Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2008 i’w hateb ar 18 Mawrth 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o ddisgyblion sydd wedi astudio Bagloriaeth Cymru nad oeddent wedi astudio safon uwch ar y cyd. (WAQ51512)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
David Melding (Canol De Cymru): Dan raglen twf uchel Gweithredu Entrepreneuriaeth, sawl busnes a gefnogwyd a sawl swydd a grëwyd, ac a wnaiff ddatganiad. (WAQ51508)
David Melding (Canol De Cymru): Faint o arian a ddarparwyd i Gweithredu Entrepreneuriaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a pha symiau oedd yn dal yn ddyledus adeg diddymu Gweithredu Entrepreneuriaeth. (WAQ51509)
David Melding (Canol De Cymru): Pa asesiad a wnaethpwyd neu sydd wedi’i gynllunio i ganfod beth yw graddfa’r colledion i ddarparwyr yn y sector preifat a oedd wedi’u contractio i Gweithredu Entrepreneuriaeth. (WAQ51510)
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr anawsterau a wynebwyd gan Gweithredu Entrepreneuriaeth gan gynnwys arwydd o bryd yr oedd ei adran yn ymwybodol o’r anawsterau ariannol a oedd yn wynebu Gweithredu Entrepreneuriaeth. (WAQ51511)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru y bydd adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau di-garbon o 2011 ymlaen. (WAQ51516)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at ymrwymiad Llywodraeth y DU y byddai ystad Llywodraeth y DU yn ddi-garbon erbyn 2012. (WAQ51515)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru y bydd adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau di-garbon o 2011 ymlaen. (WAQ51517)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain ynghylch targed Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adeiladau di-garbon erbyn 2011. (WAQ51518)
Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu diweddaru’r Cod Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. (WAQ51520)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa ddyddiad y mae’r Gweinidog wedi’i osod ar gyfer cyhoeddi fersiwn wedi’i ddiweddaru Cod Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. (WAQ51521)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o amodau tai gwael ac awgrymiad Cartrefi Cymunedol Cymru yr ystyrir bod dros 18% o’r holl gartrefi yn y sector preifat yn anaddas a dan Safon Ansawdd y Cynulliad. (WAQ51514)
Nick Ramsay (Mynwy): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Cod Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. (WAQ51519)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth oedd y gwariant fesul Ymddiriedolaeth GIG ar a) nyrsys asiantaeth a b) nyrsys cronfa yn y flwyddyn ariannol lawn ddiwethaf a hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon pan fydd ffigurau ar gael. (WAQ51505)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i ymestyn y Contract Nyrsio Asiantaeth Cymru Gyfan ar gyfer yr holl gytundebau neu drefniadau a wnaethpwyd gan fyrddau iechyd lleol. (WAQ51506)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r gwariant fesul bwrdd iechyd lleol ar a) nyrsys asiantaeth a b) nyrsys cronfa yn y flwyddyn ariannol lawn ddiwethaf a hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon pan fydd ffigurau ar gael. (WAQ51507)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o’r 2.5 miliwn dos o’r brechlyn tafod glas (BTV8) sydd ar gadw gan ffermwyr Cymru hyd yn hyn. (WAQ51513)