18/07/2007 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Gorffennaf 2007 i’w hateb ar 18 Gorffennaf 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i liniaru tagfeydd traffig yn Hirwaun. (WAQ50230) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ailagor gorsaf reilffordd Hirwaun. (WAQ50226) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro’r oedi cyn comisiynu’r goleuadau yng nghyffordd Croesbychan ar yr A465. (WAQ50229) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wneud yr A465 yn ffordd ddeuol. (WAQ50228) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau rhyngrwyd band eang yng Nghymru. (WAQ50231)

Gofyn i'r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o ysgolion sydd wedi cofrestru ar gyfer Bagloriaeth Cymru yng nghymoedd y de. (WAQ50236)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried ymestyn y terfyn oedran uchaf ar gyfer sgrinio am ganser y fron ac, os ydyw, ar ba gam y mae’r broses. (WAQ50227)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y cyllid, fesul awdurdod lleol, y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ei ddarparu i dalu am gostau cychwynnol trosglwyddo stoc tai i landlord cymdeithasol cofrestredig newydd. (WAQ50234) Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i ddelio â chostau trosglwyddo stoc tai, fesul pob awdurdod lleol, gan gynnwys pwrpas y cyllid. (WAQ50233) Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y cyllid a roddwyd i awdurdodau lleol i gwrdd â chost unrhyw bremiymau yswiriant ar gyfer tai ar ôl trosglwyddo stoc. (WAQ50232) Irene James (Islwyn): A yw’r Gweinidog yn gallu darparu amserlen o weithgarwch ar gyfer y buddsoddiad o £25 miliwn yng Nghwm Sirhywi. (WAQ50235)