18/09/2008 - Answers issued to Members on 18 September 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Medi 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a yw canllawiau gwasanaeth sifil y DU o’r enw 'principles for participation online’ sydd ar gael yn http://www.civilservice.gov.uk/iam/codes/social_media/participation.asp yn berthnasol i weision sifil Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ52397)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae pob gwas sifil yn gorfod dilyn gofynion Cod y Gwasanaeth Sifil. Mae codau ar wahân yn bodoli yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, gan adlewyrchu sefyllfaoedd cyfreithiol gwahanol gweision sifil o ran yr hyn y mae eu Gweinidogion yn gyfrifol amdano. Cyflwynwyd Cod Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2007 gan adlewyrchu sefyllfa gyfreithiol gweision sifil mewn perthynas â Gweinidogion Cymru. Mae’r darpariaethau o fewn Cod Llywodraeth y Cynulliad yr un fath â’r rhai sy’n berthnasol i adrannau Whitehall a gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Swyddfa’r Cabinet sy’n cyhoeddi’r 'principles for participation online’, fel canllawiau ar gyfer pob gwas sifil, ac maent yn cyfeirio at eu perthynas â Chod y Gwasanaeth Sifil. Mae gwaith ar y gweill i ategu Polisi Defnyddio TGCh Llywodraeth y Cynulliad drwy bolisi blogio a rhwydwaith cymdeithasol i sicrhau bod yr egwyddorion yn cael eu hadlewyrchu yn y polisi newydd.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Am sawl diwrnod y caiff safle Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faes sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ei feddiannu a’i ddefnyddio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ52425)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw cost flynyddol safle Llywodraeth Cynulliad Cymru (les/rhent a chostau rhedeg) ar faes sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd? (WAQ52426)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Prif Weinidog: Ar hyn o bryd mae hen bafiliwn Awdurdod Datblygu Cymru ar hyd y brif arena yn cael ei lesio am fis bob blwyddyn, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau amrywiol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod Sioe Frenhinol Cymru. Ymhellach o’r brif arena, mae gan Lywodraeth y Cynulliad 2 eiddo llai arall ar faes y sioe, sydd ar lesi hirdymor. Yn ystod sioe eleni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oedd yn defnyddio safle pafiliwn Bwrdd Croeso Cymru gynt. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth y Cynulliad gytundeb 3 blynedd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae’r cytundeb yn rhoi hawl i’r Gymdeithas osod y pafiliwn i barti arall am gyfnodau hyd at 12 mis ac nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn talu rhent am y pafiliwn hwn yn ystod cyfnod y cytundeb. Caiff eiddo gwreiddiol Llywodraeth y Cynulliad (cyn i’r hen Gyrff Cyhoeddus a Noddid gan y Cynulliad gael eu huno) ei ddefnyddio gydol y flwyddyn ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd ac at ddibenion hyfforddi gan fod ei leoliad canolog yn golygu ei fod yn gyfleus i bob rhan o Gymru. Mae’r eiddo hwn ar gael hefyd i Gomisiwn y Cynulliad ei ddefnyddio yn ystod y sioe a’r wythnos cynt. Mae swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ynghylch rhoi trefn ar eiddo Llywodraeth y Cynulliad ar y safle.

Cyfanswm cost flynyddol eiddo Llywodraeth y Cynulliad ar faes sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yw £73,554.

Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u gwneud i Gyllid a Thollau EM a Llywodraeth y DU am orfodi’r isafswm cyflog? (WAQ52472)

Y Prif Weinidog: Dim, ond rwyf mewn cyswllt â’r Comisiwn Cyflogau Isel ynghylch ei adolygiad blynyddol o gyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd caiff y Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni ar gyfer Cymru ei gyhoeddi? (WAQ52449)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Bwriadwn gyhoeddi’r cynllun ar gyfer ymgynghoriad erbyn diwedd 2008.

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Amgylchedd Cymru a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn? (WAQ52468)

Jane Davidson: Yn ogystal ag amrywiaeth o brosiectau Cymru gyfan a fu’n gweithio yn etholaeth Islwyn, rhoddwyd grant i brosiect gwaith a gofal Troed y Rhiw yng Nghrosskeys.  Mae’r prosiect hwn yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu difrifol ar amrywiaeth o brosiectau amgylcheddol, gan gynnwys tramwyfa, creu llwybr troed, adeiladu pontydd fel y gall cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio eu croesi, addysg amgylcheddol, ardaloedd picnic a ffensio pyst a rheiliau.

Mae Amgylchedd Cymru hefyd wedi darparu cymorth swyddog datblygu i’r prosiectau canlynol yn y cyfnod hwn.  Parc Penallta ym Mhenallta a Phrosiect Eco-barc a Rhwydwaith Lleoedd Cymunedol Cefn Fforest a Fairview, y ddau yn y Coed-duon.