Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2009 i’w hateb ar 20 Chwefror 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa dargedau neu amcangyfrifon y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u gwneud o ran y capasiti ar gyfer nifer y swyddi mewn canolfannau Technium dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ53445)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r ffigur 1,297, neu ffigur tebyg, a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel targed neu ddisgwyliad o ran capasiti’r canolfannau technium ar gyfer nifer y swyddi yn y rhwydwaith technium ar unrhyw un adeg. (WAQ53446)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd gafodd y Gwasanaeth Sgrinio Retinopatheg Diabetig yng Nghymru ei archwilio diwethaf ar gyfer (i) gwerth am arian; (ii) effeithiolrwydd clinigol, a beth oedd canlyniadau'r archwiliad. (WAQ53442)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw’r Gweinidog wedi ystyried cynnwys y Gwasanaeth Sgrinio Retinopatheg Diabetig yng Nghymru yn y strwythurau iechyd cyhoeddus arfaethedig newydd ochr yn ochr â sgrinio’r fron a cheg y groth. (WAQ53443)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cost y pen y broses sgrinio ar gyfer pobl sy’n cael eu sgrinio ar gyfer retinopatheg diabetig. (WAQ53444)