20/02/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2017 i'w hateb ar 20 Chwefror 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet restru'r holl ganolfannau iechyd yng Nghymru sydd wedi'u hadeiladu ers mis Mai 2007, a'u cost? (WAQ72981)W

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet restru o dan ba drefn ariannol yr adeiladwyd pob canolfan iechyd a adeiladwyd yng Nghymru ers 2007, ee. bwrdd iechyd, meddygon teulu eu hunain, cwmni preifat neu fel arall? (WAQ72982)W


Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa ganolfannau iechyd a adeiladwyd yng Nghymru ers 2007 sydd wedi eu hadeiladu o dan drefn PFI neu gynllun tebyg? (WAQ72983)W

Derbyniwyd ateb ar 23 Chwefror 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething):

Ceir manylion yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi.

 http://www.cynulliad.cymru/written%20questions%20documents/information%20further%20to%20written%20assembly%20questions%2072981-83/17-02-20%2072981-83%20w.pdf


Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A oes cyfarwyddyd i'r byrddau iechyd o ran y modd yr ariennir canolfannau iechyd newydd? (WAQ72984)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Chwefror 2017

Vaughan Gething: Mae canllawiau ar gyflawni prosiectau cyfalaf drwy Raglen Cyfalaf Cymru Gyfan i'w gweld yng Nghanllawiau Buddsoddi yn Seilwaith y GIG. Fe gafodd y ddogfen hon ei hadolygu a'i chyhoeddi ym mis Mawrth 2015, yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru (2015) 012.

http://gov.wales/docs/dhss/publications/150331whc012en.pdf

Mae'r fframwaith ar gyfer cyflawni prosiectau drwy fodel arian refeniw i'w weld yn y Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol – Costau Adeiladau) (Cymru) 2015

http://gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/nhswales/2015/2015direct9/?skip=1&lang=cy
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu canllawiau'r Grant Amddifadedd Disgyblion fel y gellir darparu cymorth ychwanegol uniongyrchol i bob disgybl yn hytrach na dim ond y rhai a gaiff brydau ysgol am ddim?  (WAQ72980)

Derbyniwyd ateb ar 21 Chwefror 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Kirsty Williams): It is totally unacceptable for children's success to be determined by their social or economic circumstances. Underpinning all of our work is a belief that someone's ability to benefit from education should not be determined by where they live or what their income is. I will continue to reduce inequalities and remove barriers to education.

Entitlement to free school meals is used as a proxy for "deprivation". Learners living in the most deprived communities in Wales are more likely to require additional support to ensure equal access to opportunities for learning and to reach their potential. Over £93 million will be invested through the Pupil Deprivation Grant in 2017-18. I am considering how this significant investment can be best targeted to support our most disadvantaged learners and help close the attainment gap.  

Through our guidance we already encourage schools to adopt whole school approaches which potentially benefit all learners, but ensure the needs of disadvantaged learners are supported. This is an effective way of making best use of finite resources and enables schools, parents and carers to better support individual children, and contribute towards education at school and at home. 

Millbrook Primary School in Newport adopts a team approach to its Family Learning Programme and uses PDG to employ a Pupil and Family Engagement Officer to work with the whole-school community to determine an annual programme of family learning activities. Activities include a family reading café; family literacy and numeracy workshops linked to the national tests; family learning workshops and digital learning café. The number of parents engaging with their child's learning has increased by 50%. The gap in performance between learners eligible for free school meals (eFSM) and those learners not eligible for free school meals (non-eFSM) has closed.