19/10/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Hydref 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Hydref 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei darparu i fentrau bach a chanolig eu maint sy’n agored i niwed, y mae’r achosion diweddar o glwy’r traed a’r genau yn Lloegr wedi effeithio arnynt? (WAQ50480)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae pob ymdrech wedi'i gwneud i gefnogi busnesau bach a chanolig yr effeithiwyd arnynt gan yr achosion diweddar o glwy'r traed a'r genau yn Lloegr.  Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda busnesau yn unigol i archwilio'r opsiynau am gymorth o fewn cynlluniau y cytunwyd arnynt. Gall busnesau gael gwybodaeth am gymorth i fusnesau gan wasanaeth Llygad Busnes.

Rydym yn cydnabod yr anawsterau y mae'r achosion diweddar o'r clwy yn eu cael ar ffermio a'r economi wledig ac yn cydnabod pwysigrwydd y fasnach allforio i ddiwydiant cig oen Cymru ac yn croesawu'r newyddion y caiff y gwaharddiad ar allforio cig i'r UE ei godi o 12 Hydref o dan amodau llym.  Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog dros Faterion Gwledig hefyd wedi cyfarfod ag uwch reolwyr o'r rhan fwyaf o'r prif archfarchnadoedd er mwyn eu hannog i hybu cig oen a chig eidion o Gymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnig dros £1filiwn i Hybu Cig Cymru er mwyn gwneud gwaith ychwanegol i farchnata a hybu cynhyrchion cig coch o Gymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hyrwyddo 'Fframwaith Sgiliau’? (WAQ50487)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Datblygwyd y fframwaith sgiliau anstatudol i'w ddefnyddio gyda dysgwyr rhwng 3 a 19 oed.  Mae'n amlinellu cynnydd o ran datblygu sgiliau meddwl, cyfathrebu, rhif, a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), sef y meysydd a nodir amlaf fel rhai angenrheidiol gan athrawon, swyddogion AALl a chyflogwyr.

Mae wedi cael ei ddefnyddio gan bob gweithgor sy'n ymwneud ag adolygu gorchmynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r fframweithiau ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh), Gyrfaoedd a Byd Gwaith ac Addysg Grefyddol.  O ganlyniad i'r ymagwedd hon, mae'r sgiliau wedi cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm diwygiedig a gaiff ei roi ar waith o fis Medi 2008.

Caiff diben ac arwyddocâd y fframwaith eu hegluro mewn amrywiaeth o seminarau, cynadleddau a digwyddiadau hyfforddi y bydd swyddogion yn bresennol ydynt yn ystod 2008.

Caiff copïau o'r Fframwaith Sgiliau eu dosbarthu i ysgolion ochr yn ochr â'r gorchmynion a'r fframweithiau fel y bydd y ddogfen yn hygyrch i'r athrawon, a byddant yn gallu ei defnyddio wrth gynllunio sut y byddant yn cyflwyno'r cwricwlwm diwygiedig.

Yn ogystal, caiff y fframwaith sgiliau ei ddefnyddio fel sylfaen i'r gwaith o ddatblygu'r deunyddiau asesu sgiliau dewisol a gynlluniwyd i'w defnyddio gyda disgyblion Blwyddyn 5.  Ar hyn o bryd, nid yw'r rhain wedi cael eu datblygu'n ddigonol ym meysydd datblygu sgiliau meddwl, cyfathrebu a sgiliau rhif.  Bydd y deunyddiau hyn yn atgyfnerthu'r defnydd o'r fframwaith mewn ysgolion cynradd.

Bydd swyddogion yn monitro'r broses o roi'r cwricwlwm diwygiedig ar waith, a chaiff y defnydd o'r fframwaith a'i effeithiolrwydd eu hadolygu'n barhaus fel rhan o'r broses hon.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda’r ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru ac yn ychwanegol at unrhyw drafodaethau, pa gamau y mae hi’n bwriadu eu cymryd? (WAQ50498) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyfarfûm ag aelodau Bwrdd Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru ar 4 Hydref.

Trafodasom ystod eang o faterion yn ymwneud â gwasanaethau i blant anabl gan gynnwys darparu cadeiriau olwyn.

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn manylu pa Awdurdodau Lleol sy’n gweithredu system o ddim ond colegau trydyddol ar gyfer astudiaethau Safon Uwch, pa rai sy’n cynnig addysg chweched dosbarth yn unig a pha rai sy’n cynnig cymysgedd o chweched dosbarth a cholegau trydyddol? (WAQ50502)

Jane Hutt: O ran darpariaeth ôl-16 yng Nghymru, gall pobl ifanc gael addysg mewn dosbarthiadau chwech ysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant yn y gwaith, gyda'r olaf yn gweithredu ar draws ffiniau awdurdodau lleol ac yn cynnig cyfleoedd dysgu arbenigol yn aml.  Mae pob un o'r 22 o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig cymysgedd o addysg bellach a darpariaeth dosbarthiadau chwech mewn ysgolion, er i'r seilwaith gael ei sefydlu yn gyffredinol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.  O ganlyniad, nid oes unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol sy'n drydyddol bur ac nid yw'r un ohonynt yn cynnig colegau yn unig

O ganlyniad i bolisi cytûn Cymru i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed ac ymagwedd fodern, bragmatig tuag at gynyddu'r cyfleoedd i bob dysgwr, mae'r rhan fwyaf o ysgolion a cholegau addysg bellach yn tueddu i gydweithio o ran cyflwyno'r cwricwlwm fel y bydd llawer o ddysgwyr yn mynychu'r ysgol ar gyfer rhai meysydd pwnc, coleg ar gyfer rhannau eraill o'r hyn sydd gan y cwricwlwm i'w gynnig; ac mae nifer cynyddol ohonynt yn elwa ar ddefnyddio gweithgarwch yn seiliedig ar waith.