Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Medi 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Irene
James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn. (WAQ52467) Trosglwyddwyd
ar gyfer ateb gan y Ddirprwy Weinidog dros Adfwyio.
Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Ers lansio’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol yn 2002 cymeradwywyd 12 prosiect yn Islwyn gyda chyfanswm o £710,688 o grantiau. Atodir rhestr o’r prosiectau.
Ceisiadau i’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a Gymeradwywyd yn Islwyn ers 2002
Ymgeisydd |
Prosiect |
Swm a Ddyfarnwyd |
Eglwys y Presbyteriaid Paran |
Gwelliannau i gyfleusterau’r toiledau fel y gall pobl anabl eu defnyddio |
£28,000.00 |
Grŵp Cymunedol Cynulleidfaol Markham |
Mynediad i bobl anabl i’r eglwys. |
£9,740.00 |
Eglwys y Methodistiaid Crosskeys |
Adnewyddu adeilad cymunedol |
£22,184.00 |
Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer, Pengam |
Ymestyn, gwella ac adnewyddu’r adeilad presennol, sy’n darparu cyfleusterau i’r gymuned gyfan gyfranogi ynddynt a’u mwynhau. |
£189,584.70 |
Neuadd Gymunedol Eglwys San Pedr, Pantside |
Atgyweirio to’r neuadd gymunedol fel y gall y trigolion fanteisio’n llawn ar y neuadd gymunedol bresennol |
£36,622.09 |
Partneriaeth Gymunedol Penllwyn |
Adeiladu Ardal Gemau Amlddefnydd |
£84,654.00 |
Cymdeithas Gymunedol Hafodyrynys |
Adeiladu adeilad cymunedol newydd, yn lle’r un presennol, nad yw’n ddarbodus ei atgyweirio, i gydymffurfio â gofynion modern gan gynnwys mynediad i bobl anabl |
£100,000.00 |
Eglwys y Bedyddwyr Hope |
Darparu llawr newydd yn ystafell yr hen ysgol, ffwrn nwy gwaith trwm, system canfod tân a larwm tân, a gosod goleuadau i’w defnyddio mewn argyfwng. |
£12,378.13 |
Eglwys Gynulleidfaol y Drindod |
Adnewyddu Capel Cynulleidfaol y Drindod. Bydd hyn yn helpu i feithrin yr ysbryd cymunedol lleol gan wella ansawdd bywyd ar gyfer y trigolion drwy hyfforddiant, prosiectau sector gwirfoddol a gwelliannau iechyd. Drwy sicrhau bod y cyfleuster yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd bydd modd i’r gymuned gyfan ei defnyddio. |
£100,000.00 |
Ymgeisydd |
Prosiect |
Swm a Ddyfarnwyd |
Eglwys y Methodistiaid Crosskeys |
Ceisir arian i helpu i adnewyddu Neuadd Gymunedol y Methodistiaid Crosskeys a bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r system drydanol a gosod lifft risiau. Yn y Neuadd cynhelir gweithgareddau sy’n mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol, ac mae’r sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, GAVO, ysgolion lleol a’r awdurdod lleol, gan hyrwyddo ffyrdd mwy gweithgar o fyw, rhyngweithio cymdeithasol, hyfforddiant ac addysg. |
£17,204.00 |
Cymdeithas Gymunedol Llanfach |
Gwnaed cais am arian i ddarparu Lle Chwaraeon Amlddefnydd yn Llanfach. Mae cryn gefnogaeth i’r prosiect hwn a fydd yn darparu cyfleuster ieuenctid y mae ei fawr angen ac a fydd yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. |
£75,000.00 |
Cymdeithas Gymunedol Britannia |
Nod y prosiect hwn yw darparu lle chwarae yn y gymuned ar gyfer y plant iau. Eisoes mae Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (MUGA) yno sy’n darparu cyfleusterau ar gyfer plant hŷn ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfleusterau ar gyfer plant iau. Nid yn unig y bydd y cyfleuster yn hyrwyddo ffyrdd mwy iach a gweithgar o fyw ar gyfer y plant, ond bydd hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau cynhwysiant cymdeithasol drwy annog rhieni a gwarcheidwaid i gyfarfod mewn man canolog tra bo’r plant yn chwarae. |
