18/11/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11eg Tachwedd 2008 i’w hateb ar 18fed Tachwedd 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion. (WAQ52752)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): O ran ffordd yr A470 yng Nganllwyd, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am (a) y dyddiad y gwnaethpwyd penderfyniad; (b) pa arolygon ac asesiadau amgylcheddol oedd eu hangen er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd; (c) y dyddiad y dechreuwyd ar yr arolygon a’r asesiadau hyn; a (d) y dyddiad y’u cwblhawyd neu’r dyddiad y rhagwelir y cânt eu cwblhau. (WAQ52747)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r ymgyrch i gael enw parth ar gyfer Cymru (dot cym). (WAQ52751)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i gyflawni ei hymrwymiad Cymru’n Un i ddatblygu rhaglen gefnogi i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm. (WAQ52748)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i gyflawni ei hymrwymiad Cymru’n Un i archwilio a ellir cyflwyno cynllun grant er mwyn trosglwyddo i gnydau ynni. (WAQ52749)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i gyflawni ei hymrwymiad Cymru’n Un i sefydlu menter fawr yn ymwneud â chynhyrchu bwyd yn lleol. (WAQ52750)