Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 19 Ionawr 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sefyllfa bresennol yng nghyswllt y Cynllun Teithio Rhatach ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed ac a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a) canfyddiadau'r cynllun peilot a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac b) a gaiff y cynllun hwn ei ymestyn. (WAQ55390)
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd y cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n caniatáu i bobl ifanc deithio am ddim ar fysiau yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru, gan roi manylion ble a phryd. (WAQ55391)
Rhoddwyd
ateb ar 04 Chwefror 2010
Cafodd y cynllun peilot consesiynau hanner pris i bobl 16-18 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei groesawu gan lawer o bobl ifanc. Rwyf yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion gwerthusiad y cynlluniau peilot yn ofalus iawn. Byddaf yn datgan fy mhenderfyniadau maes o law ac yn cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso ar yr un pryd.
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Sut y bydd y Gweinidog yn hybu cyflwyno cyhoeddiadau clywedol ar fysiau drwy'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer Cymru fel ffordd o gynyddu'r nifer sy'n defnyddio bysiau yn enwedig ymysg pobl anabl. (WAQ55393)
Rhoddwyd
ateb ar 04 Chwefror 2010
Rydym yn cydweithio â'r Adran Drafnidiaeth i ymchwilio i'r ddarpariaeth o systemau clywedol ar fysiau. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau maes o law ar fanteision defnyddio systemau o'r fath.
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ymgynghoriad a ryddhawyd yn ddiweddar gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn San Steffan ynghylch cyfarwyddyd i Ofcom ar gyfer gweithredu'r rhaglen Moderneiddio Sbectrwm Radio Di-wifr fel rhan o Brydain Ddigidol. (WAQ55394)
Rhoddwyd
ateb ar 26 Ionawr 2010
Rwy'n ymateb i ymgynghoriad yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar y Cyfarwyddyd i Ofcom Weithredu'r Rhaglen ar gyfer Moderneiddio'r Sbectrwm Radio Di-wifr.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo arloesi ym maes Ymchwil Iechyd. (WAQ55392)
Rhoddwyd
ateb ar 04 Chwefror 2010
Mae WORD a Changen Technoleg ac Arloesi Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (AETh) wedi cytuno ar drefniant newydd i gydweithio. Datblygwyd strategaeth newydd gan WORD ac AETh yn ddiweddar i roi cymorth arloesi a masnacheiddio i'r GIG a'r Sector Gofal Iechyd.