20/02/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2013 i’w hateb ar 20 Chwefror 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch lleoli swyddog Llywodraeth Cymru parhaol yn San Francisco, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a yw hon yn swydd newydd ynteu a gaiff ei llenwi drwy symud swyddog sydd eisoes yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac, os felly, pa ystyriaeth a roddwyd i gost adleoli'r aelod o staff. (WAQ62252)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at y cyhoeddiad ynghylch lleoli swyddog Llywodraeth Cymru parhaol yn San Francisco, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau’r amcangyfrif o gost flynyddol swyddfa’r swyddog. (WAQ62253)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at y cyhoeddiad ynghylch lleoli swyddog Llywodraeth Cymru parhaol yn San Francisco, a wnaiff y Prif Weinidog ddatgelu gradd a graddfa gyflog y swyddogaeth. (WAQ62254)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o swyddi newydd sydd wedi cael eu creu o ganlyniad i Ardal Fenter Sain Tathan. (WAQ62255)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o fusnesau sydd wedi symud i Ardal Fenter Sain Tathan ers ei sefydlu, gan roi enw pob busnes a phryd yr oedd wedi symud i’r ardal fenter. (WAQ62256)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pa gyfarfodydd y mae’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd wedi’u cael gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU a’r Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch y sgandalau cig ceffyl. (WAQ62257)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ynghylch achos busnes a chostau Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddwyd ar 17 Ionawr 2013, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r costau ym mhob categori a nodwyd, gan gynnwys a) newid TGCh, b) cydwasanaethau’r Comisiwn Coedwigaeth, ac c) pensiynau. (WAQ62258)