19/06/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Mehefin 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Mehefin 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu’r cyfyngiad cyflymder ar yr A487 rhwng cyffordd Comins Coch a Bow Street yng Ngheredigion? (WAQ50047) Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Brian Gibbons): Nid oes cynlluniau ar y gweill i adolygu’r terfyn cyflymder ar yr A487 rhwng cyffordd Comins Coch a Bow Street. Fodd bynnag, i’r de-orllewin o Gomins Coch, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig diwygio’r terfyn cyflymder drwy ymestyn y terfyn presennol o 40-mya tua’r gogledd-ddwyrain ar hyd yr A487, i gynnwys cyffordd Maeshendre (Lôn Llewellyn). Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi manylion nifer y damweiniau ffordd ar yr A487 rhwng Chancery a Llanfarian yng Ngheredigion dros y pum mlynedd diwethaf? (WAQ50048) Brian Gibbons: Bu pymtheg o ddamweiniau anaf personol ar yr A487 rhwng Gwesty Gwledig a Motel Conrah Rhydgaled a chyffordd yr A485, Llanfarian dros y pum mlynedd diwethaf, sef y cyfnod diweddaraf y mae data am ddamweiniau ar gael ar ei gyfer. Mae’r cyfnod hwn rhwng 1af Mawrth 2002 a 28ain Chwefror 2007. O blith y pymtheg o ddamweiniau, nodwyd bod tair ohonynt yn ddamweiniau difrifol a deuddeg ohonynt yn fân-ddamweiniau. Ni chofnodir damweiniau lle na cheir anafiadau. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi manylion nifer y damweiniau ffordd ar yr A487 rhwng cyffordd Comins Coch a Bow Street yng Ngheredigion dros y pum mlynedd diwethaf? (WAQ50049) Brian Gibbons: Bu un ar bymtheg o ddamweiniau anaf personol ar yr A487 rhwng cyffordd Comins Coch a chyffordd Clarech Road, Bow Street dros y pum mlynedd diwethaf, sef y cyfnod diweddaraf y mae data am ddamweiniau ar gael ar ei gyfer. Mae’r cyfnod hwn rhwng 1af Mawrth 2002 a 28ain Chwefror 2007. O blith yr un ar bymtheg o ddamweiniau, nodwyd bod pump ohonynt yn ddamweiniau difrifol ac un ar ddeg ohonynt yn fân-ddamweiniau. Ni chofnodir damweiniau lle na cheir anafiadau.