Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12fed Rhagfyr 2008 i’w hateb ar 19eg Rhagfyr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa ddadansoddiad mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i fesur effaith y dirywiad economaidd yng Nghymru. (WAQ53060)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynnwys y gwrthbleidiau mewn trafodaethau ac uwchgynadleddau a gynhelir o ganlyniad i’r dirywiad economaidd. (WAQ53061)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynlluniau i gyflwyno pecynnau adfer, yn debyg i hwnnw a ddefnyddiwyd yng Nglynebwy, mewn ardaloedd yng Nghymru y mae’r dirywiad economaidd yn effeithio arnynt. (WAQ3062)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar waith i ddelio â cholli nifer fawr o swyddi mewn ardal benodol yng Nghymru neu sector penodol o economi Cymru. (WAQ53063)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r targedau a osodwyd allan yn Cymru: Economi yn Ffynnu o ganlyniad i’r dirywiad economaidd. (WAQ53064)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa geisiadau a gafodd y Gweinidog am gyllid ar gyfer newidiadau diogelwch ar y ffyrdd ar Heol Cecile / Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. (WAQ53065)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl gwneud penderfyniad am gyllid ar gyfer newidiadau diogelwch ar y ffyrdd ar Heol Cecile / Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. (WAQ53066)
Chris Franks (Canol De Cymru): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud am effaith economaidd cau Woolworths ar Ganol De Cymru. (WAQ53067)
Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r camau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i helpu busnesau bach yn ystod y dirywiad economaidd. (WAQ53068)
Chris Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau a thrafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch ffordd osgoi Dinas Powys. (WAQ53070)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu systemau gwresogi mewn llety gwarchod dan berchnogaeth y cyngor a fydd yn sicrhau cyflenwad o wres yn ystod toriad yn y pŵer. (WAQ53072)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael ynghylch codi tâl am apwyntiadau a gollwyd heb reswm. (WAQ53069)
Chris Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y cynnig i gau cartref i’r Henoed Eiddil eu Meddwl ym Mryneithin, Bro Morgannwg. (WAQ53071)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd i weithredu argymhellion adroddiad Grant Thornton i gynyddu cyllid blynyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru. (WAQ53059)