Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Ionawr 2010 i’w hateb ar 19 Ionawr 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sefyllfa bresennol yng nghyswllt y Cynllun Teithio Rhatach ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed ac a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a) canfyddiadau'r cynllun peilot a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac b) a gaiff y cynllun hwn ei ymestyn. (WAQ55390)
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd y cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n caniatáu i bobl ifanc deithio am ddim ar fysiau yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru, gan roi manylion ble a phryd. (WAQ55391)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Sut y bydd y Gweinidog yn hybu cyflwyno cyhoeddiadau clywedol ar fysiau drwy'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer Cymru fel ffordd o gynyddu'r nifer sy'n defnyddio bysiau yn enwedig ymysg pobl anabl. (WAQ55393)
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ymgynghoriad a ryddhawyd yn ddiweddar gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn San Steffan ynghylch cyfarwyddyd i Ofcom ar gyfer gweithredu'r rhaglen Moderneiddio Sbectrwm Radio Di-wifr fel rhan o Brydain Ddigidol. (WAQ55394)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo arloesi ym maes Ymchwil Iechyd. (WAQ55392)