19/10/2017 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad ac Atebion

Cyhoeddwyd 13/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Hydref 2017 i'w hateb ar 19 Hydref 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer llawdriniaethau dewisol yng ngogledd Cymru, gyda'r bwriad o leihau amserau rhestrau aros? (WAQ74429)

Derbyniwyd ateb ar 24 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething): Betsi Cadwaladr UHB will be receiving its share of the £50 million announced in August 2017. For this, it plans to reduce the numbers waiting over 36 weeks by the end of March 2018 using a mixture of insourcing and additional internal activity and outsourcing to other providers. I expect to see material improvements in the numbers waiting over this time