19/02/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2008 i’w hateb ar 19 Chwefror 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ynghylch ffi cofrestru Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. (WAQ51305)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Ramsay (Mynwy): Pan gaiff Adroddiad terfynol Pitt ei ryddhau, pa weithdrefnau y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu dilyn i sicrhau bod yr holl awdurdodau cynllunio lleol yn ymwybodol o'r argymhellion. (WAQ51301)

Nick Ramsay (Mynwy): Faint o amser y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd ei angen i rannu argymhellion Adroddiad terfynol Pitt â'r partïon perthnasol. (WAQ51300)

Nick Ramsay (Mynwy): Beth yw'r amserlen ar gyfer rhoi ar waith argymhellion Adroddiad interim Pitt. (WAQ51302)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa waith sydd wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd o ran mapio ardaloedd sy'n dioddef llifogydd dŵr daear a dŵr ffo difrifol, fel a nodir yn Adroddiad interim Pitt. (WAQ51303)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae GIG Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud am nifer y cleifion sydd heb ddeintydd y GIG. (WAQ51299)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sawl deintydd sy'n gweithredu yng Nghymru sy'n trin cleifion y GIG fel unrhyw gyfran o'u gwaith. (WAQ51298)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen frechu BCG i blant mewn ardaloedd gwledig. (WAQ51304)