19/05/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cunilliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mai 2008 i’w hateb ar 19 Mai 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu a oes unrhyw waith peirianneg ar y gweill ar reilffordd Glyn Ebwy dros y chwe mis nesaf. (WAQ51769)

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno trenau chwe cherbyd ar reilffordd cwm Rhymni ar yr adegau prysur. (WAQ51770)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch defnyddio bwydydd a addaswyd yn enetig mewn prydau a weinir mewn adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai. (WAQ51755)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyfarwyddyd y mae’r Gweinidog yn ei roi i’r rheini sy’n gyfrifol am adeiladau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai, ynghylch defnyddio bwydydd a addaswyd yn enetig mewn prydau a weinir yn yr adeiladau hynny. (WAQ51768)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau am nifer y practisau deintyddol GIG yn Nhor-faen. (WAQ51771)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod faint o bractisau GIG yn Nhor-faen sy’n derbyn cleifion newydd ar hyn o bryd. (WAQ51772)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau am nifer y practisau deintyddol GIG yn sir Fynwy. (WAQ51773)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod faint o bractisau GIG yn sir Fynwy sy’n derbyn cleifion newydd ar hyn o bryd. (WAQ51774)