’r arian cyfalaf ar gyfer y gwelliannau sydd ar fin digwydd i seilwaith Rheilffordd Cambrian rhwng Aberystwyth a’r Amwythig. Bydd y buddsoddiad yn darparu ar gyfer gwelliant sylweddol o ran prydlondeb gwasanaethau trenau ac yn ei gwneud yn bosibl i gael gwasanaethau trenau mwy rheolaidd yn y dyfodol.

Byddaf yn cyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig Cymru yn fuan, a fydd yn defnyddio cyfraniadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol. Bydd hyn yn arwain at Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru fwy manwl a Blaenraglen Cefnffyrdd wedi’i diweddaru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi bod yn eu cael gyda chyd-Weinidogion ynghylch defnyddio asedau nas hawliwyd yng Nghymru? (WAQ51233)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Ystyriodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y defnydd o arian sydd ar gael o dan Gynllun Cyfrifon Segur ym mis Rhagfyr 2007. Caiff ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio maes o law.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o ymgynghorwyr sy’n gweithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o’i gymharu â 1999? (WAQ51292)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Gellir gweld y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am nifer yr ymgynghorwyr sy’n gweithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o gymharu ag 1999 ar wefan StatsCymru.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl brosiectau cyfalaf yn y GIG yn yr wyth mlynedd ariannol diwethaf lle defnyddiwyd menter cyllid preifat, a’r holl gostau a oedd yn gysylltiedig â hwy? (WAQ51293)

Edwina Hart: Rhestrir pob prosiect cyfalaf yn y GIG lle defnyddiwyd Menter Cyllid Preifat yn yr wyth flwyddyn ariannol ddiwethaf a’r taliadau unedol blynyddol a wnaed i’r contractiwr Menter Cyllid Preifat isod.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Chwefror 2008
 

Taliadau Unedol £ miliwn

             

Prosiect

1999-00

2000-01

2001-02

2002-03

2003-04

2004-05

2005-06

2006-07

Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

-

-

-

5.232

11.549

11.496

11.390

11.796

Ysbyty Cymunedol Dewi Sant

-

-

2.549

2.630

2.730

2.770

3.110

3.330

Rheoli Ynni

0.097

0.109

0.109

0.121

0.123

0.124

0.127

0.129

Uned Dialysis Arennol

-

-

-

-

0.130

0.130

0.231

0.278

Ysbyty Cymunedol Cas-gwent

 

1.675

1.664

1.739

1.713

1.751

1.786

1.877

Rheoli Ynni yn Ysbyty Brenhinol Gwent/Ysbyty Gwynllyw

0.127

0.519

0.525

0.527

0.551

0.567

0.578

0.601

Uned Llawfeddygaeth Ddydd Ysbyty Nevill Hall

0.372

0.549

0.583

0.595

0.631

0.654

0.687

0.710

Rheoli Ynni Ysbyty Nevill Hall

-

-

0.103

0.423

0.419

0.445

0.444

0.469

Monnow Court

-

-

-

-

-

-

-

0.512

Rheoli Ynni Ysbyty’r Tywysog Siarl

-

-

-

-

-

0.135

0.140

0.143

Preswylfeydd Staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg

0.208

0.211

0.215

0.217

0.210

0.213

0.215

0.219

Cyfanswm

0.804

3.063

5.748

11.484

18.056

18.285

18.708

20.064

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda San Steffan ynghylch defnyddio Mentrau Cyllid Preifat a Phartneriaethau Cyhoeddus Preifat eraill ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus gan awdurdodau lleol yng Nghymru? (WAQ51222)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa adolygiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i roi yng nghyswllt defnyddio Mentrau Cyllid Preifat a Phartneriaethau Cyhoeddus Preifat eraill gan awdurdodau lleol? (WAQ51224)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gost unrhyw Fentrau Cyllid Preifat a chontractau Partneriaeth Cyhoeddus Preifat eraill y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi ymrwymo iddynt er 1999? (WAQ51225)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru unrhyw Fentrau Cyllid Preifat a chontractau Partneriaeth Cyhoeddus Preifat eraill y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi ymrwymo iddynt er 1999? (WAQ51226)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir gyda’i gilydd gan eu bod yn mynd i’r afael â materion tebyg yn ymwneud â’r defnydd o’r Fenter Cyllid Preifat ac o fodelau Partneriaethau Preifat Cyhoeddus ehangach mewn awdurdodau lleol.

Nid wyf wedi trafod y defnydd o Fenter Cyllid Preifat a Phartneriaethau Preifat Cyhoeddus eraill gyda San Steffan, ac nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adolygu eu defnydd mewn awdurdodau lleol.

Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn gweithredu at gyfrifoldeb a rennir wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Mae ganddynt ryddid a hyblygrwydd i ddarparu gwasanaeth ymreolaethol a chânt fynediad i arian y sector preifat drwy bwerau benthyca darbodus neu drefniadau eraill. .

Atodaf restr o gynlluniau awdurdodau lleol y gofynnwyd amdani isod a gaiff eu cefnogi gan y Cynulliad drwy Gredydau Menter Cyllid Preifat. Fodd bynnag, bydd cynlluniau ychwanegol a ariennir naill ai’n gyhoeddus neu drwy Bartneriaethau Preifat Cyhoeddus, yn fater i bob awdurdod unigol ac felly ni chânt eu rhestru yma.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Chwefror 2008

Prosiectau Awdurdodau Lleol:

Prosiect Cymeradwyaeth Dyddiad

Dyddiad Cymeradwyaeth Derfynol SG/LlCC

Dyddiad Dechrau/Gorffen Yn Fras

Wrecsam: Rheoli Gwastraff

1997

Mawrth-07

Mai 07/Ebrill 09

Ceredigion: Ysgol Newydd

1997

Medi-99

Gweithredol Rhagfyr 2000

Sir Benfro: Ysgol a Swyddfeydd Newydd

1997

Mehefin-00

Gweithredol Medi 2002

Sir Ddinbych: Swyddfeydd Cyngor Sir

1997

Hydref-02

Hydref 02/Mai-04

Casnewydd: Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol

1997

Mawrth-02

Ebrill-02/Ebrill-05

Caerffili: Ysgolion

1997/1999

Mawrth-01

Gweithredol Medi 2002

Pen-y-bont ar Ogwr: Ysgolion

1999

Hydref-06

Tachwedd06/Mehefin 08

Caerffili: Ffordd Fenter Sirhywi

1999

Tachwedd-03

Ionawr 04/Ebrill 06

Conwy: Ysgolion

1999

Mawrth-03

Ebrill 03/Awst 04

Casnewydd: Ysgol

1999

Awst-07

Ebrill08/Rhagfyr 09

Rhondda Cynon Taf: Ysgolion

1999

Mawrth-04

Mawrth 04/Medi 05