Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mai 2015 i'w hateb ar 19 Mai 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at yr ateb a roddwyd i WAQ68660, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cyfrifoldebau iechyd Mr David Goldstone a rhestr o feysydd y mae wedi darparu cyngor i'r Gweinidog neu ei swyddogion yn eu cylch dros y 12 mis diwethaf? (WAQ68664)
Derbyniwyd ateb ar 21 Mai 2015
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): Mr Goldstone has not provided any consultancy advice on health related property matters over the last 12 months.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer y GIG i gyflwyno peginterferon beta-1-a (Plegridy) fel triniaeth ar gyfer sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol ac, os nad oes, beth yw'r rhesymau dros beidio â gwneud hynny? (WAQ68665)
Derbyniwyd ateb ar 21 Mai 2015
Mark Drakeford: The All Wales Medicines Strategy Group will be appraising peginterferon beta-1a (Plegridy®) on June 17.
Gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i benodi Comisiynydd Lluoedd Arfog i Gymru? (WAQ68666)
Derbyniwyd ateb ar 19 Mai 2015
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (Leighton Andrews):
We have no current plans to introduce an Armed Forces Commissioner for Wales.