Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Rhagfyr 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa gerbydau a ddefnyddir yn awr ar y rheilffordd rhwng Amwythig ac Aberystwyth a Morlin Cambria yn dilyn cytundebau cyllideb rhwng y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn ystod trafodaethau cyllideb 2005-06? (WAQ50815)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones):
• Mae gwasanaethau Trenau Arriva Cymru ar Reilffyrdd y Cambria yn defnyddio unedau Dosbarth 158.
• Ym mis Mehefin 2006, ariannodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddwy set o drenau Dosbarth 158 ychwanegol i wneud trenau ar Forlin Cambria ac ar Brif Reilffordd y Cambria yn hirach er mwyn lleddfu problemau gorlenwi.
• Defnyddir yr unedau ychwanegol i ddarparu trenau pedwar cerbyd ar saith taith y dydd rhwng Aberystwyth a Birmingham. Mae Rheilffordd Morlin Cambria bellach yn gweithredu gydag unedau dau gerbyd Dosbarth 158.
Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi a fu cyn agor Rheilffordd Glyn Ebwy i Deithwyr? (WAQ50827)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Fe’ch cyfeiriwn at fy natganiad ysgrifenedig i’r cabinet a wnaed ar 12 Rhagfyr 2007.
Irene James (Islwyn): Ac ystyried datganiad y Gweinidog ar 12fed Rhagfyr, beth yw’r dyddiad newydd y credir y bydd Rheilffordd Glyn Ebwy yn agor ar gyfer gwasanaethau teithwyr? (WAQ50828)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y rheilffordd newydd i Network Rail ar 17 Rhagfyr 2007 er mwyn galluogi Trenau Arriva Cymru i ddechrau hyfforddi gyrwyr ar 18 Rhagfyr.
Mae Network Rail, Capita Symonds ac Amey bellach yn gweithio gyda’i gilydd ar fyrder i nodi ac unioni unrhyw waith heb ei gwblhau fel y gellir dechrau gwasanaethau i deithwyr.
Hyd nes y caiff hyn ei ddatblygu nid oes modd dweud pryd y gall gwasanaethau wedi’u hamserlennu ddechrau i deithwyr ond yr wyf yn dal i bwyso ar bob parti i ddatrys y mater ar fyrder.