19/11/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 19 Tachwedd 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 19 Tachwedd 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

David Melding (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch codi nifer y lleoliadau parhaol yng Nghymru ar gyfer Canolfannau Profion Beiciau Modur yr Asiantaeth Safonau Gyrru. (WAQ55141)

Rhoddwyd ateb ar 27 Tachwedd 2009

Rwyf wedi ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth ac at Brif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Gyrru ynglŷn â datblygu Canolfannau Profion Beiciau Modur yng Nghymru.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r arbedion posibl i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, petai argymhellion Adroddiad Panel Arbenigol Comisiwn Cynghorwyr Cymru yn cael eu rhoi ar waith. (WAQ55137)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Rydym yn ymgynghori ar yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hyd at 27 Tachwedd. Yna byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn amcangyfrif ac yn ystyried unrhyw gostau neu arbedion posibl wrth benderfynu p'un ai i weithredu unrhyw un o'r argymhellion ai peidio.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Er mis Ionawr 2009, faint o ddeiliaid cytundebau Tir Gofal a ymunodd â’r cynllun ar gyfer 2006-10 sydd wedi cael gwaith cyfalaf yn eu rhaglen yn: a) Canolbarth Cymru a b) Gorllewin Cymru. (WAQ55138)

Rhoddwyd ateb ar 09 Chwefror 2010

Ers mis Ionawr 2009, o ddeiliaid cytundeb Tir Gofal a ddaeth i mewn i'r cynllun rhwng 2006 a 2010, mae gwaith cyfalaf wedi'i gynnwys mewn 37 o gytundebau yng Nghanolbarth Cymru a 20 o gytundebau yng Ngorllewin Cymru.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o swyddogion maes Tir Gofal sydd ar hyn o bryd yn: a) Canolbarth Cymru a b) Gorllewin Cymru. (WAQ55139)

Rhoddwyd ateb ar 09 Chwefror 2010

Ar hyn o bryd mae 11 o swyddogion maes Tir Gofal (7 yn llawn amser a 4 yn rhan amser) yng Nghanolbarth Cymru ac mae 10 o swyddogion maes Tir Gofal (7 yn llawn amser a 3 yn rhan amser) yng Ngorllewin Cymru.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o ddeiliaid cytundebau Tir Gofal sydd ar hyn o bryd yn: a) Canolbarth Cymru a b) Gorllewin Cymru. (WAQ55140)

Rhoddwyd ateb ar 09 Chwefror 2010

Ar hyn o bryd mae 860 o gytundebau Tir Gofal yng Nghanolbarth Cymru a 930 o gytundebau Tir Gofal yng Ngorllewin Cymru.