£35,321.02 |
Cyfanswm |
£710,687.94 |
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ52341, a oedd unrhyw un o’r swyddogion a fu yn y cyfarfodydd ar 10 Ionawr a 4 Chwefror wedi adrodd yn ôl i’ch adran? (WAQ52469)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Yr uwch swyddog o Lywodraeth Cynulliad Cymru a oedd yn bresennol yn y ddau gyfarfod sydd â chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am bolisi anghenion addysgol arbennig yng Nghymru, ac am ei weithredu, ac felly mae’n cynrychioli fy Adran.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ52334, faint o’r £9.1 miliwn sy’n cael ei roi i bob AALl yng Nghymru a pha ganllawiau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cyhoeddi ynghylch sut y dylid gwario’r arian hwn?(WAQ52459)
Jane Hutt: Caiff dyfarniadau Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig unigol eu pennu’n flynyddol yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan AALlau. Defnyddir fformwla ariannu sy’n ystyried nifer y disgyblion cymwys; eu Cyfnodau Allweddol a’u lefelau o gaffael Saesneg fel Ail Iaith. Nodir dyfarniadau’r grant ar gyfer 2008-09 isod.
Mae’r prif ganllawiau ar sut y dylid gwario’r arian wedi’u nodi yn Nhelerau ac Amodau ffurfiol y grant. Gellir rhoi arweiniad pellach yn y llythyrau gwahoddiad i wneud cais i Gyfarwyddwyr Addysg a gellir rhoi arweiniad ategol ynghylch y cynllun grant iddynt yn ystod y flwyddyn hefyd.
Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig - 2008 - 09
Awdurdod Addysg Lleol |
£ |
Ynys Môn |
37,000 |
Blaenau Gwent |
18,000 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
90,000 |
Caerffili |
47,000 |
Caerdydd |
4,093,000 |
Sir Gaerfyrddin |
205,000 |
Ceredigion |
100,000 |
Conwy |
74,000 |
Sir Ddinbych |
100,000 |
Sir y Fflint |
87,000 |
Gwynedd |
61,000 |
Merthyr Tudful |
59,000 |
Sir Fynwy |
53,000 |
Castell-nedd Port Talbot |
134,000 |
Casnewydd |
1,612,000 |
Sir Benfro |
74,000 |
Powys |
197,000 |
RhCT |
124,000 |
Abertawe |
1,450,000 |
Tor-faen |
64,000 |
Bro Morgannwg |
159,000 |
Wrecsam |
262,000 |
Cyfanswm |
9,100,000 |
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o gartrefi fforddiadwy newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn 2007-08 drwy gaffael, adsefydlu a hosteli? (WAQ52450)
Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Mae’r ffigurau isod yn dangos niferoedd y tai fforddiadwy newydd a ddarparwyd yn 2007-08 ym mhob categori drwy’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Nid yw’r ffigurau ar gyfer datblygiadau nas ariennir â grant ar gael.
Caffaeliadau (eiddo cynllun cymorth prynu dewis eich hun) |
229 |
Adsefydlu |
52 |
Hosteli |
0 |
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o gartrefi fforddiadwy newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn 2007-08 drwy gynlluniau perchnogaeth cartref cost isel? (WAQ52451)
Jocelyn Davies : Yn 2007-08, darparwyd 229 o dai fforddiadwy newydd ar gyfer perchentyaeth cost isel drwy’r cynllun cymorth prynu dewis eich hun a ariannwyd drwy’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Nid yw’r ffigurau ar gyfer datblygiadau nas ariennir â grant ar gael.