18/12/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Rhagfyr 2009 i’w hateb ar 18 Rhagfyr 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Leanne Wood (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 'Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant’, a wnaiff y Gweinidog amlinellu’r broses werthuso a ddefnyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Rhaglenni Amlinellol Strategol a’r Achosion Amlinellol Strategol, ac a wnaiff y Gweinidog nodi p’un ai a fydd y gwerthusiadau hyn ar gael i'r cyhoedd graffu arnynt. (WAQ55312)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn egluro sut y dylid dehongli maen prawf (vii) - 'yr effaith gadarnhaol a gaiff y cynnig o ran yr amrywiaeth o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddysgwyr ac ansawdd y cyfleoedd hynny’ - yn agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 'Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant’. (WAQ55313)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan ganolbwyntio ar y rhannau hynny sy’n ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng y deilliannau i ddysgwyr ar gyrsiau Cyfrwng Cymraeg a ddarparwyd mewn sefydliadau lle mae Saesneg yw’r iaith bob dydd a deilliannau’r cyrsiau hynny a ddarparwyd drwy addysg Cyfrwng Cymraeg cyflawn mewn sefydliad sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. (WAQ55314)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch p’un ai a yw’r dewis a ffafrir gan Rondda Cynon Taf ar gyfer trawsnewid, sy’n cynnwys cau pob Dosbarth 6 ledled yr Awdurdod a chreu un system drydyddol, yn cydymffurfio â’r meini prawf gwerthuso a nodwyd yn 'Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant’. (WAQ55315)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ba gymorth grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i dalu ffioedd pensaernïol cyn rhoi caniatâd cynllunio. (WAQ55311) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai