19/06/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mehefin 2012
i’w hateb ar 19 Mehefin 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob un o raglenni prentisiaethau’r Llywodraeth, pa ganran o’r rheini sydd wedi cymryd rhan a oedd yn arfer cael eu cyflogi gan y cyflogwr y maent yn dilyn y brentisiaeth gyda hwy. (WAQ60572)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob un o raglenni prentisiaethau’r Llywodraeth, a wnaiff y Gweinidog ddarparu ystadegau i ddangos dosbarthiad oed y rheini sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. (WAQ60573)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag esgeuluso plant. (WAQ60574)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gymorth a thriniaeth sy’n cael eu cynnig i blant a phobl ifanc sy’n byw ag arthritis yng Nghymru. (WAQ60575)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gan fod tenantiaid sir y Fflint wedi pleidleisio yn erbyn trosglwyddo stoc, pa ddewisiadau eraill sydd ar gael i’r sir er mwyn ariannu a chyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). (WAQ69571)